Johan Ludvig Runeberg

Bardd Ffinnaidd-Swedaidd yn yr iaith Swedeg oedd Johan Ludvig Runeberg (5 Chwefror 18046 Mai 1877) a ystyrir yn fardd cenedlaethol y Ffindir. Câi ei gerddi, caneuon, ac emynau ddylanwad pwysig ar ddeffroad cenedlaethol y Ffiniaid yn y 19g, yn ogystal â llên y Ffindir a llenyddiaeth Swedeg yn gyffredinol. Ei waith enwocaf ydy'r arwrgerdd "Fänrik Ståls sägner", sydd yn cynnwys "Vårt land" (anthem genedlaethol y Ffindir).

Johan Ludvig Runeberg
Portread o Johan Ludvig Runeberg gan Albert Edelfelt (1893).
Ganwyd5 Chwefror 1804 Edit this on Wikidata
Jakobstad Edit this on Wikidata
Bu farw6 Mai 1877 Edit this on Wikidata
Porvoo Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Royal Academy of Turku Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Elk Hunters Edit this on Wikidata
Gwobr/auAthro Prifysgol (teitl anrhydeddus), Marchog Urdd y Seren Pegwn, Cadlywydd Urdd y Seren Begynol, Urdd Seren y Gogledd - Cadlywydd y Groes Uwch, Marchog Urdd y Dannebrog, Urdd Sant Anna, Ail Ddosbarth Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.runeberg.net Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ef i deulu o dras Swedaidd yn Ostrobothnia, yng ngorllewin y Ffindir, ac astudiodd yn yr Academi Imperialaidd yn Turku. Dylanwadwyd arno gan dirwedd a diwylliant gwerin y Ffindir, yn ogystal â mudiad Rhamantiaeth, a dechreuodd farddoni pan yn fyfyriwr. Wedi iddo raddio, enillodd ei damaid fel athro ac academydd.

Daeth i'r amlwg yn fuan yn y 1830au trwy gyhoeddi sawl cyfrol o'i farddoniaeth a chaneuon, a thrwy sefydlu papur newydd llenyddol, yr Helsingfors Morgonblad. Cyfansoddai ar sawl ffurf, gan gynnwys y delyneg, y fugeilgerdd a'r faled, a nodweddir ei waith gan themâu Rhamantaidd a chenedlaetholgar: serch, natur, hanes, a'r werin. Ei gampwaith ydy'r arwrgerdd wladgarol '"Fänrik Ståls sägner" (1848–60) sy'n ymwneud â'r rhyfel rhwng Sweden a Rwsia dros reolaeth y Ffindir ym 1808–09. Cyfrannai'n helaeth at emyniadur newydd Eglwys Lwtheraidd Efengylaidd y Ffindir, gan ennill ei le hefyd yn llenyddiaeth grefyddol ei wlad.

Yn ogystal â'i orchestion llenyddol a'i yrfa academaidd, gwasanaethodd Runeberg yn aelod o Senedd y Ffindir. Dethlir ei ben-blwydd yn y Ffindir, ac enwir crwst traddodiadol, y Runebergstårta, ar ei ôl.

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Ganed Johan Ludvig Runeberg ar 5 Chwefror 1804 yn Jakostad/Pietarsaari yn nhalaith Ostrobothnia, pan oedd y Ffindir dan reolaeth Teyrnas Sweden. Efe oedd yr hynaf o chwech o blant a anwyd i Lorenz Ulrik Runeberg ac Anna Maria Runeberg (Malm gynt). Capten llong oedd Lorenz Runeberg, a chanddo addysg ddiwinyddol, ac yn fab i fewnfudwr o Sweden.[1] Merch o deulu o farsiandïwyr oedd Anna, a oedd hefyd mae'n debyg yn disgyn o ymfudwyr Swedaidd. Cychwynnodd rhyfel rhwng Sweden ac Ymerodraeth Rwsia pan oedd Johan yn bedair blwydd oed, ac yn sgil buddugoliaeth y Rwsiaid ym 1809 daeth Uchel Ddugiaeth y Ffindir dan dra-arglwyddiaeth yr ymerodraeth. Cafodd Johan felly ei fagu gan rieni o dras Swedaidd, gyda'r Swedeg yn iaith yr aelwyd a'r ysgol yn Jakobstad, mewn gwladwriaeth Ffinnaidd led-annibynnol ar ei phrifiant.

Fe'i anfonwyd yn wyth oed i fyw gyda'i ewythr i'r gogledd yn Oulu, ac yno parhaodd â'i addysg am dair mlynedd cyn mynychu'r gymnasiwn yn Vaasa. Saith mlynedd yn ddiweddarach, yn nhymor yr hydref 1822, aeth Runeberg i gyflawni ei addysg bellach yn Academi Imperialaidd Åbo/Turku (bellach Prifysgol Turku), yn nhalaith y Wir Ffindir yn ne-orllewin y wlad. Ymhlith ei gyd-fyfyrwyr oedd Johan Vilhelm Snellman (athronydd a gwleidydd cenedlaetholgar), Elias Lönnrot (casglwr y Kalevala), a Zachris Topelius (bardd ac hanesydd)—dyma felly cenhedlaeth a fyddai'n cael rhan flaenllaw wrth sefydlu llenyddiaeth ysgrifenedig genedlaethol ac hunaniaeth Ffinnaidd yn y 19g. Enillodd arian drwy diwtora plant o deuluoedd cyfoethog yng nghanolbarth y Ffindir yn ystod yr haf, ac yno yng nghefn gwlad daeth i glywed yr iaith Ffinneg ar lafar ac i ddysgu am ddiwylliant a chymdeithas y werin. Dylanwadwyd arno'n gryf gan y dirwedd a'r golygfeydd pictiwrésg, a chan y straeon am y rhyfel rhwng Sweden a Rwsia a glywodd oddi ar y bobl leol.[1] Hwn oedd cyfnod twf cenedlaetholdeb Rhamantaidd ar draws Ewrop, a châi argraff ar y bardd ifanc.

Gyrfa lenyddol

golygu

Yn ystod ei amser yn Turku, dechreuodd Runeberg gyfrannu cerddi i bapurau newydd lleol.[1] Wedi iddo dderbyn ei ddoethuriaeth o Academi Imperialaidd Åbo ym 1827, dychwelodd i ganolbarth y wlad i diwtora ar ystad ym Saarijärvi.[2] Ym 1827 hefyd dinistriwyd Turku gan dân enfawr, a thros dro symudwyd yr Academi Imperialaidd i'r brifddinas Helsinki. Symudodd Runeberg yno hefyd ym 1830, a chafodd swydd ysgrifennydd i gyngor yr academi.[1] Mae ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, Dikter (1830), yn tynnu ar ei brofiadau yn y canolbarth, ac yn cyfleu edmygedd y bardd o fywyd tawel y boblogaeth wledig. Daeth un o'i gymeriadau, y Ffermwr Paavo, yn archdeip o'r gwerinwr cryf a dewr, ac yn bersonoliad o gysyniad diwylliannol sisu, sef dygnwch ac hirymaros stoicaidd. Fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn yr iaith Ladin a'i llenyddiaeth yn yr Academi Imperialaidd ym 1831.[2]

Priododd â Fredrika Charlotta Tengström, merch i'r Archesgob Jakob Tengström, ym 1831, a chawsant wyth o blant, gan gynnwys y cerflunydd Walter Runeberg. Gweithiodd Johan yn athro ysgol uwchradd i gynnal ei deulu, a dechreuodd y pâr ifanc dderbyn lletywyr am arian ychwanegol, gan gynnwys ei hen gyd-fyfyriwr Zachris Topelius. Yn ddiweddarach, daeth Fredrika hefyd yn llenor Swedeg nodedig, am iddi arloesi'r nofel hanesyddol yn y Ffindir.[1] Ym 1832 cyhoeddodd Runeberg ei arwrgerdd Elgskyttarne ("Yr Helwyr Elcod"), a sefydlodd ei bapur newydd llenyddol, yr Helsingfors Morgonblad. Byddai'r cyfnodolyn yn ddylanwadol yn y Ffindir ac yn Sweden, ac ymhlith y cyfranwyr toreithiog oedd ei hen gyfaill Elias Lönnrot. Erbyn iddo gyhoeddi arwrgerdd arall, Hanna, ym 1836, fe'i cydnabyddwyd yn feistr gwychaf barddoniaeth Swedeg, yn ail i Esaias Tegnér.[2]

Penodwyd Runeberg yn athro llenyddiaeth Ladin a Groeg yng Ngholeg Borgå/Porvoo ym 1837, ac yno fe ymsefydlodd am weddill ei oes. Gweithiodd yn ddarlithydd yn y clasuron hyd at 1857, ac yn rheithor y coleg o 1847 i 1850.[2] Ym 1839 gwobrwywyd iddo fedal aur oddi ar Academi Sweden i gydnabod ei ramant fydryddol "Grafven i Perho" ("Bedd Perho"; 1831).[1] Ym 1844 cyhoeddodd Kung Fjalar, cylch o ramantau mydryddol diodl yn seiliedig ar chwedlau Llychlynnaidd. Cyhoeddwyd ei gampwaith, yr arwrgerdd "Fänrik Ståls sägner" ("Straeon y Llumanwr Stål"), mewn rhannau rhwng 1848 a 1860. Byddai'r cerddi gwladgarol hyn, sydd yn tynnu'n gryf ar atgofion gwerinwyr o ryfel Sweden a Rwsia, yn hynod o boblogaidd, a daeth y gerdd gyntaf, "Vårt land" ("Ein Gwlad"), yn eiriau i anthem genedlaethol y Ffindir. Gwelir dylanwad y clasuron yn ei farddoniaeth, a glodforir am gyfuno clasuriaeth â Rhamantiaeth a realaeth.[2]

Diwedd ei oes

golygu

Wrth droi'n 60 oed, dioddefai Runeberg barlys, ac nid oedd yn medru ysgrifennu am y 13 mlynedd olaf o'i oes.[2] Bu farw Johan Ludvig Runeberg ar 6 Mai 1877 yn Borgå yn 73 oed.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 (Saesneg) "Johan Ludvig Runeberg", Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 24 Mai 2023.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 (Saesneg) Johan Ludvig Runeberg. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Mai 2023.