John Allan Rolls, Barwn 1af Llangatwg
Roedd John Allan Rolls, Barwn 1af Llangatwg (19 Chwefror 1837 – 24 Medi 1912) yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Ceidwadol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir Fynwy o 1880 i 1885.
John Allan Rolls, Barwn 1af Llangatwg | |
---|---|
Ganwyd | 19 Chwefror 1837 |
Bu farw | 24 Medi 1912 |
Man preswyl | Yr Hendre |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Tad | John Etherington Welch Rolls |
Mam | Elizabeth Mary Long |
Priod | Georgiana Rolls, Barwnes Llangatwg |
Plant | John Rolls, Charles Rolls, Henry Allan Rolls, Eleanor Shelley-Rolls |
Bywyd personol
golyguRoedd Rolls yn unig fab John Etherington Welch Rolls, Yr Hendre ac Elizabeth Mary Long, ei wraig.
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton ac Eglwys Crist, Rhydychen
Ym 1868 priododd Georgiana Marcia Maclean, merch i Syr Charles Maclean Fitzroy, 9fed Barwnig Morvaren a bu iddynt bedwar o blant:
- Yr Anrh. John Maclean Rolls (1870-1916) 2il Farwn Llangatwg; a fu farw yn ddi-briod yn y Rhyfel Byd Cyntaf[1]
- Yr Anrh. Henry Alan Rolls (1871-1916)
- Yr Anrh. Eleanor Georgiana Rolls (1872-1961)
- Yr Anrh. Charles Stewart Rolls (1877-1910) y Rolls yng nghwmni Rolls-Royce
Gwasanaeth milwrol
golyguGwasanaethodd Rolls fel Capten yng Nghatrawd Iwmyn Royal Hussars, Swydd Gaerloyw ac fel Cyrnol, er anrhydedd, ym mhedwaredd frigâd y Royal Field Artillery (Cymru)
Gyrfa Cyhoeddus
golyguPenodwyd Rolls yn Uchel Siryf Sir Fynwy ym 1875, a bu'n aelod seneddol dros Sir Fynwy o 1880 i 1885. Ym 1892 fe'i codwyd i'r bendefigaeth fel Barwn Llangatwg[2]. Gwasanaethodd fel Maer Trefynwy ym 1896 - 1897.
Roedd yn aelod blaenllaw o'r Seiri Rhyddion, gan wasanaethu fel Uwch Meistr Talaith De Cymru o'r urdd ym 1894. Roedd, hefyd, yn aelod blaenllaw o'r Gymdeithas Gwrth Fywddyraniad, (arbrofi ar anifeiliaid byw S: vivisection), er gwaetha'r ffaith ei fod yn frwd dros yr helfa; sefyllfa a barodd i rai meddygon i'w gyhuddo o ragrith[3].
Bu yn gymwynaswr i nifer o achosion cyhoeddus yn Sir Fynwy a Threfynwy; yn Ebrill 1901 derbyniodd Rhyddid Bwrdeistref Trefynwy 'mewn cydnabyddiaeth o'i haelioni.
Roedd yn Gymrawd o Gymdeithas yr Hynafiaethwyr ac adferwyd nifer o eglwysi Sir Fynwy ar haelioni ei gyfraniadau ariannol.
Gardd achau
golyguJames James, Mynwy | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Sarah | Dr. Elisha Coysh o Lundain | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
?Anhysbys? | William Allen | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
?Anhysbys? | Thomas Coysh (cefnder) | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
John Rolls (1735–1801) o Bermondsey | Sarah (m. 1801) | Richard Coysh (dim plant) | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
John Rolls o'r Hendre (1776–1837) | Martha Maria Barnet | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
John Etherington Welch Rolls (1807–70) | Elizabeth Mary Long | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
John Allan Rolls (1837–1912) (A.S. dros Sir Fynwy) | Georgiana Marcia Maclean (1837 – 1923) | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
John Maclean Rolls (1870–1916) | Henry Alan Rolls (1871–1916) | Eleanor Georgiana Rolls (1872–1961) | Charles Stewart Rolls (1877–1910) (perchennog Rolls Royce) | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "THE LATE MAJOR LORD LLANGATTOCK - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1919-12-05. Cyrchwyd 2015-07-18.
- ↑ London Gazette 23 Medi 1892 [1] adalwyd 19 Mehefin 2015
- ↑ Journal of the BMA: Correspondence Cyhoeddwyd: 9 Mai 1901
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Yr Arglwydd Henry Somerset |
Aelod Seneddol Sir Fynwy 1880 – 1885 |
Olynydd: diddymu'r etholaeth |
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig | ||
Rhagflaenydd: Newydd |
Barwn Llangatwg 1892–1912 |
Olynydd: John Maclean Rolls |