John Barlow

gwleidydd Cymreig (bu farw ym 1718)

Roedd John Barlow (bu farw 30 Ionawr 1718) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol etholaeth Hwlffordd rhwng 1715 a 1718 [1]

John Barlow
Bu farw30 Ionawr 1718 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 5ed Senedd Prydain Fawr Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Roedd yn fab i John Barlow, Lawrenny, Sir Benfro a Dorothy merch ac etifedd Thomas Barlow, Hwlffordd

Priododd Anne ferch Syr Hugh Owen 2il Farwnig ac AS Bwrdeistrefi a Sir Benfro rhwng 1678 a 1695. Bu iddynt saith mab a dwy ferch

Gyrfa golygu

Etifeddodd ystâd Lawrenny ar farwolaeth ei dad yn 1701

Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Benfro ym 1705

Gyrfa Wleidyddol golygu

Safodd yn erbyn ei gefnder (gweler y nodyn isod) Syr George Barlow, Slebets, mewn isetholiad ym Mai 1715 yn dilyn marwolaeth John Laugharne, George fu'n fuddugol ond cyflwynodd John ddeiseb yn erbyn y canlyniad i'r Senedd gan honni bod George wedi derbyn pleidleisiau gan bobl oedd yn derbyn cardod gan y plwyf, pobl oedd heb yr etholfraint. Llwyddodd y ddeiseb, ddiddymwyd etholiad George a rhoddwyd y sedd i John.

Dim ond unwaith bu i John Barlow pleidleisio yn y Senedd, gan gefnogi'r llywodraeth ar ddeddf i ehangu eisteddiadau seneddol o 3 i 7 mlynedd. Wedi pasio'r ddeddf caniatawyd i'r Senedd a etholwyd ym 1715 eistedd hyd 1722 yn hytrach na 1718 ond ni fu'r ehangiad o fudd i John gan iddo farw ym 1718.

nodyn golygu

Mae rhai ffynonellau (er enghraifft The Parliamentary History of the Principality of Wales gan W R Williams)[2] yn awgrymu bod John Barlow a Syr George Barlow yn frodyr. Camgymeriad a achoswyd gan aelodau o'r un teulu yn ailddefnyddio'r un enwau bedydd tro ar ôl tro. Roedd Syr George Barlow yn frawd i John Barlow AS Sir Benfro 1710 - 1715, ond nid y John Barlow uchod [3]

Cyfeiriadau golygu

Senedd Prydain Fawr
Rhagflaenydd:
George Barlow
Aelod Seneddol Hwlffordd
17151718
Olynydd:
Syr John Philipps