John Barlow (AS)
Roedd Syr John Barlow (tua 1682 – 29 Hydref 1739) yn Aelod Seneddol Torïaidd Cymreig.[1]
John Barlow | |
---|---|
Ganwyd | 1682, 1678 |
Bu farw | 29 Hydref 1739, Tachwedd 1739 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 3ydd Senedd Prydain Fawr, Aelod o 4edd Senedd Prydain Fawr |
Tad | Sir John Barlow, 1st Bt. |
Mam | Catharine Middleton |
Priod | Anne Harcourt, Ann Skrine |
Plant | George Barlow, Catherine Barlow |
Roedd yn fab i Syr John Barlow, barwnig cyntaf Slebets a Minwerea a Catherine, merch Christopher Middleton o Neuadd Middleton Caerfyrddin.
Bu'n briod ddwywaith. Ar 1 Mai 1708 priododd ei wraig gyntaf Anne (bu farw. 1733), merch Syr Simon Harcourt o Stanton Harcourt, Swydd Rhydychen bu iddynt 6 mab ac 1 ferch, ond bu pump o'r meibion marw o'i flaen ef. Tua 1734 priododd ei ail wraig Anne, merch Richard Skrine o Warleigh Manor Gwlad yr Haf bu iddynt un ferch.
Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir Benfro rhwng 1710 a 1715, gan gael ei ddisgrifio fel Violent Tory gan ei wrthwynebwyr ym mhlaid y Chwigiaid. Bu ei frawd George Barlow 2il Farwnig yn Aelod Seneddol Aberteifi a Hwlffordd a bu ei fab George Barlow (bu farw 1756) yn Aelod Seneddol Hwlffordd hefyd.
Cyfeiriadau
golyguSenedd Prydain Fawr | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Wirriot Owen |
Aelod Seneddol Sir Benfro 1710 – 1715 |
Olynydd: Arthur Owen |