Slebets
Pentref bychan yng nghymuned Uzmaston, Boulston a Slebets, Sir Benfro, Cymru, yw Slebets[1] (Saesneg: Slebech). Cyn 2012 roedd yn gymuned ynddo'i hun. Saif yng ngorllewin y sir, i'r dwyrain o dref Hwlffordd ger priffordd yr A40, ar lan ogleddol Afon Cleddau Ddu. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 172.
Math | pentrefan, cymuned |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro |
Sir | Uzmaston, Boulston a Slebets |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.8033°N 4.865°W |
Cod SYG | W04000473 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Samuel Kurtz (Ceidwadwyr) |
AS/au | Henry Tufnell (Llafur) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[3]
Hanes
golyguRoedd gan urdd Marchogion Sant Ioan gomawndri yn Slebets; yr unig un yng Nghymru. Sefydlwyd hwn gan arglwyddi Cas-wis tua chanol y 12g. Pan ddiddymwyd y mynachlogydd yn y 16g, daeth eglwys y comawndri yn eglwys y plwyf. Yn yr eglwys mae bedd William Hamilton, oedd yn un o sylfaenwyr tref Aberdaugleddau; mae'n fwy enwog oherwydd i'w wraig, Emma, gael carwriaeth adnabyddus a'r Arglwydd Nelson.
Saif Castell Pictwn o fewn y gymuned, ac yn 2006 dechreuwyd adeiladu pentref gwyliau Bluestones yma. Bu llawer o brotestion ynghylch y cynllun, gan fod rhan o'r safle ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Pobl o Slebets
golyguBachgen o Slebets oedd Roger Barlow a fu ar fordaith gyda Sebastian Cabot yn 1526 ac a gyfieithodd y Suma de Geographie o'r Sbaeneg i'r Saesneg; sef disgrifiad o diroedd y Byd Newydd.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
Dinas
Tyddewi
Trefi
Aberdaugleddau · Arberth · Abergwaun · Cilgerran · Dinbych-y-pysgod · Doc Penfro · Hwlffordd · Neyland · Penfro · Wdig
Pentrefi
Aber-bach · Abercastell · Abercuch · Abereiddi · Aberllydan · Amroth · Angle · Begeli · Y Beifil · Blaen-y-ffos · Boncath · Bosherston · Breudeth · Bridell · Brynberian · Burton · Caeriw · Camros · Cas-blaidd · Cas-fuwch · Cas-lai · Cas-mael · Cas-wis · Casmorys · Casnewydd-bach · Castell Gwalchmai · Castell-llan · Castellmartin · Cilgeti · Cil-maen · Clunderwen · Clydau · Cold Inn · Cosheston · Creseli · Croes-goch · Cronwern · Crymych · Crynwedd · Cwm-yr-Eglwys · Dale · Dinas · East Williamston · Eglwyswen · Eglwyswrw · Felindre Farchog · Felinganol · Freshwater East · Freystrop · Y Garn · Gumfreston · Hasguard · Herbrandston · Hermon · Hook · Hundleton · Jeffreyston · Johnston · Llanbedr Felffre · Llandudoch · Llandyfái · Llandysilio · Llanddewi Efelffre · Llanfyrnach · Llangolman · Llangwm · Llanhuadain · Llanisan-yn-Rhos · Llanrhian · Llanstadwel · Llan-teg · Llanwnda · Llanychaer · Maenclochog · Maenorbŷr · Maenordeifi · Maiden Wells · Manorowen · Marloes · Martletwy · Mathri · Y Mot · Mynachlog-ddu · Nanhyfer · Niwgwl · Nolton · Parrog · Penalun · Pentre Galar · Pontfadlen · Pontfaen · Porth-gain · Redberth · Reynalton · Rhos-y-bwlch · Rudbaxton · Rhoscrowdder · Rhosfarced · Sain Fflwrens · Sain Ffrêd · Saundersfoot · Scleddau · Slebets · Solfach · Spittal · Y Stagbwll · Star · Stepaside · Tafarn-sbeit · Tegryn · Thornton · Tiers Cross · Treamlod · Trecŵn · Tredeml · Trefaser · Trefdraeth · Trefelen · Trefgarn · Trefin · Trefwrdan · Treglarbes · Tre-groes · Treletert · Tremarchog · Uzmaston · Waterston · Yerbeston