Y Goleuad
Papur newydd y Methodistiaid Calfinaidd yw Y Goleuad.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | papur wythnosol, papur newydd ![]() |
---|---|
Golygydd | John Davies, John Roberts ![]() |
Cyhoeddwr | John Davies, Evan William Evans ![]() |
Rhan o | Papurau Newydd Cymreig Ar-lein ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 30 Hydref 1869 ![]() |
Lleoliad cyhoeddi | Dolgellau, Caernarfon, Caernarfon ![]() |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus ![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/ca/Y_Goleuad_Oct_30_1869.jpg/170px-Y_Goleuad_Oct_30_1869.jpg)
Cafodd ei sefydlu ar 1 Hydref 1869 yn bapur Sul a ymddangosai pob pythefnos ac a gostiodd 2 geiniog y copi.[1]
Gwyneddon, oedd ei olygydd cyntaf ac mae golygyddion eraill y papur yn cynnwys enwau adnabyddus fel Ieuan Gwyllt, E. Morgan Humphreys, T.E. Jones, T. Lloyd Jones, G. Wynne Griffith, Harri Parri ac Elfed ap Nefydd Roberts.
Roedd y papur yn gadarn o blaid Dirwest ar droad yr 20g a hyrwyddai Radicaliaeth gymhedrol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Newspapers 1800 - 1900. GALE Gengae Learning (2009). Adalwyd ar 4 Mai 2012.