Peter Bailey Williams
Hynafiaethydd a chyfieithydd o Gymru oedd Peter Bailey (neu Bayley) Williams (Awst 1763 - 22 Tachwedd, 1836). Roedd yn fab i'r clerigwr Methodistaidd ac esboniwr Beiblaidd dylanwadol Peter Williams (1723-1796).
Peter Bailey Williams | |
---|---|
Ganwyd | 1763 Llandyfaelog |
Bu farw | 22 Tachwedd 1836 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfieithydd |
Tad | Peter Williams |
Bywgraffiad
golyguCafodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen. Fe'i penodwyd yn berson Llanrug, ger Caernarfon. Roedd yn gyfaill i'r bardd Dafydd Ddu Eryri a chododd gofgolofn iddo ym mynwent eglwys y plwyf ar ei farwolaeth yn 1822. Gwasanaethai yn ogystal ym mhlwyf Llanberis.[1]
Roedd gan Peter Bailey Williams ddiddordeb mawr yn hynafiaethau Cymru a chyfrannodd nifer o erthyglau ar y pwnc, yn Gymraeg a Saesneg, i gylchgronau'r dydd fel Y Geirgrawn, The Cambro-Briton a'r Cambrian Quarterly. Cyhoeddodd arweinlyfr Saesneg i'r hen Sir Gaernarfon yn 1821 a ddaeth yn boblogaidd iawn ac sy'n llawn o fanylion gan awdur a garai'r fro a'i hanes.[2]
Fel cyfieithydd cyhoeddodd gyfieithiadau o ddau o lyfrau Richard Baxter dan y teitlau Tragwyddol Orffwysfa'r Saint (1825) a Galwad ar yr Annychweledig (1825).[2]
Llawysgrifau
golyguPasiwyd ei lawysgrifau i feddiand John Davies, Gwyneddon, argraffwr a golygydd sawl papur Cymraeg yn yr 19g.
Llyfryddiaeth
golygu- The Tourist's Guide through the County of Caernarvon (Caernarfon, 1821)
- (cyfieithiad) Tragwyddol Orffwysfa'r Saint (1825)
- (cyfieithiad) Galwad ar yr Annychweledig (1825)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a Llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Lerpwl, 1922).
- ↑ 2.0 2.1 Charles Ashton, Hanes Llenyddiaeth Gymreig o 1650 hyd 1850 (Lerpwl, 1893).