John Ellis Williams (1901-1975)
Awdur a dramodydd Cymraeg oedd John Ellis Williams (19 Ebrill 1901 – 7 Ionawr 1975). Cyhoeddai dan yr enw J. Ellis Williams.
John Ellis Williams | |
---|---|
Ganwyd | 19 Ebrill 1901 Penmachno |
Bu farw | 7 Ionawr 1975 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, dramodydd |
Bywgraffiad
golyguGaned ef ym mhentref Penmachno, ac addysgwyd ef yn Ysgol y Sir, Llanrwst. Hyfforddodd fel athro yng Ngholeg y Normal, Bangor, a bu'n dysgu ym Manceinion, Blaenau Ffestiniog a Llanfrothen cyn ymddeol yn 1961. Yn 1962, derbyniodd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru, ac MBE.[1]
Cyhoeddodd nifer fawr o nofelau, straeon byrion a dramâu, ac roedd yn gyfrannwr cyson i nifer o newyddiaduron. Cydweithredodd gyda Syr Ifan ab Owen Edwards i ysgrifennu a chynhyrchu y ffilm sain gyntaf yn Gymraeg, Y Chwarelwr, yn 1935. Ysgrifennodd nifer o lyfrau plant, yn cynnwys Haf a'i Ffrindiau (tri llyfr, 1929–1930) a Stori Mops (1952).[1]
Roedd yn arloeswr y nofel dditectif yn Gymraeg, gan ysgrifennu dwy gyfres ohonynt, sef Cyfres Hopkyn a Chyfres Parri, gyda phum nofel yn y ddwy.[1]
Llyfryddiaeth ddethol
golyguLlyfrau
golygu- Llyfrau plant (detholiad)
- Haf a'i Ffrindiau (tri llyfr, 1929-1930)
- Stori Mops (1952)
- Nofelau ditectif
1. Cyfres Hopkyn
- Y Gadair Wag
- Talu'r Pwyth
- Y Gymwynas Olaf (1959)
- Y Gwenith Gwyn
- Llwybrau Cam
2. Cyfres Parri
- Celwydd Golau
- Y Trydydd Tro
- Nos Galan
- Gwerin Gwyddbwyll (1967)
- Porth Ewyn
Astudiaethau
golygu- Meredydd Evans (gol.), Gŵr wrth Grefft: Cyfrol Deyrnged i J. Ellis Williams (Cyngor Llyfrau Cymraeg, 1974). Ceir llyfryddiaeth lawn yn y gyfrol hon.
- Elfyn Pritchard, "John Ellis Williams", yn Dewiniaid Difyr: Llenorion Plant Cymru hyd tua 1950, gol. Mairwen a Gwynn Jones (Gwasg Gomer, 1983)