John Evans, Llanegryn
Athro a bardd Cymraeg oedd John Evans. Bu'n brifathro Ysgol Llanegryn o 1941 hyd y pumdegau cynnar.
Enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, sef yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1952 gyda'r gerdd Dwylo ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ystradgynlais 1954 gyda'r gerdd Yr Argae. Roedd Yr Argae yn trafod boddi hen bentref Llanwddyn i greu cronfa ddŵr Llyn Llanwddyn. Bu hefyd yn feirniad mewn eisteddfodau.
Mae'r bardd ac awdur Aled Lewis Evans yn ŵyr iddo.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Llanegryn poem inspires North Wales International Music Festival", Cambrian News, 7 Awst 2023