Aled Lewis Evans
Bardd ac awdur yn Gymraeg a Saesneg yw Aled Lewis Evans. Ganwyd ym Machynlleth, a magwyd yn Abermaw. Cafodd ei addysg yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam ac ym Mhrifysgol Bangor. Cyhoeddwyd Tonnau, ei gasgliad cyntaf o gerddi, gan Barddas ym 1989.
Aled Lewis Evans | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, gweinidog yr Efengyl, darlledwr |
Adnabyddus am | Rhwng Dau Lanw Medi |
Bu'n darlledu am ddeng mlynedd ar radio lleol Sain y Gororau yn Saesneg ac yn Gymraeg, ac am bum mlynedd roedd yn gynhyrchydd a chyflwynydd llawn amser. Bu'n athro Saesneg, Cymraeg a Ffrangeg yn Ysgol Morgan Llwyd, ble roedd yn gyfrifol am Astudiaethau'r Cyfryngau, a drama yno. Gwobrwywyd ef dairgwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol: ym 1991 am ei Gyfrol o Gerddi i Bobl Ifanc, ym 1998 am fonolog ac ym 1999 am flodeugerdd o gerddi addas i'r oedran 12-14. Mae'n ysgrifennydd Cymdeithas Owain Cyfeiliog, yn arwain sawl grŵp trafod, darllen ac ysgrifennu yn Wrecsam ac yng Nghaer ac yn dysgu cwrs am lenyddiaeth Cymru yn Yr Wyddgrug.
Daeth o’n weinidog i Gapel y Groes, Wrecsam a Chapel Heol St John, Caer ar 16 Techwedd 2019.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Adlais - Deunydd Defosiynol ar Gyfer y Flwyddyn Eglwysig (Cyhoeddiadau'r Gair, 2007)
- Amheus o Angylion (Cyhoeddiadau Barddas, 2011)
- Aur yn y Gwallt (Straeon Byrion) (Gwasg y Bwthyn, 2004)
- Bro Maelor, Cyfres Broydd Cymru (Gwasg Carreg Gwalch, 1996)
- Dim Angen Creu Teledu Yma (Cyhoeddiadau Barddas, 2006)
- Llanw'n Troi (Cyhoeddiadau Barddas, 2001)
- Mendio Gondola (Cyhoeddiadau Barddas, 1997)
- Rhwng Dau Lanw Medi (Gwasg Carreg Gwalch, 1994)
- Troeon: Llyfr Erchwyn Gwely, Myfyrdod ar Gyfer Bob Dydd o'r Flwyddyn (Cyhoeddiadau'r Gair, 1998)
- Y Caffi (Gwasg Pantycelyn, 2002)
- Llinynnau (Cyhoeddiadau Barddas, 2016)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan annibynwyr.org" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-10-29. Cyrchwyd 2020-09-17.
Ffynonellau
golygu- Llenyddiaeth Cymru Archifwyd 2014-03-02 yn y Peiriant Wayback
- Blog Americymru Archifwyd 2016-03-26 yn y Peiriant Wayback