John Evans (AS Hwlffordd)

gwleidydd Cymreig (1795–1864)

Roedd John Evans (1796 - 17 Hydref 1864) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Hwlffordd rhwng 1847 a 1852[1]

John Evans
Ganwyd1795 Edit this on Wikidata
Hwlffordd Edit this on Wikidata
Bu farw1864 Edit this on Wikidata
Buxton Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbargyfreithiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
PlantGeorge Essex Evans Edit this on Wikidata

Bywyd Personol

golygu

Ganwyd Evans yn Hwlffordd yn unig blentyn i'r Parch John Evans, gweinidog capel Presbyteraidd St Thomas Green yn y dref a Mary ei wraig.

Cafodd ei addysgu yn Genefa a Phrifysgol Glasgow lle graddiodd BA

Bu'n briod ddwywaith ei wraig gyntaf oedd Ann Jane merch Henry Davies Llanisan-yn-Rhos ac yn ail Mary Ann merch Titus Owen, llawfeddyg, Hwlffordd. Ymysg plant John & Mary Ann Evans oedd y bardd Awstraliad George Essex Evans[2]

Cafodd ei alw i'r bar yn Lincoln's Inn ym 1820 a bu'n gweithio ar gylchdaith Rhydychen a chylchdaith de Cymru. Fe'i codwyd yn Gwnsler y Frenhines ym 1837

Gyrfa Wleidyddol

golygu

Pan godwyd Syr Richard Bulkley Philipps i'r bendefigaeth fel Arglwydd Aberdaugleddau cafodd Evans ei ddewis fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol i'w olynu ac fe'i hetholwyd yn ddiwrthwynebiad. Yn yr etholiad cyffredinol nesaf, a gynhaliwyd ym 1852, cafodd ei drechu gan yr ymgeisydd Ceidwadol John Henry Phillips. Safodd fel ymgeisydd yn isetholiad Aberteifi a achoswyd drwy farwolaeth yr aelod Rhyddfrydol Pryse Loveden, ond unwaith eto collodd y sedd i'r Ceidwadwyr

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn Buxton, Swydd Derby[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Williams, William Retlaw The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895
  2. Muller's Corner: Journey to Australia (and back again)
  3. "ITHELATEJOHNEVANSESQQCANDEXMPFORHAVERFORDWEST - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1864-10-28. Cyrchwyd 2017-01-22.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Richard Bulkeley Philipps Philipps
Aelod Seneddol Hwlffordd
18471852
Olynydd:
John Henry Scourfield