John Henry Scourfield

awdur, gwleidydd

Roedd John Henry Scourfield (30 Ionawr 18083 Mehefin 1876) yn wleidydd Ceidwadol Cymreig ac yn Aelod Seneddol dros etholaethau Hwlffordd a Sir Benfro.

John Henry Scourfield
Ganwyd30 Ionawr 1808 Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mehefin 1876 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcricedwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Bywyd Personol golygu

Ganwyd John Henry Phillips yn Clifton, Bryste yn fab i'r Cyrnol Owen Philips o Williamstown ger Hwlffordd ac Ann Elizabeth (née Scourfield) merch Henry Scourfield o blas y Môt. Ym 1862 etifeddodd John Henry ystâd y Môt trwy amodau ewyllys ei ewyrth William Henry Scourfield (a fu farw ym 1843) un o'r amod oedd ei fod yn mabwysiadu'r cyfenw Scourfield [1] Cafodd ei addysgu yn Harrow a Choleg Oriel, Rhydychen lle graddiodd BA (3ydd dosbarth) yn y clasuron ym 1828 ac MA ym 1832.

Ym 1845 priododd a Augusta merch John Lort Phillips a chwaer George Lort Phillips AS Sir Benfro 1861 i 1866; bu iddynt dau blentyn.

Criced golygu

Bu Scourfield yn gricedwr gyda statws bonheddwr gan chware i Glwb Criced Marylebone (MCC) gan chwarae ei gêm dosbarth cyntaf gyntaf ym 1830 [2]

Gyrfa golygu

Prif waith Scourfield oedd bod yn fonheddwr, tirfeddiannwr a landlord. Rhan o swyddogaeth ddisgwyliedig gŵr fonheddig oedd llenwi swyddi cyhoeddus. Bu Scoufield yn ynad heddwch ac yn aelod o'r llysoedd chwarter gan wasanaethu fel cadeirydd y llysoedd chwarter am gyfnod maith. Bu'n Siryf Sir Benfro ym 1833 a fu'n Arglwydd Raglaw Hwlffordd o 1857 hyd ei farwolaeth. Roedd yn ymddiriedolwr Banc Cynilo Sir Benfro a Chlafdy Hwlffordd ac yn gefnogwr nifer o elusennau ac achosion da [3]

Gyrfa Wleidyddol golygu

Wedi dyrchafiad Richard Bulkeley Philipps Philipps, AS Hwlffordd i'r bendefigaeth fel Arglwydd Aberdaugleddau, disgwyliwyd i Scourfield i gynnig ei enw fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol i'w olynu, ond enwebwyd John Evans arweinydd y bar yn neheubarth Cymru fel yr ymgeisydd; cafodd Evans ei ethol yn ddiwrthwynebiad. Yn etholiad cyffredinol 1852 safodd Scourfield yn erbyn Evans ar ran y Ceidwadwyr gan gipio'r sedd dros yr achos Ceidwadol. Parhaodd i gynrychioli’r sedd hyd etholiad cyffredinol 1868 pan benderfynodd sefyll dros sedd Sir Benfro. Bu'n cynrychioli'r sir hyd ei farwolaeth.

Cafodd ei greu yn farwnig ar 18 Chwefror, 1876.[4]

Llyfryddiaeth golygu

Cyhoeddodd Scourfield nifer o lyfrau o farddoniaeth ysgafn[5]:

  • Dies Landoveriensis, c. 1847, yn dychanu Coleg Llanymddyfri a oedd ar fin agor.
  • Lyrics and Philippics, Argraffiad preifat 1859 Argraffiad cyhoeddus gan G. Norman (Covent Garden) 1864
  • The Grand Serio-Comic Opera of Lord Bateman and his Sophia, 1863
  • Mayor's Tale: A Tragic and a Diabolic Opera. (dim dyddiad)

Marwolaeth golygu

Bu farw yn Llundain a rhoddwyd ei weddillion i orwedd yng nghladdgell y teulu yn Eglwys Burton, Sir Benfro. Olwynwyd o i'r farwniaeth can ei fab Owen.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Nicholas, Thomas, 1820- Annals and antiquities of the counties and county families of Wales... Cyf 2 T 460. (fersiwn ar-lein [1])
  2. Cricket Archive John Henry Phillips [2] adalwyd 27 Mehefin 2015
  3. 3.0 3.1 Tenby Observer 8 Mehefin 1876 Sir JH Scourfield Bart MP [3] adalwyd 27 Mehefin 2015
  4. Merthyr Telegraph 4 Chwefror 1876 New Baronets [4] adalwyd 27 Mehefin 2015
  5. Y Bywgraffiadur SCOURFIELD, neu PHILIPPS, Syr JOHN HENRY [5] adalwyd 27 Mehefin 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Evans
Aelod Seneddol Hwlffordd
18521868
Olynydd:
William Edwardes
Rhagflaenydd:
James Bevan Bowen
Aelod Seneddol Sir Benfro
18681876
Olynydd:
James Bevan Bowen