John Griffith (peiriannydd)
Peiriannydd sifil a gwleidydd a aned yng Nghymru oedd Syr John Purser Griffith (5 Hydref 1848 – 21 Hydref 1938).
John Griffith | |
---|---|
Ganwyd | John Purser Griffith 5 Hydref 1848 Caergybi |
Bu farw | 21 Hydref 1938 Dulyn |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Gwladwriaeth Rydd Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | peiriannydd sifil, peiriannydd, gwleidydd |
Swydd | Seneddwr Gwyddelig, Seneddwr Gwyddelig |
Roedd yn fab i'r gweinidog William Griffith (1801–1881). Addysgwyd John Griffith yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, ac enillodd drwydded mewn peirianneg sifil ym 1868.[1] Gwnaeth brentisiaeth dwy flynedd o dan Dr Bindon Blood Stoney, Prif Beiriannydd Porthladd Dulyn, cyn gweithio fel cynorthwy-ydd i'r syrfëwr sir yn Swydd Antrim. Dychwelodd i Ddulyn yn 1871 at ei hen feistr Dr. Stoney i weithio fel cynorthwy-ydd, gan ddod yn Brif Beiriannydd ym 1898. Ymddeolodd ym 1913.
Bu'n gwasanaethu fel llywydd Sefydliad y Peirianwyr Sifil yn Iwerddon rhwng 1887 a 1889[2] ac yn Sefydliad y Peirianwyr Sifil rhwng 1919 a 1920.[3] Cafodd ei ethol yn Gomisiynydd Goleuadau Iwerddon yn 1913, a bu'n aelod o'r Comisiwn Brenhinol ar Gamlesi a Dyfrffyrdd rhwng 1906 a 1911.
Yn 1922 etholwyd ef yn aelod o'r Seanad Éireann, senedd Gwladwriaeth Rydd Iwerddon, hyd nes iddo gael ei ddiddymu ym 1936.[4]
Bu farw yng Nghastell Rathmines yn Nulyn ar 21 Hydref 1938.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Cofiant Royal Dublin Society". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-11-19. Cyrchwyd 2017-11-27.
- ↑ "ICEI past presidents". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-11-19. Cyrchwyd 2017-11-27.
- ↑ Garth Watson, The Civils (Llundain: Thomas Telford, 1988), tud. 252
- ↑ "John Purser Griffith". Oireachtas Members Database. Cyrchwyd 16 Ionawr 2016.