John Griffiths

gwleidydd Cymreig

Gwleidydd Llafur o Gymru yw John Griffiths (ganwyd 19 Rhagfyr 1956). Ganed yng Nghasnewydd, Sir Fynwy, mae Griffiths yn Aelod o'r Senedd dros etholaeth Dwyrain Casnewydd, ers sefydlu'r Cynulliad yn 1999.

John Griffiths
AS
Aelod o Senedd Cymru
dros Ddwyrain Casnewydd
Deiliad
Cychwyn y swydd
6 Mai 1999
Rhagflaenwyd ganSefydlwyd y swydd
Mwyafrif4,896 (23.7%)
Gweinidog yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Mewn swydd
13 Mai 2011 – 14 Mawrth 2013
Prif WeinidogCarwyn Jones
Rhagflaenwyd ganJane Davidson
Dilynwyd ganCarl Sargeant [a]
Cwnsler Cyffredinol Cymru
Mewn swydd
9 Rhagfyr 2009 – 13 Mai 2011
Prif WeinidogCarwyn Jones
Rhagflaenwyd ganCarwyn Jones
Dilynwyd ganTheodore Huckle QC
Manylion personol
Ganwyd (1956-12-19) 19 Rhagfyr 1956 (67 oed)
Casnewydd, Sir Fynwy
Plaid wleidyddolLlafur Cyd-weithredol
Alma materPrifysgol Cymru
ProffesiwnGwleidydd
Bargyfreithiwr
a. ^ fel Gweinidog dros Adnoddau Naturiol

Addysg

golygu

Astudiodd y gyfraith fel myfyriwr hŷn ym Mhrifysgol Cymru.

Gyrfa broffesiynol

golygu

Cyn ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, roedd yn gyfreithiwr (cyfraith droseddol, anaf personol ac ymgyfreithiad sifil cyffredinol).

Gyrfa wleidyddol

golygu

Roedd Griffiths yn gynghorydd ar Gyngor Sir Gwent a CBC Chasnewydd. Roedd yn aelod o Fforwm Polisi Cenedlaethol y Blaid Lafur, Plaid Cyd-weithredol, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr a Fforwm Cyflogaeth Lawn. Mae'n weriniaethiwr. Mae'n aelod o undeb llafur ISTC. Mae wedi bod yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru dros Orllewin Casnewydd ers 1999.

Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys datblygu economaidd, cynhwysiant cymdeithasol, addysg ac Ewrop.

Yn Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, fe'i penodwyd yn Ddirprwy Weinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Pobl Hŷn) o fis Mai 2003 tan fis Mai 2007. Yn y Trydydd Cynulliad, fe'i penodwyd yn Ddirprwy Weinidog dros Addysg, Diwylliant a'r Iaith Gymraeg (31 Mai 2007) ac arhosodd yn y swydd honno pan cyhoeddwyd y llywodraeth glymblaid  rhwng Plaid Cymru a Llafur ar 19 Gorffennaf. Cefnogodd Carwyn Jones yn y gystadleuaeth arweinydd Plaid Lafur Cymru yn 2009. Cafodd ei benodi yn Gwnsler Cyffredinol ac yn Arweinydd y Rhaglen Ddeddfwriaethol yn y Cynulliad yn Rhagfyr 2009, swydd a wnaed yn flaenorol gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones.[1]

Cafodd ei benodi'n Weinidog yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn 2011 ond fe adawodd y swydd pan ad-drefnwyd y Cabinet yn 2014.[2]

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Welsh Assembly Government:John Griffiths AM". Welsh Assembly Government website. Welsh Assembly Government. 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-30. Cyrchwyd 16 May 2010.
  2. Leighton Andrews nôl yn y Cabinet , Golwg360, 11 Medi 2014. Cyrchwyd ar 9 Mai 2016.