Carl Sargeant
Gwleidydd o Gymro oedd Carl Sargeant (27 Gorffennaf 1968 – 7 Tachwedd 2017) a oedd yn Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant yn Llywodraeth Cymru.[2] Roedd wedi cynrychioli etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy ers iddo gael ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2003. Cafodd ei wahardd o'r Blaid Lafur ar 3 Tachwedd 2017 yn dilyn honiadau am ei ymddygiad a fe'i ganfuwyd yn farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Carl Sargeant | |
---|---|
Ganwyd | 27 Gorffennaf 1968 Llanelwy |
Bu farw | 7 Tachwedd 2017 o crogi Cei Connah |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Chief Whip, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, Minister for Local Government and Communities, Aelod o Ail Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Aelod o 3ydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Aelodau 4ydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Aelod o 5ed Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Aelod o 5ed Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cabinet Secretary for Communities and Children |
Plaid Wleidyddol | Llafur Cymru, y Blaid Lafur |
Plant | Jack Sargeant |
Carl Sargeant | |
---|---|
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant | |
Mewn swydd 19 Mai 2016 – 3 Tachwedd 2017 | |
Prif Weinidog | Carwyn Jones |
Rhagflaenwyd gan | Jeffrey Cuthbert |
Dilynwyd gan | Alun Davies[1] |
Aelod o Cynulliad Cenedlaethol Cymru dros Alun a Glannau Dyfrdwy | |
Mewn swydd 1 Mai 2003 – 7 Tachwedd 2017 | |
Rhagflaenwyd gan | Tom Middlehurst |
Dilynwyd gan | Jack Sargeant |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Sargeant yn Llanelwy, Sir Ddinbych. Cyn dod yn Aelod Cynulliad, roedd Sargeant yn gweithio yn y diwydiant gweithgynhyrchu mewn ffatri gemegol arbennigol yn Mostyn. Roedd hefyd yn archwilydd ansawdd ac amgylcheddol ac yn aelod o Dîm Ymateb Argyfwng y safle. Hyfforddodd fel diffoddwr tân diwydiannol a bu'n lywodraethwr yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy ac Ysgol Bryn Deva. [3]
Gyrfa
golyguCychwynnodd ei yrfa wleidyddol fel aelod o Gyngor Tref Cei Connah a bu'n byw yn y dref hyd ei farwolaeth. Datblygodd ei ddaliadau gwleidyddol pan ddaeth cynhyrchu dur i ben yng ngwaith Shotton yn 1980, a arweiniodd at gyfraddau uchel o ddiweithdra yn yr ardal. Daeth yn ymgyrchydd gweithgar dros gyfiawnder cymdeithasol ac yn erbyn trais yn y cartref..[3]
Etholwyd Sargeant i'r Cynulliad gyntaf yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2003, dan ddilyn Tom Middlehurst oedd wedi sefyll lawr.[4]
Yn y Trydydd Cynulliad, fe'i apwyntiwyd yn Brif Chwip y Grŵp Llafur a'i swydd gyntaf yn y Llywodraeth oedd y Dirprwy Weinidog dros Fusnes y Cynulliad. Parhaodd gyda swydd y Prif Chwip pan cyhoeddwyd y glymblaid rhwng Y Blaid Lafur a Phlaid Cymru ar 19 Gorffennaf.[5]
Yn Rhagfyr 2009, daeth yn Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yng nghabinet Carwyn Jones. Mewn cyfweliad gyda'r Flintshire Chronicle, soniodd Sargeant am ei falchder o fod yr unigolyn cyntaf o ogledd Cymru i ddal y swydd.[5]
Yn 2011 daeth yn Weinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau. Ym Mehefin 2011, diswyddodd y tri comisiynydd o Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gan ddweud bod y corff wedi colli hyder eu rhanddeiliaid.[6] Gwnaeth y ddau a oedd hefyd yn aelodau o Gomisiwn Ffiniau i Gymru ymddiswyddo o'i swyddi yno, ac arweiniodd hyn at y chweched adolygiad o etholaethau San Steffan i gael ei oedi yng Nghymru.[7]
Roedd wedyn yn Weinidog Tai ac Adfywio hyd at Medi 2014, pan gafodd ei benodi yn Weinidog Cyfoeth Naturiol.[8]
Yn dilyn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016, fe'i apwyntiwyd yn Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant Llywodraeth Cymru. Ar 3 Tachwedd 2017 fe gollodd ei swydd fel yn dilyn honiadau am aflonyddu rhywiol. Fe'i waharddwyd o'r Blaid Lafur hefyd tra fod ymchwiliad yn cael ei gynnal.
Marwolaeth
golyguAr 7 Tachwedd 2017 cafodd ei ddarganfod yn farw yn ei gartref yng Nghei Connah. Roedd ganddo wraig a dau o blant.[9]
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ei fod "mewn sioc ac yn drist iawn am ei farwolaeth. Fe wnaeth gyfraniad mawr i fywyd cyhoeddus Cymru a gweithiodd yn ddiflino dros y bobl roedd e'n eu cynrychioli fel Gweinidog ac Aelod Cynulliad".
Ar 11 Gorffennaf 2019, cyhoeddwyd canlyniad y cwest i'w farwolaeth a cofnododd y crwner, John Gittins, achos o hunan-laddiad. Dywedodd hefyd y dylai mwy o gefnogaeth gael ei roi i weinidogion sy'n colli'u swyddi.[10]
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Tom Middlehurst |
Aelod Cynulliad dros Alun a Glannau Dyfrdwy 2003 – 2017 |
Olynydd: Jack Sargeant |
Seddi'r cynulliad | ||
Rhagflaenydd: Brian Gibbons |
Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol 2009 – 2011 |
Olynydd: ad-drefnwyd y swydd |
Rhagflaenydd: swydd newydd |
Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau 2011 – 2013 |
Olynydd: ad-drefnwyd y swydd |
Rhagflaenydd: swydd newydd |
Gweinidog dros Adnoddau Naturiol 2013 – 2016 |
Olynydd: ad-drefnwyd y swydd |
Rhagflaenydd: Lesley Griffiths |
Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant 2016 – 2017 |
Olynydd: ad-drefnwyd y swydd |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Welsh Government | First Minister appoints new Ministerial team". gov.wales. Cyrchwyd 8 Tachwedd 2017.
- ↑ Busnes y Cynulliad - Rhaglenni, adroddiadau a chofnodion cyfarfodydd - Carl Sargeant. Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
- ↑ 3.0 3.1 Carl Sargeant AM - Proffil Aelod o'r Cynulliad. Cynulliad Cymru. Adalwyd ar 7 Tachwedd 2017.
- ↑ "'He made a big contribution to Welsh public life' – Carl Sargeant's role in politics". Daily Post. 7 Tachwedd 2017. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2017.
- ↑ 5.0 5.1 "Carl Sargeant: An authentically working class politician committed to social justice". Western Mail. 7 Tachwedd 2017. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2017.
- ↑ "Welsh local government boundary commissioners sacked". BBC News.
- ↑ "Boundary review put back to 2012". South Wales Evening Post.
- ↑ "Y Prif Weinidog yn cyhoeddi Cabinet newydd". Llywodraeth Cymru. 11 Medi 2014. Cyrchwyd 12 Medi 2014.[dolen farw]
- ↑ Carl Sargeant wedi’i ddarganfod yn farw , Golwg360, 7 Tachwedd 2017.
- ↑ Crwner cwest Sargeant: 'Angen cefnogaeth i weinidogion' , BBC Cymru Fyw, 11 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd ar 7 Mehefin 2020.