John Gruffydd Moelwyn Hughes

gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Emynydd a bardd oedd John Gruffydd Moelwyn Hughes (30 Mai 186625 Mehefin 1944), neu "Moelwyn"; roedd yn frodor o Dan-y-grisiau, ger Blaenau Ffestiniog, Gwynedd.

John Gruffydd Moelwyn Hughes
FfugenwMoelwyn Edit this on Wikidata
Ganwyd30 Mai 1866 Edit this on Wikidata
Tanygrisiau Edit this on Wikidata
Bu farw25 Mehefin 1944 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, emynydd, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata
PlantGoronwy Moelwyn Hughes Edit this on Wikidata
Cofiant y Parchedig John Gruffydd Hughes; 1996; golygwyd gan Brynley F. Roberts.

Bywgraffiad golygu

Mab i chwarelwr ydoedd. Yn ei amser roedd yn un o weinidogion mwyaf adnabyddus y Methodistiaid Calfinaidd.

Ymddiddorai'n fawr yng ngwaith Pantycelyn a chyhoeddodd astudiaethau arno a'i waith.

Cyhoeddodd bedair cyfrol o farddoniaeth yn dwyn y teitl Caniadau Moelwyn (1893-1914). Roeddent yn boblogaidd iawn a chawsant eu hail-argraffu droeon. Yn ogystal cyhoeddwyd bumfed gyfrol, Caneuon Olaf Moelwyn yn 1955, ar ôl ei farwolaeth.

Roedd O. M. Edwards ymhlith ei edmygwyr. Mewn adolygiad o'r drydedd gyfres o Ganiadau mae'n dweud,

"Darnau byrion llawn o feddylgarwch a naws. // Caniadau bychain dewisol ydynt: hoff gydymaith ar awr dawel fore Sabboth neu ryw hwyr, ac yn cynnwys rhai darnau geidw eu lle yn barhaol, tra teimlad Cymro y peth yw."[angen ffynhonnell]

Canwyd ei emyn "Pwy a'm dwg i'r ddinas gadarn?" yng ngwasanaeth angladd David Lloyd George.[angen ffynhonnell]

Cyfeiriadau golygu