John Gwilym Jones (bardd)
Bardd a gweinidog o Gymro yw John Gwilym Jones (ganed 16 Rhagfyr 1936).[1] Ganed ef yng Nghastell Newydd Emlyn, Ceredigion, yn frawd i T. James Jones.
John Gwilym Jones | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 16 Rhagfyr 1936 ![]() Castellnewydd Emlyn ![]() |
Man preswyl | y Tymbl, Bangor, Peniel ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, gweinidog yr Efengyl, Archdderwydd ![]() |
Plant | Tudur Dylan Jones ![]() |
- Am y dramodydd, gweler John Gwilym Jones (dramodydd)
Graddiodd gyda dosbarth cyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth, yna am flwyddyn bu'n darlithio mewn Cymraeg Canol ym Mhrifysgol Dulyn. Aeth ymlaen i astudio Diwinyddiaeth yn Abertawe. Cafodd ei alwad cyntaf i'r weinidogaeth ym Methania, y Tymbl, cyn symud ym 1967 i Eglwys Annibynnol, Pendref, Bangor lle bu'n gwasanaethu am ddeugain mlynedd. Cafodd gyfle hefyd i ddarlithio mewn Cymraeg a Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor.
Bu yn ei dro yn llywydd Undeb yr Annibynwyr, yn olygydd y cylchgrawn Porfeydd, ac yn aelod o bwyllgor llywio'r llyfr emynau cydenwadol, Caneuon Ffydd.[2]
Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'i chyffiniau 1981 am Y Frwydr. Bu'n Archdderwydd rhwng 1993 a 1996. Yn Eisteddfod Bro Colwyn 1995, roedd yn gyfrifol am gadeirio ei fab, Tudur Dylan Jones, a choroni ei frawd, Aled Gwyn. Wedi ei gyfnod fel Archdderwydd, daeth yn Gofiadur yr Orsedd rhwng 2005 a 2010.
Anrhydeddau
golyguCafodd ei urddo yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth ar 12 Gorffennaf 2012 a fe anrhydeddwyd yn Gymrawd gan yr Eisteddfod yn Awst 2012.
Bywyd personol
golyguRoedd yn briod ag Avril (bu farw 28 Chwefror 2008) a cawsant dri o blant, Eilir, Tudur Dylan a Nest. Wedi ymddeol, symudodd i Peniel, Sir Gaerfyrddin yn nes at ei fro enedigol.
Gweithiau
golygu- Ail Drannoeth: Ambell Sylw a Myfyrdod (Aberystwyth: Cymdeithas Lyfrau Ceregigion, 2003) ISBN 1902416945
- Am yn Ail (2021), cyfrol o gerddi ar y cyd gyda'i fab Tudur Dylan Jones
Cyfeiriadau
golygu- ↑ CompanyCheck - REV JOHN GWILYM JONES.
- ↑ Urddo cyn Archdderwydd. Prifysgol Aberystwyth (12 Gorffennaf 2012). Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2018.