John Hanmer, Barwn 1af Hanmer

gwleidydd (1809-1881)

Roedd John Hanmer, Barwn 1af Hanmer (22 Rhagfyr 1809 - 8 Mawrth 1881), (Syr John Hanmer Bt rhwng 1828 a 1872), yn Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Fflint.

John Hanmer, Barwn 1af Hanmer
Ganwyd22 Rhagfyr 1809 Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mawrth 1881 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
TadThomas Hanmer Edit this on Wikidata
MamArabella Charlotte Bucknall Edit this on Wikidata
PriodGeorgiana Chetwynd Edit this on Wikidata

Cefndir ac addysg

golygu

Roedd Hanmer yn fab i Thomas Hanmer, mab hynaf Syr Thomas Hanmer, 2il Farwnig. Ei fam oedd Arabella Charlotte, merch T S D Bucknell. Addysgwyd ef yng Ngholeg Eton a Choleg Christ Church, Rhydychen. Yn 1828, olynodd ei daid fel y trydydd Barwnig.

Gyrfa wleidyddol

golygu

Eisteddodd Hanmer fel Aelod Seneddol Yr Amwythig rhwng 1832 a 1837, ar gyfer Kingston upon Hull rhwng 1841 a 1847 a Bwrdeistrefi'r Fflint rhwng 1847 a 1872. Bu hefyd yn gwasanaethu fel Uchel Siryf Sir y Fflint ym 1832. Ym 1872 fe'i dyrchafwyd i Dŷ'r Arglwyddi fel y Barwn Hanmer, o Hanmer a'r Fflint, yn Sir y Fflint.

Priododd Georgiana Chetwynd, merch Syr George Chetwynd, 2il Barwnig, ym 1833. Nid oedd plant o'r briodas. Bu farw Arglwyddes Hanmer ym Mawrth 1880. Bu farw'r Arglwydd Hanmer ym Mawrth 1881, yn 71 mlwydd oed.

Cyfeiriadau

golygu
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Richard Bulkeley Williams-Bulkeley
Aelod Seneddol dros Bwrdeistrefi Fflint
18371841
Olynydd:
Robert Alfred Cunliffe


  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.