Robert Alfred Cunliffe
Roedd Syr Robert Alfred Cunliffe, 5ed Barwnig (17 Ionawr, 1839 – 18 Mehefin, 1905) yn wleidydd Rhyddfrydol a fu'n Aelod Seneddol ar ddau gyfnod rhwng 1872 a 1885[1]
Robert Alfred Cunliffe | |
---|---|
Ganwyd | 17 Ionawr 1839 |
Bu farw | 18 Mehefin 1905 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | Robert Ellis Cunliffe |
Mam | Charlotte Howel |
Priod | Eleanor Sophia Egerton Leigh, Cecilie Victoria Sackville-West |
Plant | Foster Cunliffe, Violet Eleanor Cunliffe, Mary Evelyn Cunliffe, Kythe Cunliffe, Robert Neville Henry Cunliffe |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Cunliffe yn Patna, yr India ym 1839 lle'r oedd ei dad Robert Ellis Cunliffe yn gweithio i wasanaeth sifil yr Ymerodraeth Brydeinig.[2]
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton Bu'n Briod ddwywaith y tro cyntaf ag Eleanor Sophia merch hynaf Y Cadfridog Egerton Leigh cyn Aelod Seneddol Caer, bu iddynt bump o blant; bu'r hynaf ohonynt Foster Cunliffe yn gricedwr o fri a fu'n chware i Middlesex ar MCC. Ar ôl marw Elinor ym 1896, priododd Cecilie Victoria Sackville-West, merch yr Anrhydeddus W. E. Saekville West ym 1901.[3]
Gyrfa
golyguYmunodd a'r fyddin fel aelod o'r Gwarchodlu Albanaidd ym 1857 gan ymadael a hi yn gapten ym 1861. O 1872 fu yn Is Gyrnol yn drydedd fataliwn Cartreflu'r Gatrawd Gymreig (sef milisia o filwyr rhan amser)
Gyrfa Wleidyddol
golyguAr ddyrchafiad Syr John Hanmer Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Fflint i Dŷ'r Arglwyddi ym 1872 cafodd Cunliffe ei ethol yn olynydd iddo yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol.[4] Gan ei fod wedi ymddangos yn llugoer, os nad yn hollol wrthwynebus, i achos Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru cafodd ei herio yn etholiad 1874 gan aelod arall o'r Blaid Ryddfrydol Peter Ellis Eyton a oedd yn frwdfrydig iawn dros achos datgysylltu; collodd ei sedd.
Ym 1880 cafodd ei ethol yn aelod Rhyddfrydol dros Bwrdeistrefi Dinbych ond cafodd ei drechu gan y Ceidwadwyr yn yr etholiad canlynol ym 1885.
Wedi'r rhwyg yn y Blaid Ryddfrydol dros achos hunain lywodraeth i'r Iwerddon safodd Cunliffe yn aflwyddiannus fel Unoliaethwr yn etholaeth Sir y Fflint.
Ar ôl ei gyrfa yn y senedd bu'n aelod o Gyngor Sir Ddinbych. Bu hefyd yn gwasanaethu fel Ynad Heddwch yn Sir Dinbych ac fel dirprwy Raglaw'r Sir. Roedd yn Stiward Arglwyddiaeth Brwmffild a Iâl, a bu'n Uchel Siryf Sir Ddinbych ym 1868.
Marwolaeth
golyguBu farw o niwmonia yn Llundain ym 1905 a chafodd ei gladdu yn Wrecsam. Etifeddodd Foster, ei fab hynaf, y farwnigaeth[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Matthew Cragoe, ‘Cunliffe, Sir Robert Alfred, fifth baronet (1839–1905)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 accessed 12 Dec 2015
- ↑ DEATH OF SIR ROBERT CUNLIFFE. Llangollen Advertiser 23 Mehefin 1905 [1] adalwyd 29 Rhagfyr 2014
- ↑ THE WEDDING OF SIR ROBERT CUNLIFFE Llandudno Advertiser and List of Visitors 11 Ionawr 1901 [2] adalwyd 29 Rhagfyr 2014
- ↑ YR WYTHNOS Seren Cymru 13 Medi 1872 [3] adalwyd 29 Rhagfyr 2014
- ↑ MARWOLAETH SYR ROBERT CUNLIFFE Herald Cymraeg 20 Mehefin 1905 [4] adalwyd 29 Rhagfyr 2014
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Syr John Hanmer |
Aelod Seneddol dros Bwrdeistrefi Fflint 1872 – 1874 |
Olynydd: Peter Ellis Eyton |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Charles James Watkin Williams |
Aelod Seneddol dros Bwrdeistrefi Dinbych 1880 – 1885 |
Olynydd: George Thomas Kenyon |