John Henry Williams (VC)

Roedd John Henry Williams, VC, DCM, MM & Chlesbyn (29 Medi 1886 - 7 Mawrth 1953) yn löwr, milwr, a derbynnydd Croes Fictoria, y wobr uchaf am ddewrder yng ngŵydd y gelyn a all cael ei ddyfarnu i aelod o luoedd arfog Prydain a'r Gymanwlad. Williams yw'r swyddog heb gomisiwn Cymreig mwyaf addurnedig erioed.[1]

John Henry Williams
Ganwyd29 Medi 1886 Edit this on Wikidata
Y Gelli Gandryll Edit this on Wikidata
Bu farw7 Mawrth 1953 Edit this on Wikidata
Glynebwy Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmilwr, glöwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroes Fictoria, Croes filwrol, Urdd Gwasanaeth Nodedig, y Fedal Filwrol, Medal Ymddygiad Nodedig Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Ganed Williams yn y Gelli Sir Frycheiniog ar 29 Medi 1886. Yn 12 mlwydd oed dechreuodd gweithio i Gwmni Dur, Haearn a Glo Glynebwy fel gof yng nglofa'r Cwm.

Yng Nghyfrifiad 1911 mae'n cael ei gofnodi'n byw yn 52 Canning Street, Cwm, Glynebwy gyda Gwladys (née Williams) ei wraig ac Ivor John Williams ei fab. Roedd John a Gwladys wedi priodi ym 1908.[2]

Y Rhyfel Byd Cyntaf

golygu

Ym 1906 ymunodd â chwmni milisia Cyffinwyr De Cymru fel milwr wrth gefn. Ar doriad y Rhyfel Byd Cyntaf, ym 1914, rhoddodd gorau i'w waith gan ymrestru fel milwr llawn amser yn y 10fed Bataliwn, Cyffinwyr De Cymru (rhan o'r 38ain adran (Cymreig)). Fe'i dyrchafwyd yn rhingyll ym mis Ionawr 1915.[3]

Bu ei gatrawd yn gwasanaethu yn Ffrainc a Gwlad Belg. Ym 1916 bu'n rhan o'r cyrch ar Goedwig Mametz. Enillodd Williams ei fedal gyntaf, Y Fedal Ymddygiad Nodedig, am ei ran yn y cyrch am hunanfeddiant gwrol, parhaus a chyson yn ystod y frwydr.[4]

Bu yn rhan o Drydedd Frwydr Ypres yng Ngorffennaf ac Awst 1917, gan ennill y Fedal Filwrol am Ddewrder ar gychwyn y frwydr i feddiannu Uchderau Passchendaele. Dyfarnwyd iddo glesbyn i'w Medal Filwrol ym mrwydr Armentieres ar 30th Hydref 1917 am ddewrder wrth achub cydfilwr clwyfedig

Mae ei gwŷs ar gyfer Croes Fictoria yn darllen:

Ar gyfer ddewrder amlwg, menter ac ymroddiad i ddyletswydd ar noson 7fed - 8fed o Hydref 1918, yn ystod yr ymosodiad ar Villers Outreaux, pan, gan sylwi bod ei gwmni yn dioddef anafiadau trwm o wn peiriant y gelyn, fe ymofynnodd am Wn Lewis i'w ymladd, ac fe aeth ymlaen, o dan dân trwm, i ystlys safle'r gelyn gan ruthro arni a chipio pymtheg o'r gelyn ar ben ei hun.

Gan sylweddoli bod Williams ar ei ben ei hun, trodd y carcharorion arno a bu i un ohonynt gipio ei reiffl. Llwyddodd i dorri i ffwrdd a bidogi pump o'r gelyn, a gwnaeth y gweddill eto ildio. Drwy'r camau gwrol hyn gan lwyr diystyru perygl personol, bu modd i alluogi, nid yn unig ei gwmni ei hun, ond hefyd y cwmnïau ar y ddwy ochr iddo symud ymlaen.

[5]

Cafodd ei ryddhau o'r fyddin wedi ei ddyrchafu yn Uwch-ringyll Cwmni am resymau meddygol ar 17 Hydref 1918 wedi ei anafu'n ddifrifol gan fflawiau haearn yn ei goes a'i fraich de.

Ym 1919, arwisgwyd Williams gyda'i Fedal Groes Victoria, Medal Ymddygiad Arbennig a'r Fedal Filwrol gyda chlesbyn gan Siôr V, brenin y Deyrnas Unedig, y tro cyntaf i'r Brenin addurno'r un dyn bedair gwaith mewn un diwrnod.[6] Ar adeg yr arwisgiad nid oedd Williams wedi llwyr gwella o'i glwyfau difrifol, ac yn ystod y cyflwyniad agorodd y clwyf ar ei fraich a bu'n rhaid rhoi sylw meddygol iddo cyn gallai adael y palas.

Ym mis Ionawr 1919 dyfarnwyd iddo y Medaille Militaire un o brif wobrau milwrol Ffrainc.[7]

Dychwelodd i weithio i Gwmni Dur, Haearn a Glo Glynebwy fel porthor yn swyddfeydd y cwmni. Rhoddwyd tŷ, glo a thrydan am ddim iddo am weddill ei fywyd gan ei gyflogwyr i gydnabod ei wasanaeth milwrol arbennig.[8] Parhaodd i weithio i'r cwmni hyd ei farwolaeth ym 1953.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n gwasanaethu fel rhingyll yn y Gard Cartref.

Gwaddol

golygu

Mae bedd a maen coffa Williams ym mynwent Glynebwy. Cafodd y garreg bedd gwreiddiol ei dynnu wrth glirio'r fynwent a chafodd carreg newydd ei godi ar 21 Hydref 1990.

Ym Medi 2018, cysegrodd pentrefwyr Villers-Outréaux cofeb i Williams a gomisiynwyd yn arbennig i'w goffáu ef ac i fynegi eu diolch iddo am achub eu pentref rhag ei ddinistrio. Mae cofeb iddo hefyd yn Nant-y-Glo. I nodi canmlwyddiant cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf gosodwyd plac er cof amdano ar fur pencadlys Cyngor Blaenau Gwent [4] ac i nodi canmlwyddiant diwedd y rhyfel dadorchuddwyd cofeb iddo yn Nant-y-glo[9]. Ym mis Tachwedd 2018 awgrymwyd enwi pont newydd dros yr A465 rhwng Brynmawr a Gilwern er anrhydedd iddo.[10]. Agorwyd Bont Jack Williams ym mis Ionawr 2019 [11]

Mae Croes Victoria Williams yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Gatrodol Y Cymry Brenhinol yn Aberhonddu.

Cyfeiriadau

golygu
  1. A Welsh Victoria Cross Winner adalwyd 3 Ionawr 2019
  2. Yr Archif Genedlaethol, Cyfrifiad 1911 ar gyfer Aberystruth, Monmouthshire. Cyfeirnod: RG14/31819; Rhif: 230
  3. VC On Line John Henry Williams (1886-1953) Archifwyd 2020-08-06 yn y Peiriant Wayback adalwyd 3 Ionawr 2019
  4. 4.0 4.1 First World War hero, CSM John Henry Williams VC DCM MM, remembered by Blaenau Gwent Council adalwyd 3 Ionawr 2019
  5. London Gazette 13 Rhagfyr 1918 Supplement:31067 Tudalen:14776 adalwyd 3 Ionawr 2019
  6. "Notitle - The Brecon County Times Neath Gazette and General Advertiser for the Counties of Brecon Carmarthen Radnor Monmouth Glamorgan Cardigan Montgomery Hereford". William Henry Clark. 1919-02-27. Cyrchwyd 2019-01-03.
  7. BBC Ebbw Vale plaque honour WW1 soldier John Henry Williams adalwyd 3 Ionawr 2019
  8. "Notitle - Llanelly Star". Brinley R. Jones. 1918-12-28. Cyrchwyd 2019-01-03.
  9. Argus 28 Medi 2018: Memorial stone unveiled for First World War hero CSM John (Jack) Henry Williams adalwyd 3 Ionawr 2019
  10. Argus 27 Tachwedd 2018: New A465 bridge could be named in honour of First World War hero John Henry Williams adalwyd 3 Ionawr 2019
  11. ITV 31 Ionawr 2019 The Welshman honoured for single-handedly saving a French village in WWI adalwyd 31 Ionawr 2019