John Jones (AS Sir Gaerfyrddin)
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler John Jones (tudalen wahaniaethu).
Roedd John Jones (11 Rhagfyr 1815 – 26 Chwefror 1886) yn wleidydd Ceidwadol o Gymru ac yn Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin[1]
John Jones | |
---|---|
Ganwyd | 11 Rhagfyr 1812 Llanymddyfri |
Bu farw | 28 Chwefror 1886 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | banciwr, gwleidydd, bargyfreithiwr |
Swydd | Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Bywyd personol
golyguJohn oedd mab ieuengaf John Jones, Blaenos, Llanymddyfri a Mary merch William Jones Ystrad Walter, Caerfyrddin. Roedd brawd John, David yn rhagflaenydd iddo fel Cynrychiolydd Ceidwadol Sir Gaerfyrddin.
Cafodd ei addysgu yn Ysgol yr Amwythig
Priododd ei gyfnither, Anne Thomas ferch David Thomas Wilfield, Sir Faesyfed.
Gyrfa
golyguCafodd ei alw i'r bar yn y Deml Ganol ym 1839 ond ni fu'n ymarfer fel bargyfreithiwr. Gwasanaethodd fel Is Raglaw Sir Gaerfyrddin ac Uchel Siryf y Sir ym 1854
Sefydlodd ei daid, David Jones, banc yn Llanymddyfri ym 1799, ac ar ei farwolaeth ym 1839 trosglwyddwyd y busnes i John a'i frodyr hyn David a William. Ehangodd y brodyr y banc o dan yr enw David Jones a'i Gwmni.
Gyrfa wleidyddol
golyguGwasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Gaerfyrddin o 1868 hyd 1880 pan gollodd y Ceidwadwyr un o ddwy sedd yr etholaeth i'r Rhyddfrydwr Walter Rice Howell Powell[2]
Marwolaeth
golyguBu farw yn sydyn wrth gerdded y caeau ger ei gartref yn 73 mlwydd oed [3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Debrett's House of Commons 1870
- ↑ Williams, William Retlaw The parliamentary history of the principality of Wales, from the earlies times to the present day, 1541-1895
- ↑ "SUDDEN DEATH OF MR JONES OF BLAENOS LLANDOVERY - The Tenby Observer Weekly List of Visitors and Directory". Richard Mason. 1886-03-04. Cyrchwyd 2016-10-31.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: David Jones |
Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin 1868 – 1880 |
Olynydd: Walter Rice Howell Powell |