Llanfair Talhaearn
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llanfair Talhaearn[1] (hefyd Llanfair Talhaiarn).[2] Roedd yn Sir Ddinbych cynt. Mae'n sefyll ar groesffordd y briffyrdd A548 a'r A544, tua 5 milltir i'r de o Abergele.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,070, 966 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 4,252.23 ha |
Cyfesurynnau | 53.221°N 3.612°W |
Cod SYG | W04000124 |
Cod OS | SH927700 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Jones (Ceidwadwr) |
Llifa Afon Elwy drwy'r pentref sy'n gorwedd rhwng bryniau coediog gyda Moel Unben (358 m) yn sefyll allan i'r de.
Hanes
golyguEnwir y pentref ar ôl Sant Talhaearn (c. 6g). Yn Eglwys Fair ceir cist fedyddio dan-ddaear.
Priododd Twm o'r Nant ei gariad Elizabeth Hughes yn Eglwys Fair ar 19 Chwefror 1763, mewn gwasanaeth a arweinwyd gan y bardd Ieuan Brydydd Hir, cyfaill Twm, oedd yn gurad y plwyf ar y pryd.
I'r gogledd-orllewin ceir plasdy Garthewin, cartref hynafol y Wynniaid a lleoliad theatr Gymraeg arloesol a fu'n llwyfan i berfformiadau cyntaf o rai o ddramâu Saunders Lewis.
Pobl o Lanfair Talhaearn
golygu- John Jones (Talhaiarn). Ganed y bardd 'Talhaiarn' yn Nhafarn yr Harp yn y pentref yn 1810. Ar ôl cyfnod hir oddi cartref dychwelodd i'w bentref genedigol a bu farw yn Nhafarn yr Harp yn 1869.
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Trefi
Abergele · Bae Colwyn · Betws-y-Coed · Conwy · Cyffordd Llandudno · Degannwy · Hen Golwyn · Llandudno · Llanfairfechan · Llanrwst · Penmaenmawr · Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel · Bae Penrhyn · Betws-yn-Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Dawn · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwys-bach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llanelian-yn-Rhos · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llangystennin · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarnyfedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd-y-foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Ysbyty Ifan