Mynydd Bodran
Bryn yn Sir Conwy yw Mynydd Bodran sy'n gorwedd tua milltir i'r dwyrain o bentref Llanfair Talhaearn yng ngogledd-ddwyrain y sir. Uchder: 286 metr.
Math | copa, bryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 287 metr |
Cyfesurynnau | 53.223179°N 3.588376°W |
Cod OS | SH9404470751 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 54 metr |
Rhiant gopa | Mwdwl-eithin |
Llifa Afon Elwy heibio i'r gogledd o'r bryn. Dros y cwm ceir Mynydd Bodrochwyn a Moelfre Isaf. Ceir hen gorwd wrth ei droed ar lan afon Elwy. I'r de ceir bryn isel Moel Iago. I'r dwyrain llifa Afon Aled heibio i droed y bryn i'w haber yn afon Elwy.
Mae Mynydd Bodfran yn adnabyddus i'r rhai sy'n ymddiddori mewn llenyddiaeth Gymraeg y 19eg ganrif am fod y bardd John Jones (Talhaiarn), a aned yn Llanfair Talhaearn, wedi cyfansoddi dilyniant o ugain o gerddi wrth yr enw Tal ar ben Bodran. Creodd y cerddi hyn gryn dipyn o stwr yn eu cyfnod oherwydd chwerwder awen y bardd a'r syniadau anuniongred a herfeiddiol a fynegodd, ond ceir hefyd gerddi o frogarwch sy'n ymhyfrydu yn natur yr ardal.[1]
Yn ôl Talhaiarn, 'Llofft y Corryn' oedd yr enw lleol am gopa Mynydd Bodran.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ T. Gwynn Jones (gol.), Talhaiarn[:] detholiad o gerddi (Gwasg Aberystwyth, 1930), tt.12-13.
- ↑ Talhaiarn[:] detholiad o gerddi, tud. 61.