William Roos
Arlunydd o Gymru oedd William Roos (cyn 30 Ebrill 1808 – 4 Gorffennaf 1878). Ceir y ffurf 'Roose' ar ei gyfenw hefyd, ond 'Roos' sy'n safonol. Roedd yn frodor o Amlwch, Ynys Môn. Fe'i cofir am ei bortreadau eiconaidd o rai o Gymry enwog ei gyfnod.[1]
William Roos | |
---|---|
Talhaiarn (1864) gan William Roos | |
Ganwyd | 30 Ebrill 1808 Amlwch |
Bu farw | 4 Gorffennaf 1878 |
Galwedigaeth | engrafwr, arlunydd |
Ceir casgliad o waith William Roos yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd. Mae'r casgliad yn cynnwys portreadau olew ar gynfas ganddo o'r beirdd John Jones (Talhaiarn), Dewi Wyn o Eifion a Robert ap Gwilym Ddu, o'r pregethwyr Methodistaidd John Elias a Christmas Evans, ac o'r diwinydd ac awdur Methodistaidd Thomas Charles.[1] Paentiodd wrthrychau eraill hefyd, yn cynnwys darluniau o ddigwyddiadau hanesyddol fel Marwolaeth Owain Glyndŵr, a enillodd wobr iddo yn Eisteddfod Llangollen 1858,[1] a phaentiadau bywyd llonydd.
Bu farw'r arlunydd yn Amlwch yng Ngorffennaf 1878.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Bedwyr Lewis Jones, 'William Roose', Gwŷr Môn (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1979).
Dolenni allanol
golygu- William Roos[dolen farw], detholiad o'i waith ar wefan Amgueddfa Cymru