John Jones (seryddwr)
Seryddwr ac ieithydd Cymreig oedd John Jones (1818 - 1898), a adnabyddid hefyd fel John Jones y Sêr neu Ioan Bryngwyn Bach (ei enw barddol). Roedd yn ŵr hunanaddysgedig a enillodd gryn sylw yn ei oes fel seryddwr amatur. Roedd yn frodor o blwyf Llanidan, Ynys Môn.[1]
John Jones | |
---|---|
John Jones (1818–1898), Bangor, Cymru, gyda'i delesgop mwyaf, adlewyrchydd 8 modfedd o drawsfesur | |
Ganwyd | 1818 Dwyran |
Bu farw | 1898 Bangor |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Cymru |
Galwedigaeth | seryddwr, gweithiwr bôn braich |
Bywgraffiad
golyguGweithiwr oedd John Jones ar hyd ei oes o ran ei alwedigaeth. Cafodd ei eni yn y Bryngwyn Bach ger Dwyran, Sir Fôn, yn 1818. Ychydig o addysg elfennol yn unig a gafodd yn blentyn. Cafodd waith fel gwas fferm ac yn 1848 aeth i weithio fel llwythwr llechi ym Mhorth Penrhyn ger Bangor.[2]
Darllenai lyfrau o lyfrgell gweinidog lleol a dysgodd am seryddiaeth - ei hoff bwnc - ac ieithoedd y Beibl gan ddod i fedru darllen Groeg a Hebraeg. Gwnaeth ddau sbienddrych (telesgop) iddo ei hun. Roedd hefyd yn barddoni.[1]
Daeth i amlygrwydd ar draws gwledydd Prydain pan gafodd ei "ddarganfod" gan yr awdur Samuel Smiles, a fu'n enwog yn ail hanner y 19g am ei lyfrau "dod ymlaen" poblogaidd fel Self-Help, a ymwelodd ag ef ym Mangor ac a ysgrifennodd amdano yn ei gyfrol Men of Invention and Industry (1884).[2]
Bu farw ym Mangor yn 1898.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Eleazar Roberts, 'John Jones y Seryddwr', Y Geninen (Gŵyl Dewi), 1901 , 42-6. Ysgrif sy'n cynnwys hanes byr ei fywyd ei hun gan John Jones.
- Samuel Smiles, Men of Invention and Industry (Llundain, 1884)