John Jones Jenkins
Roedd John Jones Jenkins, Barwn 1af Glantawe (10 Mai 1835 – 27 Gorffennaf 1915) yn wneuthurwr tunplat o Gymru a gwleidydd Rhyddfrydol a chynrychiolodd etholaeth Bwrdeistref Caerfyrddin yn Senedd y Deyrnas Unedig.[1]
John Jones Jenkins | |
---|---|
Ganwyd | 10 Mai 1835 |
Bu farw | 27 Gorffennaf 1915 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | Jenkin Jenkins |
Mam | Sarah Jones |
Priod | Margaret Rees, Catherine Daniel |
Plant | Elaine Bathurst, Lady Bledisloe, Olga Violet Jenkins |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Cefndir
golyguRoedd Jenkins yn fab i Jenkin Jenkins, Treforys a Sarah Jones ei wraig.
Roedd yn gyd-sylfaenydd a rheolwr Gweithfeydd Tunplat Beaufort yn Nhreforys ym 1859 ac yn gysylltiedig â Gweithfeydd Tunplat Fforest Uchaf.
Gyrfa wleidyddol
golyguBu Jenkins yn Ynad Heddwch dros Abertawe a Sir Gaerfyrddin ac yn Faer Abertawe dair gwaith, ym 1869, 1879 a 1880. Urddwyd ef yn farchog 17 Mai 1882. Safodd yn aflwyddiannus fel Rhyddfrydwr annibynnol[2] dros Bwrdeistref Caerfyrddin yn etholiad cyffredinol 1880 ond cipiodd y sedd fel Ryddfrydwr swyddogol mewn isetholiad ym 1882 gan ddal y sedd tan 1886. Ym 1889 fe wasanaethodd fel Uchel Siryf Morgannwg. Cafodd ei ethol i gynrychioli Caerfyrddin eto ym 1895, fel Unoliaethwr Rhyddfrydol a daliodd y sedd hyd 1900. Ar 18 Gorffennaf 1906 fe'i codwyd i'r bendefigaeth fel Barwn Glantawe o Abertawe yn Sir Forgannwg.
Bywyd Personol
golyguPriododd Arglwydd Glantawe yn gyntaf a Margaret Rees, merch Josiah Rees, ar 20 Ionawr, 1854 a chawsant ddau fab, ond bu farw'r ddau fab cyn eu tad. Priododd eilwaith a Chatherine Prudence Daniel, merch Edward Daniel, ar 10 Mai 1864 yn Llansamlet, a chawsant ddwy ferch.
Bu farw Arglwydd Glantawe yn 'The Grange', West Cross, Abertawe yn 80 mlwydd oed ac fe'i claddwyd ym Mynwent Ystumllwynarth. Bu farw'r farwniaeth gydag ef.
Galeri
golygu-
Portread o J. J. Jones
Cyfeiriadau
golyguSenedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Benjamin Thomas Williams |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin 1882 – 1886 |
Olynydd: Arthur Cowell-Stepney |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Evan Rowland Jones |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin 1895 – 1900 |
Olynydd: Alfred Davies |