Arthur Cowell-Stepney
Roedd Syr Emile Algernon Arthur Keppel Cowell-Stepney, 2il Barwnig (26 Rhagfyr 1834 – 2 Gorffennaf 1909) yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd o Gymru a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin rhwng 1876 a 1878 ac eto rhwng 1886 a 1892.
Arthur Cowell-Stepney | |
---|---|
Ganwyd | 26 Rhagfyr 1834 |
Bu farw | 2 Gorffennaf 1909 Yuma |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | John Cowell-Stepney |
Mam | Mary Anne Annesley |
Priod | Margaret Leicester Warren |
Plant | Catherine Stepney |
Bywyd personol
golyguGanwyd Cowell-Stepney yn Manheim, yr Almaen, yn fab i Syr John Cowell-Stepney, ac Euphemina Jemeima Murray ei ail wraig.
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton.
Bu farw mab hynaf Syr John ym Mrwydr Inkerman, Rhyfel Crimea, ym 1872, gan hynny pan fu farw ym 1877 Arthur oedd etifedd y farwniaeth.[1]
Bu wyres i Syr Arthur, Marged Howard-Stepney, yn un o niferus gariadon, ac yn noddwr, i'r bardd Dylan Thomas.[2]
Priodas ac ysgariad
golyguAr 24 Awst, 1875 priododd a Margaret Leicester Warren, pedwaredd ferch yr ail Arglwydd De Tabley, bu iddynt un ferch Catherine Meriel a anwyd ar 17 Medi 1876.[3]
O ddechrau'r briodas bu ymddygiad Syr Arthur yn echreiddig, bu'n ymadael a'r cartref am gyfnodau heb roi gwybod i'w wraig ei fod yn mynd nac i ble yr oedd yn mynd ond byddai yn gwneud ensyniadau di-sail i weision y tŷ mae anniweirdeb ei wraig oedd yn gyfrifol am yr absenoldebau. Ar 6ed Hydref 1876, ychydig ar ôl enedigaeth ei ferch, fe ymadawodd a'r cartref teuluol am byth.[4]
Ym 1901 ymfudodd Cowell-Stepney i'r UDA, gan ddod yn ddinesydd y wlad. Ym 1902 fe ddeisebodd llysoedd Idaho am ysgariad oddi wrth ei wraig gan ei bod hi wedi ymadael ag ef, caniatawyd yr ysgariad iddo. Gan nad oedd y Ledi Cowell-Stepney wedi cael cyfle i roi ei hochr hi o'r hanes yn yr UDA, fe ddeisebodd hi yn llysoedd Lloegr am ddatganiad bod y dyfarniad yn Idaho yn annilys ac i ganiatáu ymwahaniad stadudol iddi hi ar sail ymadawiad ei gŵr.
Cynhaliwyd yr achos ar 28in Mai 1903, gan greu cryn gyffro yn y wasg, yn rhannol o'r herwydd bod ysgariad yn beth eithaf dieithr yn y cyfnod ond yn bennaf o'r herwydd y darpar dystion yr oedd Ledi Cowell-Stepney yn bwriadu eu galw pe bai Syr Arthur yn amddiffyn yr achos, megis y cyn prif weinidog William Gladstone.[5]
Penderfynodd Syr Arthur i beidio ag amddiffyn yr achos a chaniatawyd ymwahaniad i'r Ledi Cowell-Stepney; buddugoliaeth bwysig gan ei bod yn nodi eu bod wedi ymwahanu yn hytrach nag wedi eu hysgaru gan amddiffyn hawl Catherine Meriel Cowell-Stepney i ystâd ei thad, o dan gyfraith Lloegr, pe bai o wedi ailbriodi a chael etifeddion newydd o ganlyniad i'r ysgariad yn yr UDA.
Gyrfa
golyguAr ôl ymadael a'r ysgol dechreuodd Cowell-Stepney gyrfa fel gwas sifil yn y Swyddfa Dramor, gan weithio yno am dros ugain mlynedd cyn etifeddu ystadau ei dad yn The Dell, Llanelli a Wood End De Ascot, Berkshire, ystâd a oedd yn rhoi incwm sylweddol iddo o dros £5,000 y flwyddyn. Roedd yn landlord llym a gadwodd lefelau ei rent yn uchel, ond yr oedd hefyd yn gymwynaswr mawr i ysgolion lleol, y llyfrgell leol a Sefydliad Mecaneg Llanelli.[6]
Gyrfa wleidyddol
golyguSafodd Cowell-Stepney fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Bwrdeistref Caerfyrddin yn etholiad cyffredinol 1874, gan golli i'r Aelod Seneddol Ceidwadol Charles William Nevill. Ymneilltuodd Nevill o'r Senedd oherwydd pwysau gwaith ym 1876[7] ac etholwyd Cowell-Stepney fel olynydd iddo yn ddiwrthwynebiad[8]. Cyn pen dwy flynedd fe ymneilltuodd Cowell-Stepney o'r senedd o'r herwydd problemau iechyd meddwl.[9]
Yn etholiad cyffredinol 1886, penderfynodd AS Rhyddfrydol Caerfyrddin, John Jones Jenkins, i sefyll fel ymgeisydd y Rhyddfrydwyr Unoliaethol[10], mewn gwrthwynebiad i bolisïau, William Gladstone, arweinydd y Rhyddfrydwyr ar achos ymreolaeth yr Iwerddon. Er gwaethaf sefyllfa od ei briodas, roedd merch Gladstone a'r Ledi Cowell-Stepney yn gyfeillion agos, gan hynny penderfynodd Syr Arthur sefyll yr etholiad fel Rhyddfrydwr Gladstonaidd[11] gan ennill yr etholiad. Penderfynodd beidio ag amddiffyn y sedd yn etholiad cyffredinol 1892
Prin bu ei gyfraniad i waith y Senedd yn ystod ei dau dymor fel AS.
Roedd yn Ynad Heddwch ar Fainc Sir Gaerfyrddin ac ym 1884 gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin
Marwolaeth
golyguCanfuwyd corff Syr Arthur ar orsaf reilffordd yn Yuma, Arizona, ar 2 Gorffennaf 1909[12], yn ôl pob tebyg yr oedd wedi mynd yno i geisio ychwanegu glöyn byw prin at ei gasgliad o bryfynod. Bu farw o ganlyniad i drawiad ar y galon a achoswyd trwy or-wresogi[13]. Cludwyd ei gorff yn ôl i Lanelli a chladdwyd ei weddillion yn nhir Eglwys Sant Elli, Llanelli, yn hytrach nag yng nghladdgell ei deulu.[14]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Sir Arthur Stepney - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1909-07-10. Cyrchwyd 2015-08-22.
- ↑ Dylan Thomas: A New Life Andrew Lycett [1] adalwyd 23 Awst 2015
- ↑ "Local Matrimonial Suit - The Carmarthen Weekly Reporter". William Morgan Evans. 1903-06-05. Cyrchwyd 2015-08-23.
- ↑ "CURIOUS MATRIMONIAL CASE - The Chester Courant and Advertiser for North Wales". James Albert Birchall. 1903-06-03. Cyrchwyd 2015-08-23.
- ↑ "STEPNEY SEPARATION - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1903-06-06. Cyrchwyd 2015-08-23.
- ↑ M Cragoe, An Anglican Aristocracy: The Moral Economy of the Landed Estate in Carmarthenshire 1832-95 (1996)
- ↑ "Bwrdeisdrefi Caerfyrddin - Y Gwladgarwr". Abraham Mason. 1876-08-04. Cyrchwyd 2015-08-23.
- ↑ "CYNRYCHIOLAETH SENEDDOL BWRDEISDREFI CAERFYRDDIN - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1876-08-18. Cyrchwyd 2015-08-23.
- ↑ "Di Deitl - Y Dydd". William Hughes. 1878-05-10. Cyrchwyd 2015-08-23.
- ↑ "SIR JOHN JONES JENKINS A UNIONIST CANDIDATE - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1886-06-26. Cyrchwyd 2015-08-23.
- ↑ "LLANELLI - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1886-07-07. Cyrchwyd 2015-08-23.
- ↑ "DEATH OF SIR ARTHUR STEPNEY - The Cambrian". T. Jenkins. 1909-07-09. Cyrchwyd 2015-08-23.
- ↑ "URBAN COUNCIL - The Llanelly Mercury and South Wales Advertiser". Llanelly Mercury Printing Company Limited. 1909-07-08. Cyrchwyd 2015-08-23.
- ↑ "LATE SIR ARTHUR STEPNEY - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1909-08-07. Cyrchwyd 2015-08-23.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Charles William Nevill |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin 1876 – 1878 |
Olynydd: Benjamin Thomas Williams |
Rhagflaenydd: John Jones Jenkins |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin 1886 – 1892 |
Olynydd: Evan Rowland Jones |
Teitlau Anrhydeddus | ||
Rhagflaenydd: John Peel |
Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin 1884 |
Olynydd: J H W Williams-Drummond |