Benjamin Thomas Williams
Roedd Benjamin Thomas Williams (19 Tachwedd 1832 – 21 Mawrth 1890) yn fargyfreithiwr, yn farnwr ac yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin o 1878 i 1882[1]
Benjamin Thomas Williams | |
---|---|
Ganwyd | 19 Tachwedd 1832 Arberth |
Bu farw | 21 Mawrth 1890 Caerfyrddin |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | barnwr, gwleidydd, cyfreithiwr, bargyfreithiwr |
Swydd | Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Bywyd Personol
golyguGanwyd B T Williams yn Arberth yn fab hynaf i'r Parch Thomas R Williams, gweinidog Annibynnol, a Mira (née Thomas) ei wraig.
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg y Presbyteriaid, Caerfyrddin, gyda'r bwriad o ddilyn ei Dad i weinidogaeth yr Annibynwyr. Tra yn y Coleg cafodd dröedigaeth i achos yr Undodiaid a rhoddodd ymaith ei fwriad i ddyfod yn weinidog. Wedi ennill ysgoloriaeth Dr Williams aeth i Brifysgol Glasgow, lle enillodd gwobrau'r coleg am resymeg a metaffiseg, a graddio'n MA ym 1854.[2]
Ym 1857 priododd Margaret unig ferch B R Thomas Arberth, bu iddynt dau fab a merch.[3]
Gyrfa
golyguGalwyd Williams i'r Bar yn Grey's Inn ym 1859 a bu'n gweithio fel bargyfreithiwr ar Gylchdaith De Cymru. Roedd yn eistedd fel cofiadur Sir Gaerfyrddin o 1872 i 1878 a chafodd ei godi yn Gwnsler y Frenhines ym 1875. Roedd yn awdur nifer o erthyglau ar wahanol agweddau o'r gyfraith a fu'n olygydd y Law Magazine a'r Commercial Compendium. Cafodd ei benodi yn Farnwr Llys y Goron Sir Forgannwg ym 1882[4] ond bu'n rhaid iddo ymddeol cyn pen tair blynedd oherwydd problemau iechyd meddwl.[5]
Ar adeg ei ymddiswyddiad B T Williams oedd yr unig Barnwr Llys y Goron yng Nghymru a oedd yn gallu'r Gymraeg; gwnaed cais i'r Iarll Selbourn, yr Arglwydd Ganghellor, i sicrhau bod Cymro Cymraeg arall yn cael ei benodi yn ei le a bod ystyriaeth yn cael ei roi i sicrhau bod llefydd gwag eraill yn cael eu cynnig i siaradwyr yr iaith. Chwerthin am ffolineb y syniad bod Siarad Cymraeg yn gymhwyster cyfreithiol bu ymateb yr Arglwydd Ganghellor.[6]
Bu hefyd yn gwasanaethu fel Ynad Heddwch ar feinciau Sir Benfro, Sir Frycheiniog a Sir Forgannwg.
Prifysgol Cymru
golyguFel anghydffurfiwr nid oedd gan Williams yr hawl i astudio mewn prifysgolion yn Lloegr, yr oedd yn teimlo bod hyn yn anghyfiawn, roedd hefyd yn teimlo ei fod yn anghyfiawn bod myfyrwyr Cymreig o unrhyw enwad yn gorfod mynych brifysgol y tu allan i Gymru; ym 1853 fe'i ysgrifennodd traethawd yn amlinellu'r angen am brifysgol anenwadol yng Nghymru. O ganlyniad i draethawd B T Williams, gynhaliwyd pwyllgor yn Llundain a chyfarfodydd cyhoeddus yng Nghymru a arweiniodd, yn y pendraw, at sefydlu Prifysgol Aberystwyth ym 1872.[7]
Gwasanaethodd fel aelod o Gyngor Prifysgol Glasgow, is lywydd ac ysgrifennydd Prifysgol Aberystwyth ac fel un o lywodraethwr Prifysgol Bangor[8]
Gyrfa Wleidyddol
golyguYm 1867 fe ymgeisiodd Thomas am gefnogaeth y Rhyddfrydwyr i fod yn ymgeisydd am ail sedd Merthyr Tudful ond bu'n aflwyddiannus.[9]
Ym 1878 ymddiswyddodd AS Ryddfrydol Bwrdeistref Caerfyrddin, Syr John Cowell-Stepney o'r Senedd a chafodd B T Williams ei ddewis yn unfrydol i'w olynu, yr anghydffurfiwr cyntaf i gynrychioli'r sedd[10]. Cafodd ei ail ethol yn etholiad cyffredinol 1880 ond ymddiswyddodd o'r Senedd ym 1882 ar ôl gael ei benodi yn Farnwr Llys y Goron.[11]
Marwolaeth
golyguO dan bwysau salwch meddwl cyflawnodd weithred o hunnan laddiad yn Seilam y Siroedd Unedig, Caerfyrddin, yn 57 mlwydd oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur ar lein WILLIAMS , BENJAMIN THOMAS (1832 - 1890) [1] adalwyd 16 Awst 2015
- ↑ Eminent Welshmen, Williams Benjamin Thomas [2] adalwyd 16 Awst 2015
- ↑ "ELECTION NEWS - Wrexham Guardian". William Garratt Jones & John Hamlyn. 1878-05-18. Cyrchwyd 2015-08-17.
- ↑ "JUDGE B T WILLIAMS AT SWANSEA - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1882-01-11. Cyrchwyd 2015-08-17.
- ↑ "JUDGE B T WILLIAMS - The Western Mail". Abel Nadin. 1885-03-11. Cyrchwyd 2015-08-17.
- ↑ Leeds Mercury 30 Mai 1885, T6 colofn 4 Politics and Society
- ↑ "HOW THE UNIVERSITY AROSE - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1896-06-27. Cyrchwyd 2015-08-17.
- ↑ "DEATH OF MR B T WILLIAMS QC - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1890-03-22. Cyrchwyd 2015-08-17.
- ↑ "MERTHYR - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1867-09-28. Cyrchwyd 2015-08-17.
- ↑ "AELOD SENEDDOL NEWYDD BWRDEISDREFI CAERFDDIN - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1878-05-17. Cyrchwyd 2015-08-17.
- ↑ "CYNRYCHIOLAETH SENEDDOL CAERFYRDDIN - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1881-12-22. Cyrchwyd 2015-08-17.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Arthur Cowell-Stepney |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin 1878 – 1882 |
Olynydd: John Jones Jenkins |