Alfred Davies
Roedd Alfred Davies (14 Hydref 1848 – 27 Medi 1907), yn wleidydd a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Bwrdeistref Caerfyrddin rhwng 1900 a 1906. Roedd hefyd yn ŵr busnes â chyd sefydlodd cwmni cludo nwyddau Davies Turner ym 1870,[1] cwmni sydd yn parhau i fod yn un o’r cwmnïau cludiant annibynnol mwyaf sy'n gweithredu yng ngwledydd Prydain[2].
Alfred Davies | |
---|---|
Ganwyd | 14 Hydref 1848 Llundain |
Bu farw | 27 Medi 1907 Hampstead |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, member of London County Council |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Cefndir
golyguGanwyd Davies yn Hampsted, Llundain yn bedwerydd mab i’r Parch John Davies, gweinidog capel Annibynnol Cymraeg Albany, Regents Park, Llundain. Roedd teulu ei dad yn hanu o Benygraig, Sir Gaerfyrddin. Roedd ei fam, Mary Kidman Foster, yn perthyn i deulu anghydffurfiol amlwg yn Swydd Gaergrawnt. Addysgwyd ef yn Ysgol Mill Hill ac yn Rickmansworth.
Ym 1877 priododd Lydia Edith Death o Mill Burnt, Essex. Bu iddynt chwech o blant.
Gyrfa
golyguYn ddwy ar bymtheg oed, gadawodd Davies yr ysgol a dechrau gweithio yn swyddfa cwmni agerlongau. O fewn ychydig flynyddoedd dechreuodd mewn busnes ar ei liwt ei hun gan ddyfod yn hynod lwyddiannus. Bu’n un o sylfaenwyr a Chadeirydd Cyfarwyddwr cwmni cludwyr Davies, Turner & Co, Cyf gyda changhennau yn Llundain, Lerpwl, a mewn llefydd eraill yng ngwledydd Prydain ac yn Efrog Newydd, Boston, a Philadelphia yn yr Unol Daleithiau
Gyrfa wleidyddol
golyguCafodd Davies ei ethol fel cynghorydd Rhyddfrydol i Gyngor Sir Llundain ym 1889 dros ward Hackney North gan wasanaethu hyd 1892. Enillodd enw da fel diwygiwr cymdeithasol, ac ar ei gost ei hun bu’n gyfrifol am erlyn nifer o berchnogion tai seler aflan[3].
Ym 1890 cafodd Davies ei enwebu i fod yn ymgeisydd Rhyddfrydol ar gyfer etholaeth Ddwyrain Sir Gaerfyrddin yn dilyn marwolaeth David Pugh, ond ymneilltuodd o’r ras cyn y gynhadledd dethol.
Ym 1899 cafodd ei ddewis fel ymgeisydd Rhyddfrydol Bwrdeistrefi Caerfyrddin, etholaeth oedd yn cael ei dal gan yr Unoliaethwyr Rhyddfrydol, Syr John Jones Jenkins[4]. Llwyddodd Davies i drechu Jenkins yn Etholiad Cyffredinol 1900[5] gan gynrychioli’r etholaeth hyd 1906.
Ni fu cyfnod Davies yn y Senedd yn un llwyddiannus iawn, a bu dadlau am ei addasrwydd i fod yn gynrychiolydd o’r cychwyn cyntaf. Prin oedd y disgwyl i Davies ennill y sedd yn y lle cyntaf. Wedi ei fuddugoliaeth bu rhai yn difaru nad oeddynt wedi dewis ymgeisydd amgen mwy radical, a bu sôn am ddewis ymgeisydd arall ar gyfer yr etholiad nesaf[6].
Roedd y cylchgrawn dychanol Punch wedi penderfynu bod Davies yn edrych yn debyg i gymeriad Charles Dickens, Mr Pickwick. Roedd Mr Pickwick yn gymeriad diniwed, syml, plentynnaidd a oedd yn hawdd i’w drysu a’i dwyllo. Bu’r papur yn gwawdio Davies trwy adrodd am ei gyfraniadau seneddol megis eu bod yn gyfraniadau gan Mr Pickwick. Er enghraifft ym 1904 gwrthododd Davies a thrigolion eraill Hampstead talu'r dreth addysg fel protest am bolisïau addysg y cyngor[7]. Yn hytrach nag adrodd am ddewrder gweithred Davies ar fater o egwyddor, cafodd ei bortreadu fel y ffolineb a’r camddealltwriaeth a arweiniodd at garcharu Pickwick yn llyfr Dickens [8]. Roedd nifer o etholwyr Bwrdeistref Caerfyrddin yn gweld y fath gwawdio fel Davies yn tynnu anfri ar yr etholaeth.
-
Mr Pickwick, cymeriad Dickens
-
Alfred "Pickwick" Davies, cymeriad Punch
Ers cyn ei ethol, bu Davies yn wrthwynebus i bolisi Prydain parthed rhyfeloedd De Affrica. Ymwelodd Lloyd George a Llanelli ym 1903 gan roi araith o blaid y rhyfelodd. Ymatebodd Davies gyda llythyr i’r Times yn feirniadol o Lloyd George. Gan fod Lloyd George yn eilun Rhyddfrydwyr Cymru ar y pryd cythruddwyd rhai o Ryddfrydwyr y Fwrdeistref a bu ymgais i’w dad-ddewis fel cynrychiolydd y Blaid Ryddfrydol.[3][9]
Roedd yn arfer yn ei gyfnod i ŵr busnes cefnog, fel Davies, i gyfrannu’n hael i achosion da. Mewn llythyr i etholwr ym 1905 nododd Davies ei fod wedi gwario £3000 yn y Fwrdeistref ers ei ethol. Bu rai o’i wrthwynebwyr yn yr etholaeth yn gweld y sylw fel cyfaddefiad o lwgrwobrwyo[9]. Bu eraill yn cwyno am ba mor bitw oedd ei gyfraniadau ef i gymharu â chyfraniadau gŵyr busnes eraill megis Syr John Prichard Jones.
Wedi nifer o gyfarfodydd chwerw o gymdeithasau Rhyddfrydol Caerfyrddin a Llanelli, lle fu aelodau a oedd yn cefnogi Davies a’i gwrthwynebwyr yn bygwth rhannu’r cymdeithasau, penderfynwyd ei dad-ddewis fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol ac i ddewis William Llewelyn Williams yn ei le. Ymatebodd Davies a’i gefnogwyr i’r penderfyniad trwy gychwyn ymgyrch iddo sefyll fel ymgeisydd annibynnol. Torrodd iechyd Davies, a bu’n rhaid iddo gadw draw o’r Senedd am gyfnodau maith ym 1905 a 1906 ar gyngor meddygol. Pan alwyd etholiad cyffredinol 1906 penderfynodd Davies nad oedd yn ddigon iach i sefyll ac addawodd ei gefnogaeth i Llewelyn Williams.
Marwolaeth
golyguYm mis Chwefror 1907 suddodd y llong “Berlin” ger yr Iseldiroedd. Ymysg y 141 a gollwyd yn y llongddrylliad roedd Woodham Davies, mab hynaf Alfred Davies[10]. Achosodd y golled i’w iechyd bregus gwaethygu a bu farw o drawiad ar y galon yn ei gartref yn Hampstead yn 59 mlwydd oed[11]. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Hampstead[12][13].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ ‘DAVIES, Alfred’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920-2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 adalwyd 22 Mawrth 2017
- ↑ Davies Turner - One of the UK's Leading International Air Freight Forwarding, Road Services, Ocean & Sea Freight Shipping Companies Adalwyd 2017-03-23
- ↑ 3.0 3.1 "Death of Mr Alfred Davies of Hampstead London - The Carmarthen Weekly Reporter". William Morgan Evans. 1907-10-04. Cyrchwyd 2017-03-23.
- ↑ "Mr Alfred Davies - The Carmarthen Weekly Reporter". William Morgan Evans. 1899-02-10. Cyrchwyd 2017-03-23.
- ↑ "MR ALFRED DAVIES IN - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1900-10-09. Cyrchwyd 2017-03-23.
- ↑ "AlfredDaviesAS - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1902-11-20. Cyrchwyd 2017-03-23.
- ↑ "AN MP'S SILVER SPOONS - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1904-05-21. Cyrchwyd 2017-03-23.
- ↑ "MR PICKWICK DAVIES - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1904-04-09. Cyrchwyd 2017-03-23.
- ↑ 9.0 9.1 "MR ALFRED DAVIES CONSTITUENTS - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1903-10-24. Cyrchwyd 2017-03-23.
- ↑ "TRYCHINEB Y BERLIN - Yr Herald Cymraeg". Daniel Rees. 1907-02-26. Cyrchwyd 2017-03-23.
- ↑ "Marwolaeth Cyn AS Cymraeg - Gwalia". Robert Williams. 1907-10-01. Cyrchwyd 2017-03-23.
- ↑ "THE LATE MR ALFRED DAVIES - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1907-10-02. Cyrchwyd 2017-03-23.
- ↑ Find a Grave - Bedd Alfred Davies
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: John Jones Jenkins |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin 1900 – 1906 |
Olynydd: William Llewelyn Williams |