John Lloyd Vaughan Watkins

gwleidydd (1802-1865)

Gwleidydd Rhyddfrydol Cymreig ac yn Aelod Seneddol Aberhonddu oedd John Lloyd Vaughan Watkins (180228 Medi 1865).

John Lloyd Vaughan Watkins
Ganwyd1802 Edit this on Wikidata
Pontsenni Edit this on Wikidata
Bu farw28 Medi 1865 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1855 Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Arglwydd Raglaw Sir Frycheiniog Edit this on Wikidata
PlantGeorge Watkins Holden Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Ganwyd Lloyd Watkins ym Mhlas Abercamlais ger Pontsenni, yn fab i'r Parch Thomas Watkins a Susanna Vaughan, Gelli Aur, ei wraig.

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Harrow a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen.[1]

Bu'n briod ddwywaith. Ym 1834 priododd ei wraig gyntaf Sophia Louisa Henrietta Pockock merch Syr George Pockock, bu hi farw ym 1851 [2]. Ei ail wraig oedd Eliza Luther (née Gordon) merch Taylor Gordon a gweddw'r Brigadydd Hughes; bu hi farw ym 1855. Doedd dim plant o'r naill briodas na'r llall.

Er na chafodd blant cyfreithlon o'i briodasau mae'n debyg ei fod wedi cael dau fab anghyfreithiol gydag Emma Holden, ei feistres, sef John Watkins Holden y consuriwr enwog a George Watkins Holden y ffotograffydd.[3]

Gyrfa golygu

 
Pennoyre

Roedd Lloyd Vaughan Watkins yn dirfeddiannwr. Ei brif yrfa oedd rhedeg Pennoyre, ystâd ger Aberhonddu. Roedd hefyd yn cyflawni'r dyletswyddau cyhoeddus a dinesig y disgwylid gan fonheddwr - roedd yn Ynad Heddwch, yn Uchel Siryf Sir Frycheiniog ym 1836, Arglwydd Raglaw'r Sir o 1847-1865, yn Faer Aberhonddu, yn feistr yr helfa leol ac yn Cyrnol y Filisia.[4]

Gyrfa Wleidyddol golygu

Ar ôl pasio'r Deddf Diwygio Mawr fe lwyddodd Watkins i dorri gafael teulu Morgan Tŷ Tredegar ar etholaeth Aberhonddu am y tro cyntaf, trwy ennill y sedd fel Rhyddfrydwr, yn etholiad cyffredinol 1832. Brwydr rhwng Watkins a'r Morganiaid bu nodwedd amlycaf y frwydr wleidyddol yn yr etholaeth hyd ei farwolaeth.

Gwasanaethodd Watkins fel AS o 1832 i 1835 cyn cael ei disodli gan Charles Morgan Robinson Morgan, cipiodd y sedd yn ôl ym 1847 cyn cael ei drechu gan Charles Rodney Morgan ym 1852. Enillodd y sedd am y drydedd tro ym 1854 gan gadw ei gafael ar y sedd hyd ei farwolaeth ym 1865; yn yr isetholiad yn dilyn ei farwolaeth enillwyd y sedd gan John Pratt, Iarll Aberhonddu, a safodd o dan nawdd Tŷ Tredegar.[5]

Marwolaeth golygu

Fe etifeddodd Watkins ffortiwn drwy ewyllys ei dad, ond wedi gwario yn helaeth ar Blas Pennoyre, gan ddisgwyl yn ofer y buasai'r Frenhines Victoria yn ymweld â hi, afradwyd llawer o'i olud. Erbyn diwedd ei oes roedd yn methu fforddio talu costau'r staff angenrheidiol i fyw mewn plasty a fu'n byw fel lletywr yng Ngwesty'r Bear Aberhonddu[6] lle fu farw ym 1865. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Llandyfaelog.

Cyfeiriadau golygu

  1. Wrexham Advertiser 07 Hydref 1865
  2. Deaths - London Morning Post 30 Mai 1851
  3. Geo W Holden, Brother of the more famous Jack [1] adalwyd 15 Ion 2015
  4. Erthygl heb deitl- The Welshman 6 Hydref 1865 [2] adalwyd 5 Ion 2015
  5. BRECON BOROUGH ELECTION. Brecon Reporter 3 Mawrth 1866 [3] adalwyd 5 Ion 2015
  6. Western Mail 26 Awst 1918
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Charles Morgan Robinson Morgan
Aelod Seneddol dros Aberhonddu
18321835
Olynydd:
Charles Morgan Robinson Morgan
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Charles Morgan Robinson Morgan
Aelod Seneddol dros Aberhonddu
18471852
Olynydd:
Charles Rodney Morgan
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Charles Rodney Morgan
Aelod Seneddol dros Aberhonddu
18561865
Olynydd:
John Pratt, Iarll Aberhonddu
Teitlau Anrhydeddus
Rhagflaenydd:
Edward Hamilton
Uchel Siryf Sir Frycheiniog
1836
Olynydd:
Crawshay Bailey
Teitlau Anrhydeddus
Rhagflaenydd:
Penry Williams
Arglwydd Raglaw Sir Frycheiniog
1847 - 1865
Olynydd:
George Pratt