Charles Rodney Morgan

gwleidydd (1828-1854)

Roedd Charles Rodney Morgan (2 Rhagfyr 182814 Ionawr 1854) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Aberhonddu rhwng 1852 a 1854.[1]

Charles Rodney Morgan
Ganwyd2 Rhagfyr 1828 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw14 Ionawr 1854 Edit this on Wikidata
Marseille Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadCharles Morgan Robinson Morgan Edit this on Wikidata
MamRosamund Mundy Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

 
Castell Rhiwpera

Ganwyd Morgan yng Nghastell Rhiwpera Machen Isaf yn fab i Charles Morgan Robinson Morgan, Barwn 1af Tredegar, a’i wraig Rosomond merch y Cadfridog Godfrey Basil Mundy. Roedd yn frawd i Frederick Courtenay Morgan AS Mynwy a Sir Fynwy a Godfrey Charles Morgan AS Sir Frycheiniog.

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton.

Ni fu’n briod.[2]

Gyrfa golygu

Ymunodd a’r Gwarchodlu Coldstream ym 1847.

Gyrfa wleidyddol golygu

Safodd Morgan yn enw'r Blaid Geidwadol yn etholaeth Aberhonddu ym 1852[3] gan gipio'r sedd oddi wrth yr aelod Rhyddfrydol John Lloyd Vaughan Watkins. Cadwodd y sedd hyd ei farwolaeth ym 1854.

Yn ei anerchiad etholiadol roedd am ymgyrchu:

  • yn erbyn gosod diffyndollau a’r fewnforio ŷd
  • o blaid cael gwared ar dollau ar frag
  • i roi cefnogaeth frwd i Eglwys Loegr ac i wrthwynebu unrhyw ymgais i’w gwanhau
  • i wrthwynebu ehangu’r etholfraint[4]

Ond gan iddo farw dim ond dwy flynedd ar ôl ei ethol ni chafodd fawr o gyfle i wireddu ei addewidion etholiadol.

Marwolaeth golygu

Bu farw yn Marseilles yn 25 mlwydd oed. Cludwyd ei weddillion yn ôl i Gymru i’w rhoi i orwedd ym meddgor y teulu yn Eglwys Basaleg[5].

Cyfeiriadau golygu

  1. Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895 adalwyd 27 Awst 2017
  2. "Parliamenary History of Brecon - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1893-11-25. Cyrchwyd 2017-08-27.
  3. "ABERHONDDU - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1852-07-22. Cyrchwyd 2017-08-27.
  4. Robert Phipps Dod Dod's Parliamentary Companion 1852 adalwyd 27 Awst 2017
  5. "FUNERAL OF THE LATE CHARLES RODNEY MORGAN ESQ OF RUPERRACASTLE FOR BRECON - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1854-02-10. Cyrchwyd 2017-08-27.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Lloyd Vaughan Watkins
Aelod Seneddol Aberhonddu
1852-1854
Olynydd:
John Lloyd Vaughan Watkins