Samuel von Pufendorf
Cyfreithegwr ac hanesydd o'r Almaen oedd Samuel Freiherr von Pufendorf (8 Ionawr 1632 – 13 Hydref 1694)[1] sydd yn nodedig am ei gyfiawnhad dros y ddeddf naturiol a'i gyfraniadau cynnar at ddamcaniaeth y gyfraith ryngwladol.
Samuel von Pufendorf | |
---|---|
Ganwyd | 8 Ionawr 1632 Dorfchemnitz |
Bu farw | 26 Hydref 1694 Berlin |
Dinasyddiaeth | Etholaeth Sacsoni, Sweden |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfreithegwr, athronydd, hanesydd, academydd, economegydd, llenor |
Blodeuodd | 1669, 1686, 1759 |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | On the Duty of Man and Citizen According to Natural Law |
Ganed Samuel Pufendorf yn Dorfchemnitz, ger Thalheim, yn Etholyddiaeth Sacsoni, un o daleithiau'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Dylanwadwyd arno yn gryf gan weithiau Thomas Hobbes a Hugo Grotius. Dadleuai Pufendorf bod cyfraith y cenhedloedd (ius gentium) yn gangen o'r ddeddf naturiol, ac nid cyfundrefn gyfreithiol trwy ordinhad y ddynolryw. Pwysleisiai hawl yr unigolyn i gydraddoldeb a rhyddid, a honnai taw heddwch yw cyflwr naturiol y byd. Cefnogai oruchafiaeth y wladwriaeth dros yr eglwys mewn cylchoedd seciwlar y gymdeithas, a chafodd y farn honno ddylanwad fawr ar gydberthynas yr eglwys a'r wladwriaeth yn yr Almaen yn y 18g. Ei brif draethodau cyfreithiol yw Elementa jurisprudentiae universalis (1661), De jure naturae et gentium (1672), a De habitu religionis Christianae ad vitam civilem (1687).
Addysgodd Pufendorf gyfreitheg ym mhrifysgolion Heidelberg o 1661 i 1668 ac yn Lund o 1668 i 1677. Ei brif waith ar bwnc hanes yw De statu imperii Germanici (1667). Fe'i benodwyd yn hanesydd brenhinol yn llysoedd Stockholm a Berlin yn niwedd ei oes. Rhoddwyd teitl barwn (Freiherr) iddo ym 1694, ychydig fisoedd cyn ei farw ym Merlin yn 62 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Samuel, baron von Pufendorf. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Medi 2020.