John Maclean (Sosialydd Albanaidd)

sosialydd, comiwnydd, cenedlaetholwr Albanaidd

Roedd John Maclean (24 Awst 1879 - 30 Tachwedd 1923) yn ymgyrchydd sosialaidd a Marcsaidd o'r Alban. Roedd o blaid hunanlywodraeth i'r Alban ac yn wrthwynebwr i'r Rhyfel Byd Cyntaf.

John Maclean
Ganwyd24 Awst 1879 Edit this on Wikidata
Glasgow Edit this on Wikidata
Bu farw30 Tachwedd 1923 Edit this on Wikidata
Glasgow Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, athro ysgol Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolFfederasiwn Democrataidd Sosialaidd, British Socialist Party, Communist Labour Party, Scottish Workers Republican Party Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed Maclean yn Glasgow, mewn teulu yn wreiddiol o Ucheldiroedd yr Alban a magwyd Maclean mewn cartref Calfinistaidd. Roedd ei rieni'n siarad Gaeleg ond ni basiwyd yr iaith ymlaen iddo. Hyffroddwyd Maclean yn athro ysgol gyda chefnogaeth y Free Church ac yna enillodd MA yn y Celfyddydau ym Mhrifysgol Glasgow yn 1904. Yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol datblygodd ei ddiddordeb gwleidyddol, gan ddod i'r casgliad mai dim ond mabwysiadu Marcsiaeth allai ryddhau'r lluoedd gwaith o'u hamodau byw. Ymunodd â mudiad democrataidd cymdeithasol a fyddai wedyn yn rhoi genedigaeth i'r Blaid Sosialaidd Prydain (BSP), gan wneud i Maclean ei arweinydd cyntaf yn yr Alban.

Gwrthwynebu'r Rhyfel Mawr golygu

Roedd Maclean yn wrthwynebus i'r Rhyfel Byd Cyntaf ar sail pasiffistaidd a gwrth-imperialaidd gan weld y Rhyfel fel erfyn i rannu'r gweithwyr ymysg ei gilydd. Esboniodd ei safbwynt mewn pamffled Foreward letter to Forward (transcript).[1][2]

Arestiwyd ef ar 27 Hydref 1915 o dan Ddeddf Amddiffyn y Deyrnas (Defence of the Realm Act)[3] a diswyddwyd ef gan Fwrdd Ysgol Govan o'i swydd fel athro yn Ysgol Gynradd Lorne Street.[4] O ganlyniad, daeth yn ddarlithydd Marcsiaeth llawn amser a threfnydd, gan addysgu gweithwyr eraill yn Glasgow ar theori Farcsaidd. Aeth ymlaen wedyn i sefydlu'r Scottish Labour College.

Arestiwyd ef hefyd yn 1916 am dorri amodau Deddf Amddiffyn y Deyrnas, ond fe'i ryddhawyd yn 1917 yn dilyn gwrthdystiadau a ddigwyddodd yn sgil Chwyldro Chwefror Rwsia. Yn Ionawr 1918 etholwyd Maclean i gadeiryddiaeth Trydydd Cyngres Sofietiaid Rwsia Oll a mis yn ddiweddarach apwyndiwyd ef yn Gonswl yr Alban i'r Bolsieficiaid.[5][6] Sefydlodd swyddfa'r Conswlad yn 12 South Portland Street yn Glasgow ond gwrthododd Llywodraeth Prydain ei gydnabod.[7]

Gweithiodd yn agos gyda sosialwyr eraill y Red Clyde.

Plaid Wleiyddol golygu

 
Symud fiol llwch John Maclean o'i gartref yn Pollokshaws ar Auldhouse Road, Glasgow

Daeth yr SPB a mudiadau adain chwith eraill at ei gilydd a sefydlu Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr (CPGB) yn 1920. Ond er ei gefnogaeth i'r Sofiet Ryngwladol dieithrwyd Maclean gan y blaid newydd. Sefydlodd Blaid Gomiwnyddol yr Alban (Scottish Communist Party) a ddaeth wedyn yn Communist Labour Party a gadawodd Maclean yn ddig. Yn 1923 sefydlodd Blaid Weriniaethol Gweithwyr Albanwyr (Scottish Workers Republican Party) a gyfunodd crêd mewn Comiwnyddiaeth ac annibyniaeth i'r Alban.

Seiliodd ei grêd mewn Gweriniaeth Gomiwnyddol yr Alban yn ei gred bod cymdeithas Gaeleg draddodiadol y wlad wedi eu seilio ar hyd "cymuned". Dadleua "the communism of the clans must be re-established on a modern basis" and raised the slogan "back to community and forward to communism".[8]

Roedd yn wrthwynebus i'r Ymerodraeth Brydeinig ac ym mis Tachwedd 1922 dywedodd, "I hold that the British empire is the greatest menace to the human race...the best interest of humanity can therefore be served by the break-up of the British empire."[9]

Marw golygu

Yn yr un flwyddyn ag y sefydlodd y SWRP bu farw Maclean yn 44 oed yn Glasgow. Roedd wedi dioddef cymhlethdodau i'w iechyd wedi ei gyfnod yn y carchar Peterhead ger Aberdeen pan gorfodwyd ef i fwyta tra roedd ar streic newin.[10] Trawyd ef yn wael wrth iddo areithio a bu farw o pneumonia. Yn ôl y sôn roedd wedi rhoi ei got fawr i gardotyn rhai diwrnodau'n nghynt.

Teyrnged golygu

Ar ôl ei farwolaeth, cydnabwyd ef gan yr Undeb Sofietaidd wrth enwi ffordd ar ei ôl yng nghanol Leningrad (St Petersburg heddiw) - Maklin Prospekt (er, newidiwyd yr enw nôl i'r enw wreiddiol, Angliisky Prospekt - Rhodfa Lloegr - wedi cwymp Comwinyddiaeth). Yn 1979, i ddathlu canmlwyddiant ei eni, argraffodd wasanaeth post yr Undeb Sofietaidd stamp 4 copec, gyda delwedd Maclean arno.

Gwaddol golygu

Dethlir John Maclean gan gefnogwyr asgell chwith a annibyniaeth i'r Alban a thu hwn.

Yn ei gân Freedom Come-All-Ye mae'r awdur, Hamish Henderson yn cyfeirio at Maclean yn hanner olaf y bennill olaf.[11]

Geiriau Gwreiddiol Sgoteg Henderson

When Maclean meets wi's friens in Springburn
Aa thae roses an geans will turn tae blume
An the black lad frae yont Nyanga
Dings the fell gallows o the burghers doun.
Cyfieithiad Saesneg
When MacLean returns to his people
All the roses and cherry trees will blossom
And the black guy from Nyanga
Will break the capitalist stranglehold on everyone's life

Cyfeiriadau golygu

  1. Maclean, Forward
  2. Red Clydeside: Key political figures of the Red Clydeside period
  3. Strathclyde
  4. McGuigan, "Govan School Board had their excuse to dismiss MacLean from his post as a teacher"
  5. Thatcher, Ian D., (1992) "John Maclean: Soviet Versions", in History Vol. 77, Issue 251, p.424
  6. The Times, Thursday, 28 November 1918, "Bolshevist Candidate: Mr. Barnes's Fight at Glasgow"
  7. Aldred, p.21
  8. Maclean, John (1920) All Hail, the Scottish Workers Republic!
  9. https://www.marxists.org/archive/maclean/works/1922-irish-scot.htm
  10. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-10-06. Cyrchwyd 2008-01-25. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link) John Maclean, Radical Glasgow, Glasgow Caledonian University
  11. https://www.youtube.com/watch?v=rIDqtL0s-w4&list=RDrIDqtL0s-w4&start_radio=1

Dolenni allanol golygu