Hamish Henderson
Roedd Hamish Scott Henderson, (11 Tachwedd 1919 - 9 Mawrth 2002; Gaeleg: Seamas MacEanraig (Seamas Mor) yn fardd Albanaidd, cyfansoddwr caneuon, comiwnydd, milwr, cenedlaetholwr a deallusyn. Roedd yn un o brif ffigyrau adfer yr iaith Sgoteg.
Hamish Henderson | |
---|---|
Ganwyd | James Scott Henderson 11 Tachwedd 1919 |
Bu farw | 9 Mawrth 2002 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cerddolegydd, cyfansoddwr caneuon, cyfieithydd, bardd |
Cyflogwr | |
Mudiad | Dadeni'r Alban |
Gwobr/au | Gwobr Somerset Maugham |
Cyfeiriwyd ato fel y bardd Albanaidd bwysicaf ers Robert Burns ac roedd yn sbardun ar gyfer Diwygiad Gwerin yn yr Alban. Roedd hefyd yn gasglwr caneuon gwerin a darganfyddodd perfformwyr nodedig fel Jeannie Robertson, Flora MacNeil a Calum Johnston.
Bywyd cynnar
golyguGanwyd i fam sengl yn Blairgowrie, Perthshire, a symudodd Henderson i Loegr yn ddiweddarach gyda'i fam. Enillodd ysgoloriaeth i'r Ysgol Dulwich yn Llundain; Fodd bynnag, bu farw ei fam yn fuan cyn iddo gymryd ei le ac fe orfodwyd iddo fyw mewn cartref tra'n astudio yno. Yn 16 oed bodiodd i orllewin Lloegr a Gororau Cymru.[1]
Astudiodd Ieithoedd Modern yng Ngholeg Downing, Caergrawnt yn ystod y blynyddoedd oedd yn arwain at yr Ail Ryfel Byd, ac fel myfyriwr bu'n ymweld â'r Almaen, yn trosglwyddo negeseuon ar ran y Crynwyr er mwyn helpu achub Iddewon.[2][3]
Yr Ail Ryfel Byd
golyguEr iddo ddadlau'n gryf dros heddwch, hyd yn oed ymhell i flynyddoedd cynnar y rhyfel, daeth yn argyhoeddedig na ellid cyrraedd heddwch boddhaol a taflodd ei hun yn i'r Rhyfel. Ymunodd â'r Pioneer Corps, gan ei ddyrchafu i'r Intelligence Corps. Roedd y ffaith ei fod yn rhuglu mewn chwe iaith Ewropeaidd a'i ddealltwriaeth ddwfn o ddiwylliant yr Almaen yn ei wneud yn groesholwr effeithiol.
Cymerodd ran yn Rhyfel yr Anialwch yn Affrica, ac ysgrifennodd ei gerdd Elegies For the Dead in Cyrenaica, gan gynnwys pob agwedd o brofiad milwr o dywod Gogledd Affrica. Ar 2 Mai 1945, bu Henderson yn bersonol yn goruchwylio drafftio gorchymyn ildio yr Eidal a gyhoeddwyd gan Marshal Rodolfo Graziani.
Casglodd Henderson y geiriau i "D-Day Dodgers," cân ddychan i dôn "Lili Marlene", a roddwyd i Lance-Sergeant Harry Pynn, a wasanaethodd yn yr Eidal. Ysgrifennodd Henderson y geiriau hefyd i "The 51st (Highland)'s Farewell to Sicily", a osodwyd i dân pibau o'r enw "Farewell to the Creeks". Cyhoeddwyd y llyfr lle cafodd y rhain eu casglu, Ballads of World War II, "yn breifat" i osgoi beirniadaeth, ond enillodd Henderson waharddiad radio o ddeng mlynedd gan y BBC, gan atal cyfres cynhyrchu cyfres ar y faledi. Derbyniodd ei lyfr barddoniaeth Elegies for the Dead in Cyrenaica, am ei brofiadau yn y rhyfel, Wobr Somerset Maugham.[2]
Casglwr Caneuon Gwerin
golyguFe ymroddodd Henderson i waith adfywiad gwerin ar ôl y rhyfel, gan ddarganfod a dwyn sylw'r cyhoedd at Jeannie Robertson, Flora MacNeil (gweler Flora MacNeil, canwr Gaeleg), Calum Johnston (gweler Annie a Calum Johnston o Barc) ac eraill. Yn y 1950au, bu'n ganllaw i'r llwythwr gwerin Americanaidd, Alan Lomax, a gasglodd nifer o recordiadau maes yn yr Alban. (Gweler Alan Lomax, Casglwr Caneuon).
Ceilidhau Gŵyl y Bobl
golyguRoedd Henderson yn allweddol wrth ddod â Cheilidh y Edinburgh's People's Festival yn 1951, a osododd cerddoriaeth werin yr Alban ar y llwyfan cyhoeddus am y tro cyntaf yn ystod "A Night of Scottish Song". Fodd bynnag, cynlluniwyd Gŵyl y Bobl, yr oedd yn rhan ohoni, fel cystadleuydd adain chwith i Ŵyl Caeredin ac roedd yn ddadleuol iawn. Yn y digwyddiad, perfformiodd Henderson gân, at dôn Scotland the Brave, yn mawrygu'r sosialydd a'r cenedlaetholwr Albanaidd, John Maclean.
Fodd bynnag, nododd y digwyddiad y tro cyntaf i gerddoriaeth werin draddodiadol yr Alban gael ei berfformio ar y llwyfan cyhoeddus. Roedd y perfformwyr yn cynnwys Flora MacNeil, Calum Johnston, John Burgess, Jessie Murray, John Strachan, a Jimmy MacBeath a bu'n ddigwyddiad hynod o boblogaidd. Fe'i hystyriwyd fel dechrau ail adfywiad gwerin Prydain.
Parhaodd Henderson i gynnal y digwyddiadau hyd 1954, pan benderfynnodd y Blaid Lafur lleol i ddatgan yr ŵyl yn "Proscribed Organisation" am fod gymaint o gomiwnyddion yn rhan o'r digwyddiad. Gyda cholli cefnogaeth ariannol yr undebau llafur lleol, canslo Gŵyl y Bobl yn barhaol.
Freedom Come-All-Ye
golyguO bosib cyfraniad mwyaf adnabyddus Henderson i'r cyhoedd yw ei gân wrth-imperialaeth a gwrth-ymerodreathol Freedom Come-All-Ye,[4] sydd wedi dod yn rhan o'r traddodiad gwerin a gwleidyddol yr Alban.[2] Mae'r gân wedi ei hysgrifennu yn yr iaith Sgoteg ac yn boblogaidd mewn cyfarfodydd gwleidyddol cenedlaetholgar a sosialaidd yn ogystal â sesiynau cerddorol. Fel arwydd o dderbyniad syniadau Henderson i brif-ffrwd bywyd yr Alban, perfformiwyd y gân yn ystod seremoni agoriadol Gemau'r Gymanwlad 2014 oedd yn yr Alban.
Bywyd a Gorchestion
golyguGan rannu ei amser rhwng Ewrop a'r Alban, ymgartrefodd yn y pen draw yng Nghaeredin ym 1959 gyda'i wraig Almaenig, Kätzel (Felizitas Schmidt).
Casglodd Henderson yn eang yng Ngororau'r Alban a gogledd-ddwyrain y wlad, gan greu cysylltiadau rhwng y teithwyr, cantorion y dafarn yn Aberdeenshire, y bugeiliaid Border, a'r dynion a menywod ifanc a fynychodd y clybiau gwerin yng Nghaeredin.
Yn 1951 sefydlodd Ysgol Astudiaethau'r Alban (School of Scottish Studies), Prifysgol Caeredin, gyda'r ysgolhaig Gaeleg Calum Maclean: yno fe gyfrannodd at yr archifau sain sydd bellach ar gael ar-lein. Bu'n aelod o staff gyda'r Brifysgol nes 1987.[5]
Roedd Henderson yn sosialaidd a chynhyrchodd gyfieithiadau o Lythyrau Carchar Antonio Gramsci, y comiwnydd o Sardinia. Roedd Henderson wedi clywed am Gramsci gyntaf ymhlith partisans comiwnyddol yr Eidal yn ystod y rhyfel. Cyhoeddwyd y cyfieithiad yn New Edinburgh Review yn 1974 ac fel llyfr yn 1988. [1] Roedd yn rhan o ymgyrchoedd ar gyfer hunanlywodraeth yr Alban ac yn sefydlu Plaid Lafur Albanaidd (annibynnol o'r un Brydeinig) yn yr 1970au. Roedd Henderson, a oedd yn agored yn ddeurywiol, yn lafar dros hawliau hoyw.[2][6]
Yn 1983, pleidleisiwyd ef yn Scot of the Year gan wrandawyr Radio Scotland am iddo wrthod OBE fel protest yn erbyn polisi arfogi niwclear llywodraeth Margaret Thatcher.[2]
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ https://www.lrb.co.uk/v33/n21/patrick-wright/his-bonnet-akimbo
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-03. Cyrchwyd 2018-10-13.
- ↑ https://www.theguardian.com/news/2002/mar/11/guardianobituaries.booksobituaries
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=rIDqtL0s-w4
- ↑ https://www.theguardian.com/uk/2002/mar/09/rebeccaallison
- ↑ https://books.google.co.uk/books?id=eb28BQAAQBAJ&pg=PP353&redir_esc=y#v=onepage&q&f=false