John Morgan (ysgolhaig)

clerigwr, ysgolhaig, a llenor

Ysgolhaig, bardd a llenor Cymraeg oedd John Morgan (7 Chwefror 168828 Chwefror 1733 neu 1734). Roedd yn glerigwr Anglicanaidd a oedd yn gasglwr llawysgrifau Cymreig ac yn gyfaill i Edward Lhuyd a Moses Williams. Cyfansoddodd nifer o gerddi Cymraeg yn ogystal â gweithiau rhyddiaith.[1]

John Morgan
Ganwyd1688 Edit this on Wikidata
Llangelynnin Edit this on Wikidata
Bu farw28 Chwefror 1733 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethclerig, person dysgedig, ysgrifennwr, bardd Edit this on Wikidata

Gyrfa golygu

Ganed John Morgan ym mhlwyf Llangelynin, Meirionnydd, yn 1688. Cafodd ei addysg brifysgol yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Daeth yn gurad a threuliodd gyfnodau ym mhlwyfi Llandegfan, Môn, a Llanfyllin, Maldwyn, cyn symud dros Glawdd Offa i ofalu am guradaeth ym Matchin, Essex, lle daeth yn rheithor y plwyf.[2] Yno daeth i gysylltiad â bywyd llenyddol Cymry Llundain. Bu farw yn 1733.

Gwaith llenyddol golygu

Cyfansoddodd nifer o gerddi Cymraeg, yn cynnwys carolau, pennillion serch a chaneuon ar bynciau moesol. Cyfansoddodd englynion coffa i'w gyfaill Edward Lhuyd.[1]

Ei brif waith rhyddiethol yw Myfyrdodau Bucheddol ar y Pedwar Peth Diweddaf. Cyhoeddodd yn ogystal gyfieithiad o'r Lladin i'r Gymraeg o un o lythyrau Tertullian.[1]

Llyfryddiaeth ddethol golygu

  • Myfyrdodau Bucheddol ar y Pedwar Peth Diweddaf (1714)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
  2. Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1944).