Llandegfan
Pentref yng nghymuned Cwm Cadnant, Ynys Môn, yw Llandegfan[1][2] ( ynganiad ). Saif yn ne-ddwyrain yr ynys, ar ffordd gefn ychydig i'r gogledd-ddwyrain o dref Porthaethwy ac i'r gogledd o briffordd yr A545 rhwng Porthaethwy a Biwmares.
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.2391°N 4.1517°W ![]() |
Cod OS | SH565735 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au | Virginia Crosbie (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Mae'r pentref mewn dwy ran; y pentref gwreiddiol yw'r hyn a elwir yn awr yn Hen Landegfan, o gwmpas yr eglwys, sydd wedi ei chysegru i Sant Tegfan. Tyfodd y rhan arall, sydd gryn dipyn yn fwy, i'r de o'r hen bentref ac yn nes at yr A545. Codwyd ystad newydd yn y pentref o'r enw Gwêl y Llan yn 2003 - sef y datblygiad mwyaf diweddar yn y pentref. Mae yna siop fach ar gornel Lôn Ganol a hefyd mae yna Ysgol Gynradd fawr yno, hefo dros 120 o blant yno. Poblogaeth y pentref (2010) yw 927.[3]
Mae yna Neuadd y Plwyf yn y pentref, lle mae cyfarfodydd, digwyddiadau elusen, a hefyd y clwb ieuenctid yn cael ei gynnal. Mae yna barc chwarae tu allan i'r neuadd.
Mae yna dafarn o'r enw Pen y Cefn, sydd yn sefyll wrth ymyl hen felin a chafodd ei ddefnyddio llawer o flynyddoedd yn ôl.
Gweithio yn ninas Bangor y mae'r mwyafrif o'r trigolion.
EisteddfodGolygu
Cynhaliwyd Eisteddfod Môn 2008 yn Llandegfan.
ChwaraeonGolygu
Mae yna dim pêl-droed yn y pentref, CPD Llandegfan sydd yn chwarae ar gae Lôn Tŷ Newydd. Mae'r clwb wedi cael trafferthion ariannol yn y gorffennol, ond rwan erbyn 2018 mae'r tim wedi ail-sefydlu ac maen nhw yn chwarae yng Nghynghrair Ynys Môn.
Mae'r Ysgol Gynradd hefo cyfleusterau chwaraeon cymharol well na lot o ysgolion o'i gwmpas. Mae gan yr ysgol dimau pêl-droed, rygbi 'tag', pêl-rwyd, hoci, a nofio.
Mae'r tafarn yn cynnal clybiau dartiau a hefyd snwcer/pŵl.
Pobl o LandegfanGolygu
Bu Aled Jones yn byw yma pan oedd ei fam yn athrawes yn yr ysgol gynradd.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 15 Rhagfyr 2021
- ↑ (Cymraeg) GENUKI. Gwefan swyddogol. GENUKI. Adalwyd ar 06 Ebrill 2012.
Dolen allanolGolygu
- Nodweddion o ddiddordeb yn Llandegfan, gan ddisgyblion yr ysgol Archifwyd 2005-02-07 yn y Peiriant Wayback.
Trefi
Amlwch ·
Benllech ·
Biwmares ·
Caergybi ·
Llangefni ·
Niwbwrch ·
Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw ·
Bethel ·
Bodedern ·
Bodewryd ·
Bodffordd ·
Bryngwran ·
Brynrefail ·
Brynsiencyn ·
Brynteg ·
Caergeiliog ·
Capel Coch ·
Capel Gwyn ·
Carmel ·
Carreglefn ·
Cemaes ·
Cerrigceinwen ·
Dwyran ·
Y Fali ·
Gaerwen ·
Glyn Garth ·
Gwalchmai ·
Heneglwys ·
Hermon ·
Llanallgo ·
Llanbabo ·
Llanbedrgoch ·
Llandegfan ·
Llandyfrydog ·
Llanddaniel Fab ·
Llanddeusant ·
Llanddona ·
Llanddyfnan ·
Llanedwen ·
Llaneilian ·
Llanfachraeth ·
Llanfaelog ·
Llanfaethlu ·
Llanfair Pwllgwyngyll ·
Llanfair-yn-Neubwll ·
Llanfair-yng-Nghornwy ·
Llan-faes ·
Llanfechell ·
Llanfihangel-yn-Nhywyn ·
Llanfwrog ·
Llangadwaladr ·
Llangaffo ·
Llangeinwen ·
Llangoed ·
Llangristiolus ·
Llangwyllog ·
Llaniestyn ·
Llannerch-y-medd ·
Llanrhuddlad ·
Llansadwrn ·
Llantrisant ·
Llanynghenedl ·
Maenaddwyn ·
Malltraeth ·
Marianglas ·
Moelfre ·
Nebo ·
Pencarnisiog ·
Pengorffwysfa ·
Penmynydd ·
Pentraeth ·
Pentre Berw ·
Pentrefelin ·
Penysarn ·
Pontrhydybont ·
Porthllechog ·
Rhoscolyn ·
Rhosmeirch ·
Rhosneigr ·
Rhostrehwfa ·
Rhosybol ·
Rhydwyn ·
Talwrn ·
Trearddur ·
Trefor ·
Tregele