John Peter (Ioan Pedr)
Ysgolhaig Celtaidd, ieithydd a gweinidog Cymreig oedd John Peter (10 Ebrill, 1833–17 Ionawr, 1877), a adnabyddir gan amlaf wrth ei enw barddol Ioan Pedr. Yn ŵr hunan-addysgiedig, daeth yn un o arloeswyr ei gyfnod ym maes ieitheg Geltaidd gymharol.
John Peter | |
---|---|
Ffugenw | Ioan Pedr |
Ganwyd | 10 Ebrill 1833 y Bala |
Bu farw | 17 Ionawr 1877 y Bala |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, academydd, ieithydd, bardd, hanesydd, daearegwr, tiwtor, offeiriad |
Bywgraffiad
golyguGaned Ioan Pedr yn Y Bala, Meirionnydd, Gwynedd yn 1833. Roedd ei rieni yn dlawd a bu rhaid iddo weithio am gyfnod mewn melin flawd. Aeth ati i ddysgu nifer o ieithoedd ac astudio daeareg yn ei amser ei hun. Oherwydd hynny, cafodd le yng Ngholeg y Bala a daeth yn weinidog gyda'r Annibynwyr.
Fel ysgolhaig roedd ei waith yn arloesol. Dylanwadwyd arno gan waith ysgolheigion mawr yr Almaen yn y cyfnod hwnnw, megis Johann Kaspar Zeuss. Cyhoeddodd ei brif waith, Certain Peculiarities of Celtic Grammar, yn 1867. Cyfranodd nifer sylweddol o erthyglau ar amryw o bynciau yn ymwneud â'r Celtiaid i gylchgronau dysgedig fel y Revue Celtique ac Y Cymmrodor.
Torwyd ei yrfa yn fyr pan fur farw yn 1877, yn 44 oed.
Llyfryddiaeth fer
golygu- Certain Peculiarities of Celtic Grammar (1867)