John Prescott

gwleidydd ac undebwr llafur (1938–2024)

Gwleidydd o Gymru ac aelod o'r Blaid Lafur oedd John Leslie Prescott (31 Mai 193820 Tachwedd 2024)[1]. Bu'n Aelod Seneddol ar gyfer Hull East ac yn gyn Ddirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig a Phrif Ysgrifennydd Gwladol y Deyrnas Unedig. Etholwyd ef yn Ddirprwy Arweinydd y Blaid Lafur ar ôl dod yn ail yn etholiad arweinydd y blaid ym 1994, a chafodd swydd fel Dirprwy Brif Weinidog ar ôl buddugoliaeth Llafur yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1997.

John Prescott
LlaisLord Prescott BBC Radio4 Desert Island Discs 19 Feb 2012 b01c6trm.flac Edit this on Wikidata
Ganwyd31 Mai 1938 Edit this on Wikidata
Prestatyn Edit this on Wikidata
Bu farw20 Tachwedd 2024 Edit this on Wikidata
o clefyd Alzheimer Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Ruskin
  • Prifysgol Hull Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, undebwr llafur Edit this on Wikidata
SwyddDirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Prif Ysgrifenyddion Gwladol, Aelod Senedd Ewrop, Secretary of State for the Environment, Transport and the Regions, Deputy Leader of the Labour Party, Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Waith a Phensiynau, Shadow Secretary of State for Transport, Shadow Secretary of State for Energy and Climate Change, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Shadow Secretary of State for Transport, Shadow Secretary of State for Employment, Shadow Secretary of State for Employment Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Bywyd cynnar

golygu

Cafodd ei eni ym Mhrestatyn ac er symudodd ei deulu i ffwrdd pan oedd yn 4 mlwydd oed, roedd yn ystyried ei hun yn Gymro.[2] Yn ei amser bu'n gyn-stiward ar long ac yn actifydd undeb llafur. Yn 1962, mynychodd Coleg Ruskin, Rhydychen, lle cafodd ddiploma mewn economeg a gwleidyddiaeth, cyn mynd ymlaen i Brifysgol Hull i astudio am radd mewn economeg.[2]

Cyflwynwyd ef gan "Lafur Newydd" fel dolen rhwng y dosbarth gweithiol a gwleidyddiaeth, mewn plaid a oedd yn cael ei redeg gan bobl broffesiynol, dosbarth canol. Fe fethodd basio'i arholiad eleven plus er mwyn mynd i ysgol ramadeg, ond fe aeth ymlaen i raddio yng Ngholeg Ruskin yn Rhydychen. Cafodd Prescott enw da fel cymodwr allweddol yn y berthynas rhwng y ddau brif gymeriad yn y llywodraeth ar y pryd, sef y canghellor Gordon Brown a'r Prif Weinidog Tony Blair.

Ar 27 Mehefin 2007, ymddeolodd o'i swydd fel Dirprwy Brif Weinidog, gan gyd-daro gydag ymddiswyddiad y Prif Weinidog, Tony Blair. Yn dilyn ethoiad o fewn y blaid Lafur, fe gymerodd Harriet Harman ei swydd fel y Prif Ysgrifennydd Gwladol, ond ni apwyntwyd Dirprwy Brif Weinidog yn ei le. Ar 27 Awst 2007, datganodd na fyddai'n sefyll i gael ei ail-ethol fel AS yn yr etholiad nesaf.[3]

Bywyd personol

golygu

Priododd Pauline Tilston yn 1961 a ganwyd dau fab iddynt.

Bu farw yn 86 mlwydd oed. Roedd wedi dioddef strôc yn 2019 ac fwy diweddar roedd yn byw mewn cartref gofal ar ôl byw gydag Alzheimer's.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Y cyn-ddirprwy Brif Weinidog John Prescott wedi marw yn 86 oed". newyddion.s4c.cymru. 2024-11-21. Cyrchwyd 2024-11-21.
  2. 2.0 2.1 "John Prescott obituary: Politician who played role in Labour comeback". BBC News (yn Saesneg). 2024-11-21. Cyrchwyd 2024-11-21.
  3.  John Prescott to stand down as MP. BBC (2007-08-27).
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Harry Pursey
Aelod Seneddol dros Ddwyrain Kingston upon Hull
19702010
Olynydd:
Karl Turner
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Michael Heseltine
Dirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig
2 Mai 199727 Mehefin 2007
Olynydd:
Gwag /
Nick Clegg
(o 2010)
Swyddi gwleidyddol pleidiol
Rhagflaenydd:
Margaret Beckett
Dirprwy Arweinydd y Blaid Lafur
21 Gorffennaf 199424 Mehefin 2007
Olynydd:
Harriet Harman