John Rhys-Davies
Actor ffilm o Gymro yw John Rhys-Davies (ganed 5 Mai 1944). Mae'n adnabyddus am chwarae'r cymeriad Gimli yng nghyfres ffilmiau The Lord of the Rings a'r cloddiwr carismataidd Sallah yn ffilmiau Indiana Jones.
John Rhys-Davies | |
---|---|
Ganwyd | 5 Mai 1944 Rhydaman |
Man preswyl | Waikato Region, Ynys Manaw |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, actor teledu, actor ffilm, actor llwyfan |
llofnod | |
Bywyd cynnar
golyguCafodd ei eni yng Nghaersallog ac fe'i magwyd yno ynghyd â chyfnodau yn Tanganica a Rhydaman.[1] Roedd ei fam, Mary Margaretta Phyllis Jones, yn nyrs, a'i dad, Rhys Davies, yn beiriannydd mecanyddol [2] ac yn Swyddog Trefedigaethol.[3] Yn y 1950au cynnar bu'r teulu yn byw am sawl blwyddyn yn Kongwa, Dar es Salaam, Moshi a Mwanza Tansanïa, tra roedd ei dad yn gwasanaethu yno fel Heddwas trefedigaethol. Fe'i addysgwyd yn Ysgol Truro a Phrifysgol Dwyrain Anglia lle roedd yn un o'r 87 myfyriwr cynta i'w derbyn, a lle ffurfiodd y Gymdeithas Ddrama. Ar ôl dysgu yn Ysgol Uwchradd Watton yn Norfolk enillodd le yn Academi Frenhinol y Celfyddydau Dramatig.
Ffilmiau
golygu- 31north62east (2009)
- Reclaiming The Blade (2009)
- Kröd Mändoon and the Flaming Sword of Fire (cyfres deledu 2009)
- Anacondas: Trail of Blood (2009)
- Prisoners of the Sun (2008)
- Fire & Ice: The Dragon Chronicles (2008)
- Anaconda 3: Offspring (2008)
- Catching Kringle (Ffilm fer; 2007) (llais)
- The Ferryman (2007)
- In the Name of the King: A Dungeon Siege Tale (2007)
- The Legend of Sasquatch (2006)
- One Night with the King (2006)
- The King Maker (2005)
- Chupacabra: Dark Seas (Teitl DVD: Chupacabra Terror) (2005)
- The Game of Their Lives (2005)
- The Princess Diaries 2: Royal Engagement (2004)
- The Lord of the Rings: The Return of the King (2003)
- The Medallion (2003)
- The Lord of the Rings: The Two Towers (2002)
- Sabretooth (2002)
- The Lord of the Rings: The Fellowship of the Ring (2001)
- Cats Don't Dance (1997) (voice)
- Glory Daze (1996)
- The Great White Hype (1996)
- The High Crusade (1994)
- The Lost World (1992)
- Indiana Jones and the Last Crusade (1989)
- The Living Daylights (1987)
- King Solomon's Mines (1985)
- Sahara (1983)
- Victor Victoria (1982)
- Ivanhoe (1982)
- Raiders of the Lost Ark (1981)
- I, Claudius (1976)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Kirstie McCrum. Hollywood actor John Rhys-Davies: 'I'm very proud of being a Welshman' , Wales Online, 23 Tachwedd 2013. Cyrchwyd ar 12 Awst 2015.
- ↑ John Rhys-Davies Biography (1944–). filmreference.com. Adalwyd ar 27 May 2009.
- ↑ John Rhys-Davis. nTZ. Adalwyd ar 27 May 2009.