Victor Victoria

ffilm ar gerddoriaeth a chomedi rhamantaidd gan Blake Edwards a gyhoeddwyd yn 1982

Mae Victor Victoria (1982) yn ffilm gomedi cerddorol gan Metro-Goldwyn-Mayer, sy'n ymwneud â thrawswisgo a hunaniaeth ryweddol fel y themâu canolog. Mae'n serennu Julie Andrews, James Garner, Robert Preston, Lesley Ann Warren, Alex Karras a John Rhys-Davies. Cynhyrchwyd y ffilm gan Tony Adams a chafodd ei chyfarwyddo gan Blake Edwards. Ysgrifennwyd y sgôr gan Henry Mancini a'r geiriau gan Leslie Bricusse. Yn 1995 cafodd ei addasu'n sioe gerdd Broadway. Enwebwyd y ffilm am saith o Wobrau'r Academi ac enillodd y Sgôr Wreiddiol Orau. Addasiad yw'r ffilm o Viktor und Viktoria, ffilm Almaenig o 1933.

Victor Victoria

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Blake Edwards
Cynhyrchydd Tony Adams
Blake Edwards
Ysgrifennwr Blake Edwards
Hans Hoemburg
Reinhold Schünzel (sgript 1933)
Serennu Julie Andrews
James Garner
Robert Preston
Cerddoriaeth Henry Mancini
Sinematograffeg Dick Bush
Golygydd Ralph E. Winters
Dylunio
Cwmni cynhyrchu MGM
United Artists Entertainment
Amser rhedeg 132 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Deyrnas Unedig
Ffrainc
Gorllewin yr Almaen
Iaith Saesneg
Ffrangeg

Cast golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm â thema LHDT. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.