John Walter Jones

Gwas sifil o Gymro

Cyn was sifil o Gymro oedd John Walter Jones (28 Mawrth 194624 Medi 2020).[1][2] Roedd yn Brif Weithredwr cyntaf Bwrdd yr Iaith Gymraeg, a bu yn y swydd rhwng 1993 a 2004.[3] Roedd hefyd yn gadeirydd S4C rhwng 2006 a 2010.[4]

John Walter Jones
Ganwyd28 Mawrth 1946 Edit this on Wikidata
Moelfre Edit this on Wikidata
Bu farw24 Medi 2020 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwas sifil, prif weithredwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Gorsedd y Beirdd Edit this on Wikidata

Addysg golygu

Ganwyd John Walter Jones ym Moelfre, Ynys Môn[5] yn fab i Megan a'r Parchedig Huw Walter Jones.[6] Roedd ei dad yn weinidog Methodist yn Moelfre.[7]

Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Friars ym Mangor ac aeth ymlaen i astudio Economeg yn Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru (nawr yn rhan o Brifysgol Caerdydd).[5]

Gyrfa golygu

Bu'n was sifil rhwng 1971 ac 1988, ac fe weithiodd yn y Swyddfa Gymreig yng Nghaerdydd a Llundain, lle'r oedd yn ysgrifennydd preifat i dri gweinidog.

Yn 1981 roedd John yn gyfrifol am sefydlu cyfundrefn gyntaf y Llywodraeth ar gyfer rhoi grantiau i gefnogi'r iaith Gymraeg ac yn 1988 fe'i secondiwyd i sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg anstatudol. Daeth yn Brif Weithredwr cyntaf y Bwrdd statudol yn 1993.

Ymddeolodd John o Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn 2004,[8] a'r flwyddyn honno fe'i hurddwyd yn aelod o Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd. Yn yr un flwyddyn derbyniodd Order of the British Empire (OBE) am "wasanaethau i'r Iaith Gymraeg".

Yn Ebrill 2006, fe'i hapwyntiwyd fel cadeirydd Awdurdod S4C.[9] Fe ymddeolodd yn Rhagfyr 2010 mewn ychydig o ddryswch am ei fod wedi bwriadu cadw'r ymddeoliad yn gyfrinach nes y Gwanwyn 2011.[10]

Rhwng Mawrth 2014 a Mawrth 2018, roedd yn cyflwyno rhaglen drafod a holi amser cinio ar BBC Radio Cymru.[11]

Bywyd personol golygu

Roedd yn briod a Gaynor. Roedd ganddynt un ferch, Beca a bu farw yn 33 mlwydd oed yn 2010.[12]

Marwolaeth a theyrngedau golygu

Bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Cynhaliwyd angladd preifat iddo ar 9 Hydref 2020 yng Nghapel Briwnant, Amlosgfa Draenen Pen-y-Graig, Caerdydd.[2]

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas fod John Walter Jones eisiau bod yn swyddog cyhoeddus erioed. "Mi gyflawnodd o gymaint drwy fod yn swyddog effeithiol," ac "Dyna gyfraniad mawr John - crëwr sefydliadau, cynhaliwr sefydliadau, a dyna sydd mwya' o'i angen ar Gymru."

Roedd Rhodri Williams, yn gadeirydd ar Fwrdd yr Iaith Gymraeg pan roedd John yn brif weithredwr. Dywedodd yntau "Roedd John yn angerddol dros Gymru a'r Gymraeg, yr un mor angerddol ag unrhyw ymgyrchydd iaith".

Bu Meirion Prys Jones yn ddirprwy i John ym Mwrdd yr Iaith am dros ddegawd. Dywedodd na fyddai sefydlu'r Bwrdd na Deddf Iaith yn '93 wedi bod yn bosib "oni bai am lobïo mewnol John".

Soniodd Meri Huws, cyn-gadeirydd Bwrdd yr Iaith a Chomisiynydd y Gymraeg cyntaf, am ei gyfraniad. "Doedd e ddim yn was sifil normal, roedd e'n llawn brwdfrydedd, llawn ynni," meddai. Ychwanegodd "Roedd e'n styfnig, llond pen o wallt coch, yn llawn pendantrwydd. Mae'n sioc i glywed bod yr ynni yna wedi dod i ben."[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Ty'r Cwmniau - cyfarwyddwyr; Adalwyd 14 Ionawr 2016
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Funeral Notice for Mr John Walter Jones. Dignity Funeral Directors. Adalwyd ar 3 Hydref 2020.
  3. Penodiad Cadeirydd Newydd S4C; Adalwyd 2015-11-30
  4. 4.0 4.1 John Walter Jones wedi marw yn 74 oed , BBC Cymru Fyw, 24 Medi 2020.
  5. 5.0 5.1 Cyfweliad John Walter Jones ar Beti a'i Phobol; Adalwyd 2015-11-30
  6.  Alun Guy (Tachwedd 2020). John Walter Jones 1946 -2020. Y Dinesydd.
  7. Anglesey youth turn out for eisteddfod proclamation , North Wales Live, 13 Mai 2009. Cyrchwyd ar 11 Tachwedd 2020.
  8. Bwrdd: Prif Weithredwr i ymddeol; Adalwyd 2015-11-30
  9. Cadeirydd newydd i S4C; Adalwyd 2015-11-30
  10. John Walter Jones: Ymddeoliad i fod yn gyfrinach; Adalwyd 2015-11-30
  11. Cyn bennaeth Bwrdd Iaith ar Radio Cymru; Adalwyd ar 2015-11-30
  12. Blog rhaglen radio Dewi Llwyd; Adalwyd 2015-11-30