Plwyf eglwysig yn Eifionydd, Gwynedd yw Ynyscynhaearn. Mae'n gorwedd i'r gogledd-ddwyrain o dref Cricieth hanner ffordd rhwng y dref honno a Porthmadog ac yn cynnwys Penrefelin. Mae'r plwyf yn rhan o Esgobaeth Bangor.

Ynyscynhaearn
Eglwys Ynyscynhaearn
Mathplwyf, anheddiad dynol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.938077°N 4.141198°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
EsgobaethEsgobaeth Bangor Edit this on Wikidata

Yn y plwyf, mae Eglwys Sant Cynhaiarn; Brawd Sant Aelhaearn, a gysylltir â Llanaelhaearn, oedd Cynhaearn. Ni wyddys fawr arall amdano. Roedd ei frodyr eraill yn cynnwys Marchell.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Ganed y telynor enwog Dafydd y Garreg Wen (David Owen: 1711/1712-1741) ar dyddyn Y Garreg Wen yn Ynyscynhaearn. Yma hefyd y ganed yr hynafiaethydd a bardd Ellis Owen, Cefnymeysydd (1789-1868) yn fferm Cefn-y-meysydd Isaf, ym mhlwyf Ynyscynhaearn.

Cyfeiriadau golygu

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato