Jonathan Davies (chwaraewr rygbi - ganwyd 1988)

Chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol, sydd yn chwarae yn safle'r canolwr dros Gymru a Scarlets Llanelli yw Jonathan "Jon" Davies (ganwyd 5 Ebrill 1988).

Jonathan Davies
Ganwyd5 Ebrill 1988 Edit this on Wikidata
Solihull Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra186 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau103 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auY Scarlets, Clwb Rygbi Llanelli, ASM Clermont Auvergne, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru dan 20 oed Edit this on Wikidata
SafleCanolwr Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Jonathan Davies yn Solihull yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, ond ymfudodd ei deulu i Fancyfelin, Sanclêr, Sir Gaerfyrddin pan oedd yn ifanc. Mynychodd Ysgol Gyfun Dyffryn Tâf, yn Hendy-gwyn ar Daf, cyn cychwyn cwrs Ffitrwydd a Chwaraeon yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Mae Joanthan yn siarad Cymraeg yn rhugl.[1]

Diddordebau golygu

Ar wahan i chwarae rygbi, mae Jonathan Davies yn mwynhau caiacio a chwarae criced.[1]

Gyrfa clwb golygu

Cychwynodd Jonathan Davies ei yrfa fel aelod ifanc o academi y Scarlets. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Glwb Rygbi Llanelli cyn cael ei ddyrchafu i ranbarth y Sgarlets yn 2006. Sgoriodd ei gais cyntaf i'r tîm yn erbyn Connacht ym Medi 2007.

Gyrfa ryngwladol golygu

Cynhwyswyd Jonathan Davies yng ngharfan Cymru ar gyfer y daith i Ogledd America yn 2009. Chwaraeodd ei gem gyntaf dros Gymru yn erbyn Canada ym Mai 2009. Sgoriodd ddau gais yn erbyn Unol Daleithiau America.

Chwaraeodd Davies fel canolwr allanol Cymru i bartneru gyda Jamie Roberts yn safle'r canolwr mewnol yn Nhachwedd 2009 yn erbyn yr Ariannin. Yn Ionawr 2010, enwyd Davies yn ngharfan Cymru ar gyfer Pencapwriaeth y Chwe Gwlad 2010, ond ni chafodd ei ddewis i chwarae yn unrhyw un o'r gemau.

Ffurfiodd Davies bartneriaeth cryf gyda'r maswr James Hook a'r canolwr Jamie Roberts ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2011.[2]

Cwpan y Byd, 2011 golygu

Chwaraeodd Davies dros Gymru ym mhob un o'u saith gem yng Nghystadleuaeth Cwpan y Byd 2011, Seland Newydd. Sgoriodd gyfanswm o dri cais yn ystod y gystadleuaeth, yn erbyn Namibia, Ffiji ac Iwerddon.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Bywgraffiad ar Wefan Scarlets Llanelli". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-12. Cyrchwyd 2011-10-24.
  2. Gwefan BBC - Jonathan Davies yn hapus wrth ochr James Hook

Dolenni allanol golygu