Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Conwy 2019
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Conwy 2019 yn Llanrwst, Conwy, ar 2-10 Awst 2019. Dyma oedd Eisteddfod gyntaf y trefnydd newydd Betsan Moses a'r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd.[3]
Cyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2019 fod yr Eisteddfod yma wedi gwneud colled ariannol o £158,982 oherwydd y costau ychwanegol a gododd oherwydd y tywydd gwael. Roedd rhaid cau Maes B a’r maes pebyll ac ad-dalu y tocynnau. Byddai'r golled yn cael ei dalu o gronfeydd canolog a ni fyddai'n cael ei gario drosodd i'r Eisteddfod flwyddyn nesaf.[4] Bydd yr Eisteddfod yn comisiynu adroddiad annibynnol ar sut y penderfynwyd ar leoliad gwreiddiol y brifwyl yn Llanrwst.[5]
Y Maes
golyguLleolwyd y Maes rhyw filltir i'r de o dref Llanrwst ar ochr ddwyreiniol yr A470, ar gaeau Plas Tirion a Cilcennus (53°06′44″N 3°46′45″W / 53.112268°N 3.779179°W). Roedd y maes carafanau ar ochr orllewinol yr A470. Roedd rhaid diwygio y cynlluniau gwreiddiol ar gyfer y Maes wedi gofid am berygl o lifogydd mewn rhannau o'r maes a felly nid oedd yn bosib i'w hyswirio.[6]
Roedd rhagolygon o dywydd garw ar ddiwedd yr wythnos a effeithiodd ar nifer o ddigwyddiadau'r Eisteddfod. Daeth cawodydd o law trwm ar y dydd Gwener ac fe ganslwyd gigs Maes B ar gyfer y noson honno a rhai nos Sadwrn. Caewyd y maes pebyll ieuenctid gerllaw hefyd a roedd lloches i'w gael mewn canolfan hamdden.[7]
Daeth mwy o gawodydd glaw ar y dydd Sadwrn ynghyd â gwyntoedd cryfion. Symudwyd gig Dafydd Iwan o Lwyfan y Maes i'r Pafiliwn. Gyda dim ond lle i 1,800 yn y Pafiliwn, cyntaf i'r felin fyddai hi i'r rhai oedd am fynd i'r gig.[8]
Prif gystadlaethau
golyguY Gadair
golyguEnillydd y Gadair oedd T. James Jones (ffugenw "Wil Tabwr"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Llion Jones, ar ran ei gyd-feirniaid Ieuan Wyn a Myrddin ap Dafydd. Saith ymgeisydd gystadlodd eleni, a'r dasg oedd llunio awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, heb fod yn fwy na 250 o linellau, o dan y teitl Gorwelion. Dywedodd y beirniaid fod yr awdl buddugol "gryn dipyn ar y blaen yn y ras am y gadair eleni, o safbwynt ei huchelgais, ei chyfeiriadaeth, ei meddylwaith a'i mydryddiaeth".[9]
Noddwyd y Gadair gan Undeb Amaethwyr Cymru. Crëwyd y Gadair gan Gwenan Haf Jones, y fenyw cyntaf i wneud hynny ers 1999. Mae hi'n gynllunydd gyda chwmni dodrefn a cheginau yng Nghorwen.[10] Derbyniodd yr enillydd hefyd wobr ariannol o £750, er cof am y Prifardd Gwynfor ab Ifor gan y teulu.
Datgelwyd mai Huw Dylan Owen oedd yn ail gyda awdl “na welwyd ei thebyg” o'r blaen yn ôl y feirniadaeth. Roedd yr awdl ar ffurf Llyfr Ryseitiau, yn cynnig awgrymiadau am sut i chwalu ffiniau drwy fwydydd traws-ddiwylliannol.[11]
Y Goron
golyguEnillydd y Goron oedd Guto Dafydd (ffugenw "Saer nef"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Ceri Wyn Jones ar ran ei gyd-feirniaid Manon Rhys a Cen Williams. Cystadlodd 29 eleni a'r dasg oedd cyflwyno casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn, heb fod dros 250 o linellau ar y testun Cilfachau. Yn cloi ei feirniadaeth, dywedodd Ceri Wyn "Am gerddi sy’n ein difyrru, ein hanesmwytho a’n cyffroi, felly, ma’r Goron leni yn mynd i Saer nef, ac ma’r tri ohonon ni yn ei longyfarch yn fawr."[12]
Dyluniwyd y goron gan Angela Evans o Gaernarfon ac fe'i cyflwynwyd gan y gymdeithas dai, Grwp Cynefin. Roedd yna hefyd wobr ariannol a roddwyd gan John Arthur a Margaret Glyn Jones a’r teulu, Llanrwst.
Datgelwyd mai rhai o'r cystadleuwyr a ddaeth yn agosaf i ennill oedd Damien Walford Davies ('OS'), Aneirin Karadog ('Non') a Mari George.[13]
Gwobr Goffa Daniel Owen
golyguYr enillydd oedd Guto Dafydd o Bwllheli, a enillodd yr un wobr yn 2016. Traddodwyd y feirniadaeth gan Haf Llewelyn, ar ran ei chyd-feirniaid Dyfed Edwards a Llwyd Owen. Tasg y gystadleuaeth oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Y wobr oedd Medal Goffa Daniel Owen a £5,000 (£3,500 er cof am Olwen Mai Williams, Foel, Cwm Penmachno gan ei theulu, £1,000 Gwasg Carreg Gwalch, a £500 gan Ymddiriedolaeth D Tecwyn Lloyd). Daeth 8 cynnig ar y gystadleuaeth eleni a dywedodd y beirniaid nad oedd y gystadleuaeth yn un gref iawn eleni. Er hynny roedd y nofel fuddugol Carafanio gan "Arglwydd Diddymdra" yn sefyll "ar gyfandir arall" i'r gweddill.[14]
Y Fedal Ryddiaith
golyguEnillydd y Fedal oedd Rhiannon Ifans o Benrhyn-coch gyda'i nofel Ingrido dan y ffugenw "Raphael". Y dasg oedd cyfansoddi cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema "Cylchoedd" gyda gwobr ariannol o £750 yn ogystal a'r Fedal. Derbyniwyd 18 o gyfrolau eleni a thraddodwyd y feirniadaeth gan Mererid Hopwood ar ran ei chyd-feirniaid Aled Islwyn ac Alun Cob.[15]
Tlws y Cerddor
golyguY dasg oedd cyfansoddi cyfanwaith i Gôr SATB rhwng chwech ac wyth munud o hyd gyda chyfeiliant neu'n ddigyfeiliant, gan ddefnyddio unrhyw ddetholiad o'r gerdd Llwch y Sêr gan Grahame Davies, i gynnwys dau neu dri darn. Roedd 10 ymgais eleni a thraddodwyd y feirniadaeth gan Richard Elfyn Jones ar ran ei gyd-feriniaid, Gareth Glyn ac Eilir Owen Griffiths. Dywedodd fod llawer o'r cyfansoddiadau yn 'iawn mewn rhannau'. Yn anffodus roedd y beirniaid yn gytûn nad oedd yr un ymgais yn deilwng o'r wobr eleni.[16]
Y Fedal Ddrama
golyguEnillydd y Fedal oedd Gareth Evans-Jones, o Draeth Bychan ger Marian-glas, Ynys Môn am ei ddrama Adar Papur (ffugenw "Gwylan"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Bethan Marlow ar ran ei chyd-feirniaid Gethin Evans a Branwen Cennard. Y dasg oedd ysgrifennu ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd. Cyflwynwyd y Fedal er cof am Urien Wiliam, rhoddedig gan ei briod Eiryth a’r plant, Hywel, Sioned a Steffan yn ogystal â gwobr o £750 (Cronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli).[17]
Canlyniadau cystadlaethau
golyguAlawon Gwerin
golygu1. Côr Alaw Werin 1. Lleisiau’r Nant 2. Lodesi Dyfi 3. Côr yr Heli
2. Parti Alaw Werin 1. Genod Garmon 2. Gemau Llŷn 3. Rhiannedd y Cwm
3. Parti Alaw Werin dan 25 oed 1. Aelwyd Chwilog 2. Criw’r Creuddyn
4. Gwobr Goffa Y Fonesig Ruth Herbert Lewis 1. Rhydian Jenkins, Maesteg 2. Teleri Mair Jones, Caergybi 3. Robert Ieuan Edwards,
5. Unawd Alaw Werin 16 ac o dan 21 oed 1. Llinos Haf Jones, Penarth 2. Cai Fôn Davies, Bangor 3. Llio Meirion Rogers, Rhuthun
6. Unawd Alaw Werin 12 ac o dan 16 oed 1. Osian Trefor Hughes, Deiniolen 2. Beca Haf Stuart, Bodorgan 3. Tomi Llywelyn, Llanrug
7. Unawd Alaw Werin dan 12 oed 1. Lowri Anes Jarman, Y Bala 2. Beca Marged Hogg, Yr Wyddgrug 3. Eiri Ela Evans, Llanfair, Rhuthun
8. Cyflwyniad ar lafar, dawns a chân 1. Glanaethwy
9. Grŵp Offerynnol neu offerynnol a lleisiol 1. Tannau Llangadfan 2. Tawerin 3. Y Davaliaid / Sesiynwyr Caerdydd
10. Unawd ar unrhyw offeryn gwerin 1. Gweltaz Davalan, Dinas Mawddwy 2. Mared Lloyd, Llanelli 3. Alwena Mair Owen, Llanybydder
11. Cyflwyno Cân Werin Hunangyfeiliant 1. Elena Puw 2. Nick Blandford 3. Modlen Alun
Bandiau Pres
golygu12. Bandiau Pres Pencampwriaeth / Dosbarth 1 1. Band Llwydcoed 2. Band Arian Llaneurgain 3. Seindorf Arian Deiniolen
13. Bandiau Pres Dosbarth 2 1. Seindorf Arian Crwbin 2. RAF Sain Tathan
14. Bandiau Pres Dosbarth 3 1. RAF Sain Tathan
15. Bandiau Pres Dosbarth 4 1. Seindorf Biwmares 2. Band Porthaethwy 3. Band Llandudno
Cerdd Dant
golygu16. Côr Cerdd Dant 1. Côr Merched Llangwm 2. Lleisiau’r Nant 3. Côr Trillyn
17. Parti Cerdd Dant 1. Parti Tegeirian 2. Parti Trillyn 3. Lodesi Dyfi
18. Parti Cerdd Dant o dan 25 oed hyd at 20 mewn nifer 1. Aelwyd Chwilog 2. Parti’r Cwm 3. Criw’r Creuddyn
19. Triawd neu Bedwarawd Cerdd Dant 1. Pedwarawd Clwyd 2. Criw’r Creuddyn 3. Pedwarawd Cennin
20. Deuawd Cerdd Dant 21 oed a throsodd 1. Elis a Sion, Rhuthun 2. Rhian a Rhonwen, Y Bala 3. Carwyn a Dylan, Y Bala
21. Deuawd Cerdd Dant dan 21 oed 1. Cai a Non Fôn Davies, Bangor 2. Siriol Elin a Celyn Llwyd, Abergele a Dinbych 3. Ruth Erin ac Elin Lloyd, Henllan a Llanfairpwll
22. Gwobr Aled Lloyd Davies 1. Mali Fflur, Llandwrog 2. Sioned Mai Williams, Pwllglas 3. Mia Peace, Caerfyrddin
23. Unawd Cerdd Dant 16 ac o dan 21 oed 1. Owain John, Llansannan 2. Cai Fôn Davies, Bangor 3. Llio Meirion Rogers, Rhuthun
24. Unawd Cerdd Dant 12 ac o dan 16 oed 1. Cadi Gwen Williams, Aberystwyth 2. Manw Robin, Rhostryfan 3. Elain Rhys Iorewrth, Trawsfynydd
25. Unawd Cerdd Dant dan 12 oed 1. Lowri Anes Jarman, Y Bala 2. Beca Fflur Edwards, Dinbych 3. Mabli Swyn, Llannerch-y-medd
Cerddoriaeth
golygu26. Cyfeilio i rai dan 25 oed 1. Emma Cerys Buckley, Cricieth 2. Catrin Elin, Mochdre
28. Cyflwyno Rhaglen o Adloniant 1. Côr Ieuenctid Môn 2. CôRwst 3. Côr Dyffryn Dyfi
29. Côr Cymysg 1. Côr CF1 2. Côr Capel Cymreig y Boro 3. Côr Dre
30. Côr Meibion 1. John’s Boys 2. Côr Meibion y Llannau 3. Côr Meibion y Brythoniaid
31. Côr Merched 1. Aelwyd y Neuadd Fach, Porthyrhyd 2. Tegalaw 3. Cantonwm
32. Côr i rai 60 oed a throsodd 1. Côr Hen Nodiant 2. Encôr 3. Henffych
33. Côr Ieuenctid dan 25 oed 1. Côr Ieuenctid Môn 2. Côr Cytgan Clwyd 3. Ysgol Gerdd Camwy
34. Cystadleuaeth Gorawl Eisteddfodau Cymru 1. Côr Dre 2. Adlais 3. Côr Alaw
38. Ensemble Lleisiol 1. Cantilena 2. Glantaf 3. Mam y Fro a’i Chriw
39. Ysgoloriaeth W Towyn Roberts 1. John Ieuan Jones, Llandrillo-yn-Rhos 2. Eiry Myfanwy Price, Caerdydd 3. Dafydd Allen, Bodelwyddan 4. Ryan Vaughan Davies, Hen Golwyn
40. Unawd Soprano 25 oed a throsodd 1. Kate Griffiths, Bryn Saith Marchog 2. Joy Cornock, Llandeilo 3. Aneira Evans, Machynlleth
41. Unawd Mezzo-Soprano / Contralto / Gwrth-denor 25 oed a throsodd 1. Kathryn Nash, Llanelwy 2. Angharad Rowlands, Llundain 3. Rhian Dafydd, Aberaeron
42. Unawd Tenor 25 oed a throsodd 1. Aled Wyn Thomas, Llanwnnen 2. Arfon Rhys Griffiths, Y Bala 3. Efan Williams, Lledrod
43. Unawd Bariton / Bas 25 oed a throsodd 1. Erfyl Tomos Jones, Aberhosan 2. Robert Wyn, Bontnewydd 3. Steffan Jones, Caerdydd
44. Gwobr Goffa David Ellis – Y Rhuban Glas 1. Erfyl Tomos Jones, Aberhosan
45. Canu Emyn i rai 60 oed a throsodd 1. Glynn Morris, Sale 2. Vernon Maher, Llandysul 3. Gwynne Jones, Aberystwyth
46. Unawd Lieder / Cân Gelf 25 oed a throsodd 1. Aled Wyn Thomas, Llanwnnen 2. Efan Williams, Lledrod 3. Glynn Morris, Sale
47. Unawd Lieder / Cân Gelf dan 25 oed 1. Rhydian Jenkins, Maesteg 2. Dafydd Jones, Llanrhaeadr 3. Tesni Jones, Llanelwy
48. Unawd yr Hen Ganiadau 19 oed a throsodd 1. Dafydd Jones, Llanrhaeadr 2. Joy Cornock, Llandeilo 3. Arfon Rhys Griffiths, Y Bala
49. Unawd Soprano 19 ac o dan 25 oed 1. Sara Davies, Hen Golwyn 2. Lisa Dafydd, Rhuthun 3. Tesni Jones, Llanelwy
50. Unawd Mezzo Soprano / Contralto / Gwrth-denor 19 ac o dan 25 oed 1. Erin Rossington, Llanfair TH 2. Ceri Haf Roberts, Henllan 3. Morgana Warren-Jones, Bangor
51. Unawd Tenor 19 ac o dan 25 oed 1. Rhydian Jenkins, Maesteg 2. Dafydd Jones, Llanrhaeadr 3. Elis Jones, Rhuthun
52. Unawd Bariton / Bas 19 ac o dan 25 oed 1. Emyr Lloyd Jones, Bontnewydd 2. Dafydd Allen, Bodelwyddan 3. Owain Rowlands, Llandeilo
- Ysgoloriaeth William Park-Jones i’r unawdydd mwyaf addawol yng nghystadlaethau 49-52
- 1. Rhydian Jenkins, Maesteg
- Soprano mwyaf disglair yng nghystadlaethau 49-52
- 1. Lisa Dafydd, Rhuthun
- Tenor mwyaf disglair yng nghystadlaethau 49-52
- 1. Elis Jones, Rhuthun
53. Gwobr Goffa Osborne Roberts 1. Dafydd Wyn Jones, Llanrhaeadr, Dinbych
54. Unawd o Sioe Gerdd 19 oed a throsodd 1. Celyn Llwyd Cartwright, Dinbych 2. Myfanwy Grace Tranmer, Pwllglas 3. Lois Postle, Bodedern
55. Ysgoloriaeth Wilbert Lloyd Roberts 1. Myfanwy Grace Tranmer, Pwllglas
56. Unawd o Sioe Gerdd dan 19 oed 1. Gabriel Tranmer, Pwllglas 2. Fflur Davies, Caernarfon 3. Mali Elwy Williams, Llansannan
57. Unawd i Ferched 16 ac o dan 19 oed 1. Glesni Rhys Jones, Bodedern 2. Alaw Grug Evans, Pontyberem 3. Elin Fflur Jones, Bodedern
58. Unawd i Fechgyn 16 ac o dan 19 oed 1. Lewys Meredydd, Dolgellau 2. Owain John, Llansannan 3. Gruffydd Rhys Hughes, Caernarfon
59. Unawd i Ferched 12 ac o dan 16 oed 1. Lois Wyn, Rhydymain 2. Lili Mohammad, Caerdydd 3. Lea Morus Williams, Llansannan
60. Unawd i Fechgyn 12 ac o dan 16 oed 1. Ynyr Lewys Rogers, Rhuthun 2. Twm Tudor, Caergybi 3. Morgan Gray Frazer, Pentre Berw
61. Unawd dan 12 oed 1. Eiri Ela Evans, Rhuthun 2. Macsen Stevens, Cyffordd Llandudno 3. Lois Angharad Thomas, Llannerch-y-medd
62. Cyfeilio ar y Piano – Cystadleuaeth Goffa Eleri Evans 1. Sioned Mai Williams, Rhuthun
63. Grŵp Offerynnol Agored 1. Ensemble Ysgol Tryfan 2. Enlli, Lleucu a Carys 3. Triawd Hŷn CGWM 4. Parti Chwyth Lleu
64. Deuawd Offerynnol Agored 1. Harri a Heledd, Caerdydd a Caerffili 2. Angharad a Mariel, Rhuthun a Deganwy 3. Huw a Rachel, Caernarfon
65. Rhuban Glas Offerynnol 19 oed a throsodd 1. Luke Jones, Wrecsam
66. Unawd Chwythbrennau 19 oed a throsodd 1. Enlli Parry, Caerdydd 2. Lleucu Parry, Caerdydd 3. Daniel O’Callaghan, San Clêr
67. Unawd Llinynnau 19 oed a throsodd 1. Olivia Jago, Porthaethwy 2. Hannah Lowri Roberts, Caerdydd
68. Unawd Piano 19 oed a throsodd 1. Cameron Biles-Liddell, Corwen 2. Luke Jones, Wrecsam 3. Gwenno Morgan, Bangor
69. Unawd Offerynnau Pres 19 oed a throsodd 1. Merin Rhyd, Caernarfon
70. Unawd Telyn 19 oed a throsodd 1. Mared Emyr Pugh-Evans, Borth 2. Catrin Elin, Mochdre
71. Unawd Offeryn/nau Taro 19 oed a throsodd 1. Harry Lovell-Jones, Caerdydd 2. Heledd Fflur Gwynant, Caerffili
72. Rhuban Glas Offerynnol 16 ac o dan 19 oed 1. Ellis Thomas, Bae Penrhyn
73. Unawd Chwythbrennau 16 ac o dan 19 oed 1. Ruby Howells, Market Drayton 2. Talfan Jenkins, Arberth 3. Rachel Marie Franklin, Caernarfon
74. Unawd Llinynnau 16 ac o dan 19 oed 1. Gwydion Powel Rhys, Bangor 2. Mererid Jones, Llandysul 3. Heledd Jones, Llandysul
75. Unawd Piano 16 ac o dan 19 oed 1. Ellis Thomas, Bae Penrhyn 2. Medi Morgan, Bangor 3. Glesni Rhys Jones, Bodedern
76. Unawd Offerynnau Pres 16 ac o dan 19 oed 1. Gabriel Tranmer, Pwllglas
77. Unawd Telyn 16 ac o dan 19 oed 1. Huw Boucher, Penarth 2. Angharad Huw, Rhuthun
79. Rhuban Glas Offerynnol dan 16 oed 1. Rufus Edwards, Wrecsam
80. Unawd Chwythbrennau dan 16 oed 1. Christopher Sabisky, Betws-y-coed 2. Nanw Haf Llwyd, Caernarfon 3. Lily Hall, Abertawe
81. Unawd Llinynnau dan 16 oed 1. Mared Lloyd, Llanelli 2. Felix Llewelyn Linden, Penarth 3. Ben Oliver, Mochdre
82. Unawd Piano dan 16 oed 1. Rufus Edwards, Wrecsam 2. Emma Cerys Buckley, Cricieth 3. Beca Lois Keen, Llangristiolus
84. Unawd Telyn dan 16 oed 1. Heledd Wynn Newton, Caerdydd 2. Christopher Sabisky, Betws-y-coed 3. Holly Catrin Davies, Pwllheli
87. Emyn-dôn i eiriau Tecwyn Ifan Buddugol: Ilid Anne, Glasinfryn, Bangor
88. Trefniant o gân Gymraeg gyfoes a fyddai’n addas ar gyfer y gystadleuaeth gorawl Cyflwyno Rhaglen Adloniant Buddugol: Nia Wyn Jones, Llanychan, Rhuthun
89. Trefniant digyfeiliant o alaw ar gyfer ensemble lleisiol heb fod yn hwy na munud Buddugol: Geraint Davies, Casnewydd
90. Cyfansoddiad ar gyfer un offeryn yn unig, heb fod yn hwy na 6 munud Buddugol: Gareth Olubunmi Hughes, Y Rhath, Caerdydd
91. Cystadleuaeth i ddisgyblion 16 ac o dan 19 oed Dau gyfansoddiad gwrthgyferbyniol mewn unrhyw gyfrwng Buddugol: Gwydion Powel Rhys, Llanllechid, Bangor
92. Cystadleuaeth Tlws Sbardun. Buddugol: Rhydian Meilir Pughe, Cemaes, Machynlleth
Dawns
golygu93. Tlws Coffa Lois Blake 1. Nantgarw 2. Talog
94. Cystadleuaeth Tlws Cymdeithas Ddawns Werin Cymru 1. Dawnswyr Môn 2. Dawnswyr Talog
95. Parti Dawnsio Gwerin dan 25 oed 1. Talog 2. Nantgarw 3. Talwenog
96. Dawns Stepio i Grŵp 1. Dawnswyr Talog 2. Dawnswyr Nantgarw 3. Clocswyr Cowin
97. Deuawd, Triawd neu Bedwarawd Stepio 1. Mared, Carwyn, Tomos a Cadi, Caerfyrddin 2. Daniel a Morus, Pontypridd; ac Enlli a Lleucu, Caerdydd
98. Dawns Stepio Unigol i Fechgyn 18 oed a throsodd 1. Daniel Calan Jones, Caerdydd 2. Elwyn Williams, Caerdydd
99. Dawns Stepio Unigol i Ferched 18 oed a throsodd 1. Enlli Parri, Caerdydd 2. Cadi Evans, Caerfyrddin 3. Lleucu Parri, Caerdydd
100. Dawns Stepio Unigol i Fechgyn dan 18 oed 1. Dion Ioan Jones, Caerfyrddin 2. Morus Caradog Jones, Caerdydd 3. Ioan Wyn Williams, Caerdydd
101. Dawns Stepio Unigol i Ferched dan 18 oed 1. Elen Morlais Williams, Caerdydd 2. Sara Brown, Caerfyrddin 3. Mared Lloyd, Llanelli
102. Props ar y Pryd 1. Erin, Esther a Luned 2.= Lewis a Morus; 2.= Ioan, Daniel ac Iestyn; 2.= Enlli a Lleucu
104. Dawns Greadigol / Gyfoes Unigol 1. Elin John, Caerdydd 2. Ioan Wyn Williams, Caerdydd 3. Caitlin Boyle, Caerdydd
105. Dawns Greadigol/Gyfoes i Grŵp 1. Grŵp Jasmine
106. Dawns Aml-Gyfrwng i Bâr neu Driawd 1. Cari Owen a Ffion Bulkeley, Ynys Môn 2. Caitlin ac Elin, Caerdydd 3. Lowri a Jodie, Llannerch-y-medd
107. Dawns Unigol Disgo, Hip Hop neu Stryd i rai 12 oed a throsodd 1. Charlie Lindsay, Bala 2. Efa Rhodd Williams, Blaenau Ffestiniog 3. Caitlin Boyle, Caerdydd
108. Dawns Unigol Disgo, Hip Hop neu Stryd i rai dan 12 oed 1. Jodie Garlick, Llannerch-y-medd 2. Mia Fflur Owen-Hughes, Amlwch 3. Lowri Williams, Llannerch-y-medd
109. Dawns Disgo, Hip Hop neu Stryd i Bâr neu Driawd 1. Elin a Caitlin, Caerdydd 2. Charlie, Jodi a Madi, Y Bala 3. Lia ac Anya, Llannerch-y-medd
110. Dawns Disgo, Hip Hop neu Stryd i Grŵp 1. Perlau, Amlwch 2. Breuddwyd Rhyfeddol Alys, Caernarfon 3. Mediwsa, Caernarfon
Drama
golygu111. Actio Drama neu waith dyfeisedig 1. Cymdeithas y Llawrdyrnu, Sarnau 2. Cwmni Glanaethwy 3. Cwmni Drama Uwchaled
112. Actor gorau cystadleuaeth 111 1. Nest Davies (Cymdeithas y Llawrdyrnu, Sarnau)
113. Cyfarwyddwr gorau cystadleuaeth 111 1. Aled Jones (Cymdeithas y Llawrdyrnu, Sarnau)
114. Gwobr Richard Burton dros 19 oed 1. Morgan Llewelyn-Jones, Llanelli
115. Deialog 1. Anni a Begw, Y Bontfaen 2. Marged a Steffan, Yr Wyddgrug a Rhuthun 3. Manon a Lleucu, Caernarfon
116. Monolog 16 o dan 19 oed 1. Leisa Gwenllian, Llanrug 2. Eirlys Lovell-Jones, Caerdydd 3. Mali Elwy Williams, Llansannan
117. Monolog 12 ac o dan 16 oed 1. Owain Sion, Llanfairpwll 2. Manw Robin, Caernarfon 3. Lili Mohammad, Caerdydd
120. Trosi un o’r canlynol i’r Gymraeg. Buddugol: Ffion Gwen Williams, Llannefydd
121. Cyfansoddi dwy fonolog gyferbyniol heb fod yn hwy na 4 munud yr un Buddugol: Dewi Wyn Williams, Caerdydd
122. Cyfansoddi drama radio mewn unrhyw genre na chymer fwy na 30 munud i’w darlledu. Buddugol: Griffith Richard Williams, Groeslon
123. Ffilm fer ar unrhyw ffurf ddigidol, hyd at 10 munud o hyd. Agored i unigolion neu grwpiau. Buddugol: Ben Gregory, Penygroes
124. Cyfansoddi sgets gomedi i rhwng 2 a 6 cymeriad na chymer fwy na 12 munud i’w pherfformio Buddugol: Dewi Lewis, Llanddarog
Dysgwyr
golygu125. Dysgwr y Flwyddyn 1. Fiona Collins, Carrog
126. Côr Dysgwyr 1. Criw Bangor 2. Côr DAW 3. Côr Dysgwyr Sir Benfro
127. Llefaru Unigol 16 oed a throsodd 1. Helen Franklin, Pwllheli 2. Don Martin, Llanelwy 3. Lynn Bateman, Ponciau
128. Grŵp Offerynnol a/neu leisiol 1. Grŵp Côr y Bryn 2. Parti DAW
129. Unawd Dysgwyr 1. David Herzog, Bae Colwyn 2. Jenna Jones, Bae Colwyn 3. John Stone, Llandudno
130. Grŵp Llefaru Dysgwyr 1. Grŵp Pnawn o Hwyl, Popeth Cymraeg, Prestatyn
131. Sgets 1. Criw Neil 2. Criw y Cwis
132. Cystadleuaeth Y Gadair Buddugol: Wendy Evans, Aberteifi
133. Cystadleuaeth Y Tlws Rhyddiaith Buddugol: Cathy Green, Trefdraeth
134. Llythyr cais Buddugol: Julie Pearce, Y Drenewydd
135. Fy hoff olygfa, tua 200 o eiriau Buddugol: Bob Dennison, Llandrindod
136. Blog: ‘Ar daith’, tua 150 o eiriau Buddugol: Anne Rayment, Yr Wyddgrug
137. Sgwrs grŵp WhatsApp neu Messenger ar ôl noson allan, tua 100 o eiriau Buddugol: Kathy Sleigh, Arberth
138. Blog fideo: ‘Fy ardal’, 5-10 munud o hyd Buddugol: E’zzati Ariffin, Hwlffordd
139. Gwaith Grŵp neu unigol Tudalen flaen papur newydd yn y flwyddyn 2050. Buddugol: Grŵp Jeni Harris, Coleg Cambria, Wrecsam
140. Ysgrifennu 2 sgets, un ar gyfer grŵp maint 7-8 a’r llall ar gyfer grŵp llai 4-5. Atal y wobr
Llefaru
golygu146. Côr Llefaru dros 16 mewn nifer 1. Genod Llŷn 2. Parti Marchan 3. Lleisiau Cafflogion
147. Parti Llefaru 1. Genod Garmon 2. Gemau Llŷn 3. Rhianedd y Cwm
148. Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn 1. Megan Llŷn, Pwllheli
149. Llefaru Unigol Agored 1. Annest Mair, Tŷ Croes 2. Sion Jenkins, Caerdydd 3. Heulen Cynfal, Y Bala
150. Llefaru / Cyflwyniad Darn Digri 1. Lisa Erin Owen, Y Bala 2. Robert Douglas Owen, Llanfair TH
151. Dweud Stori 1. Elis Jones, Caernarfon 2. Fiona Collins, Carrog 3. Liz Morris, Llandyrnog
154. Llefaru dan 12 oed 1. Ela Mablen Griffith-Jones, Llanybydder 2. Gruff Beech, Bethesda 3. Leusa Elgan Metcalfe, Trefriw
155. Llefaru Unigol o’r Ysgrythur 16 oed a throsodd 1. Morgan Siôn Owen, Penrhosgarnedd 2. Cai Fôn Davies, Bangor 3. Heulen Cynfal, Y Bala
156. Llefaru Unigol o’r Ysgrythur dan 16 oed 1. Manw Robin, Caernarfon 2. Ioan Joshua Mabbutt, Aberystwyth 3. Nel Lovelock, Llannerch-y-medd
Llenyddiaeth
golygu159. Englyn: Cymwynas Buddugol: Geraint Roberts, Caerfyrddin
160. Englyn crafog: Clown Buddugol: Tudur Dylan Jones, Caerfyrddin
161. Telyneg: Wedi’r llanw Buddugol: Dai Rees Davies, Llandysul
162. Cywydd heb fod dros 24 o linellau: Pont Buddugol: Elin Meek, Abertawe
163. Soned: Paent Buddugol: John Meurig Edwards, Aberhonddu
164. Cerdd wedi ei llunio o chwe phennill telyn: Lleisiau Buddugol: Dafydd Jones, Blaenau Ffestiniog
165. Chwe Thriban: Chwe esgus Buddugol: Vivian Parry Williams, Blaenau Ffestiniog
166. Hir a Thoddaid: Marchnad Buddugol: Iwan Bryn James, Aberystwyth
167. Chwe Englyn Milwr: Cribau Buddugol: Geraint Roberts, Caerfyrddin
168. Cystadleuaeth i rai dan 25 oed. Cerdd benrhydd hyd at 30 llinell: Neges Atal y wobr
173. Ysgoloriaeth Fentora Emyr Feddyg Er cof am Dr Emyr Wyn Jones, Cymrawd yr Eisteddfod Buddugol: Wil Parry, Bryncroes, Pwllheli
174. Gwobr Stori Fer Tony Bianchi, hyd at 3,000 o eiriau: Anrheg. Buddugol: Geraint Lewis, Treganna
175. Llên Micro - Casgliad o saith darn: Saith diwrnod Buddugol: Iona Evans, Pandy Tudu
176. Ysgrif hyd at 2,000 o eiriau: Tynfa Buddugol: Manon Wynn Davies, Llandaf, Caerdydd
177. Stori ffantasi hyd at 3,000 o eiriau: Cysgodion Atal y wobr
178. Dilyniant o negeseuon ar unrhyw gyfrwng cymdeithasol geiriol, hyd at 1,000 gair: Agored Buddugol: Rebeca Roberts, Prestatyn, Sir Ddinbych
179. Portread hyd at 2,000 gair: Hoelen wyth Buddugol: Roger Kite, Llanandras, Powys
180. Araith a gymer hyd at 5 munud i’w thraddodi: Y drwg yn y caws Buddugol: Aled Gwyn Jôb, Y Felinheli, Gwynedd
181. Llythyr achwyn: Agored Buddugol: Huw Evans, Cwrtnewydd, Ceredigion
182. Erthygl hyd at 3,000 o eiriau: Cyfoeth cudd bro’r Eisteddfod. Buddugol: Gari Wyn Jones, Pentir, Bangor, Gwynedd
183. Cystadleuaeth i rai o dan 25 oed - Ymson hyd at 2,000 o eiriau: Croesffordd Ni fu cystadlu.
184. Cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn yr Ariannin: Y Gymraeg ym Mhatagonia dros y degawd nesaf neu Fy argraffiadau o Gymru. Buddugol: Alwen Green, 9203 Trevelin, Chubut, Ariannin
Gweler hefyd
golygu- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanrwst – achlysuron eraill pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn Llanrwst
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Cyhoeddi enillwyr dwy o fedalau'r Eisteddfod Genedlaethol , BBC Cymru Fyw, 13 Ebrill 2019.
- ↑ Catalog Y Lle Celf, 2019
- ↑ Tim cryf i arwain yr Eisteddfod yn Sir Conwy. Eisteddfod Genedlaethol Cymru (1 Tachwedd 2017).
- ↑ Tywydd gwael wedi costio’n ddrud i Brifwyl Llanrwst , Golwg360, 23 Tachwedd 2019.
- ↑ Colled o £159,000 wedi tywydd garw Prifwyl Llanrwst , BBC Cymru Fyw, 23 Tachwedd 2019.
- ↑ Eisteddfod yn cadarnhau safle 2019 yn Llanrwst (13 Mai 2019). Adalwyd ar 5 Awst 2019.
- ↑ Canslo gigs Maes B nos Wener a nos Sadwrn , Golwg360, 9 Awst 2019. Cyrchwyd ar 10 Awst 2019.
- ↑ Dafydd Iwan yn y glaw – symud ei gyngerdd o’r maes i’r pafiliwn , Golwg360, 10 Awst 2019.
- ↑ T James Jones yw enillydd y Gadair yn yr Eisteddfod , BBC Cymru Fyw, 9 Awst 2019.
- ↑ Y ferch gyntaf i greu’r Gadair ers ugain mlynedd , Golwg360, 8 Awst 2019.
- ↑ Huw Dylan Owen oedd yr agosaf at Gadair Sir Conwy , Golwg360, 11 Awst 2019. Cyrchwyd ar 12 Awst 2019.
- ↑ Guto Dafydd yn cipio’r Goron , Golwg360, 5 Awst 2019.
- ↑ Enwau mawr yn agos at y Goron eleni , Golwg360, 6 Awst 2019. Cyrchwyd ar 12 Awst 2019.
- ↑ Gwobr Goffa Daniel Owen i Guto Dafydd , BBC Cymru Fyw, 6 Awst 2019.
- ↑ Rhiannon Ifans yn ennill y Fedal Ryddiaith yn Sir Conwy , Golwg360, 7 Awst 2019.
- ↑ Neb yn deilwng o Dlws y Cerddor , BBC Cymru Fyw, 7 Awst 2019.
- ↑ Gareth Evans-Jones yn cipio'r Fedal Ddrama , BBC Cymru Fyw, 8 Awst 2019.