Jonathan Davies (chwaraewr rygbi - ganwyd 1988)
Chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol, sydd yn chwarae yn safle'r canolwr dros Gymru a Scarlets Llanelli yw Jonathan "Jon" Davies (ganwyd 5 Ebrill 1988).
Jonathan Davies | |
---|---|
Ganwyd | 5 Ebrill 1988 Solihull |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Taldra | 186 centimetr |
Pwysau | 103 cilogram |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Y Scarlets, Clwb Rygbi Llanelli, ASM Clermont Auvergne, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru dan 20 oed |
Safle | Canolwr |
Bywyd cynnar golygu
Ganwyd Jonathan Davies yn Solihull yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, ond ymfudodd ei deulu i Fancyfelin, Sanclêr, Sir Gaerfyrddin pan oedd yn ifanc. Mynychodd Ysgol Gyfun Dyffryn Tâf, yn Hendy-gwyn ar Daf, cyn cychwyn cwrs Ffitrwydd a Chwaraeon yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Mae Joanthan yn siarad Cymraeg yn rhugl.[1]
Diddordebau golygu
Ar wahan i chwarae rygbi, mae Jonathan Davies yn mwynhau caiacio a chwarae criced.[1]
Gyrfa clwb golygu
Cychwynodd Jonathan Davies ei yrfa fel aelod ifanc o academi y Scarlets. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Glwb Rygbi Llanelli cyn cael ei ddyrchafu i ranbarth y Sgarlets yn 2006. Sgoriodd ei gais cyntaf i'r tîm yn erbyn Connacht ym Medi 2007.
Gyrfa ryngwladol golygu
Cynhwyswyd Jonathan Davies yng ngharfan Cymru ar gyfer y daith i Ogledd America yn 2009. Chwaraeodd ei gem gyntaf dros Gymru yn erbyn Canada ym Mai 2009. Sgoriodd ddau gais yn erbyn Unol Daleithiau America.
Chwaraeodd Davies fel canolwr allanol Cymru i bartneru gyda Jamie Roberts yn safle'r canolwr mewnol yn Nhachwedd 2009 yn erbyn yr Ariannin. Yn Ionawr 2010, enwyd Davies yn ngharfan Cymru ar gyfer Pencapwriaeth y Chwe Gwlad 2010, ond ni chafodd ei ddewis i chwarae yn unrhyw un o'r gemau.
Ffurfiodd Davies bartneriaeth cryf gyda'r maswr James Hook a'r canolwr Jamie Roberts ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2011.[2]
Cwpan y Byd, 2011 golygu
Chwaraeodd Davies dros Gymru ym mhob un o'u saith gem yng Nghystadleuaeth Cwpan y Byd 2011, Seland Newydd. Sgoriodd gyfanswm o dri cais yn ystod y gystadleuaeth, yn erbyn Namibia, Ffiji ac Iwerddon.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ 1.0 1.1 "Bywgraffiad ar Wefan Scarlets Llanelli". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-12. Cyrchwyd 2011-10-24.
- ↑ Gwefan BBC - Jonathan Davies yn hapus wrth ochr James Hook
Dolenni allanol golygu
- [1][dolen marw] Bywgraffiad ar Undeb Rygbi Cymru
- [2] Archifwyd 2012-06-12 yn y Peiriant Wayback. Bywgraffiad ar Wefan Scarlets Llanelli