José Enrique Rodó

Athronydd, beirniad llenyddol, ac ysgrifwr o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd José Enrique Rodó (15 Gorffennaf 18711 Mai 1917). Roedd yn un o aelodau La Generación del 900 ac yn rhan o fudiad modernismo. Mae'n nodedig am ei lyfr Ariel (1900), gwaith modernaidd sy'n amddiffyn yn erbyn tra-arglwyddiaeth ddiwyllianniol Ewrop a'r Unol Daleithiau, a ddylanwadodd ar y meddylfryd diwylliannol a deallusol ar draws America Ladin. Ystyrir Rodó yn athronydd goreuaf gwledydd Sbaeneg yr Amerig, a'r ffigur pwysicaf yn llên Wrwgwái.

José Enrique Rodó
Ganwyd15 Gorffennaf 1871 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
Bu farw1 Mai 1917 Edit this on Wikidata
Palermo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWrwgwái Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, athronydd Edit this on Wikidata
SwyddMember of the Chamber of Deputies of Uruguay Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAriel Edit this on Wikidata
Arddulltraethawd Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Colorado Edit this on Wikidata

Ganwyd ym Montevideo, a threuliodd y rhan helaeth o'i oes yno. Brodor o Gatalwnia oedd ei dad. Ymddisgleiriodd José yn ei astudiaethau llên ac hanes yn yr ysgol, a mynychodd Prifysgol y Weriniaeth, er iddo hefyd addysgu ei hunan fel darllenwr brwd yn y llyfrgell.[1]

Cyd-sefydlodd y cylchgrawn Revista nacional de literatura y ciencias sociales yn 1895. Penodwyd Rodó yn athro llenyddiaeth ym Mhrifysgol y Weriniaeth yn 1898, ac addysgodd yno nes 1902. Gwasanaethodd hefyd yn gyfarwyddwr Llyfrgell Genedlaethol Wrwgwái. Cynrychiolodd Partido Colorado yn Siambr y Dirprwyon yn 1902–05 ac yn 1908–14.[2]

Cyhoeddodd ei gampwaith, yr ysgrif hir Ariel, yn 1900. Ymhlith ei gasgliadau eraill o ysgrifau mae Motivos de Proteo (1908) ac El mirador de Próspero (1913).

Teithiodd Rodó i Ewrop yn 1916 fel gohebydd tramor ar gyfer papurau newydd ym Montevideo a Buenos Aires. Bu farw yn Palermo, Sisili, yn 45 oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "José Enrique Rodó" yn Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar 29 Ebrill 2019.
  2. (Saesneg) Peter G. Earle, "Rodó, José Enrique (1871–1917)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar 29 Ebrill 2019.

Darllen pellach golygu

  • Mario Benedetti, Genio y figura de José Enrique Rodó (1966).
  • D. A. Brading, Marmoreal Olympus: José Enrique Rodó and Spanish American Nationalism (Caergrawnt: Center for Latin American Studies, University of Cambridge, 1998).
  • Wilfredo Penco, José Enrique Rodó (Montevideo: Arco, 1978).
  • Víctor Pérez Petit, Rodó: Su vida, su obra (1937).
  • Pablo Rocca, Enseñanza y teoría de la literatura en José Enrique Rodó (Montevideo: Ediciones de la Banda Oriental, 2001).
  • Norma Suiffet, José Enrique Rodó: Su vida, su obra, su pensamiento (Montevideo: Ediciones de la Urpila, 1995).