Bardd, nofelydd, llenor straeon byrion, ac ysgrifwr o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Mario Benedetti (14 Medi 192017 Mai 2009). Cyhoeddodd mwy na 80 o lyfrau yn ystod ei oes.[1]

Mario Benedetti
FfugenwDamocles, Mario Benedetti Edit this on Wikidata
GanwydMario Orlando Hardy Hamlet Brenno Benedetti Farrugia Edit this on Wikidata
14 Medi 1920 Edit this on Wikidata
Paso de los Toros Edit this on Wikidata
Bu farw17 Mai 2009 Edit this on Wikidata
o asthma Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWrwgwái Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, newyddiadurwr, bardd, dramodydd, gwleidydd, nofelydd, awdur storiau byrion Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Truce Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth, theatre, traethawd Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolBroad Front Edit this on Wikidata
MudiadLa Generación del 45 Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Francisco de Miranda, honorary doctor of the University of Alicante, honorary doctorate of the University of Valladolid, Menéndez Pelayo International Prize, Morosoli Award, honorary doctor of the University of Havana Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Paso de los Toros, Tacuarembó, i fewnfudwyr Eidalaidd. Symudodd y teulu i'r brifddinas Montevideo pan oedd Mario yn 4 oed, ac yno mynychodd ysgol breifat.[2]

Bu'n byw yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin, am gyfnod cyn iddo ddychwelyd ym Montevideo yn nechrau'r 1940au. Yn 1945 cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, La víspera indeleble, ac ymunodd â'r cylchgrawn adain-chwith Marcha. Benedetti oedd un o sefydlwyr Frente Amplio, mudiad adain-chwith cyffredin yn Wrwgwái.[1] Priododd Luz López Alegre yn 1946, a buont yn briod nes ei marwolaeth hi o glefyd Alzheimer yn 2006.[3] Mae ei gyfrolau eraill o farddoniaeth yn cynnwys Poemas de la oficina (1956). Ymhlith ei gasgliadau o straeon byrion mae Montevideanos (1959), ac ymhlith ei nofelau mae La tregua (1960) ac El cumpleaños de Juan Angel (1971).

Wedi i'r unbennaeth sifil-filwrol gipio grym yn 1973, bu'n rhaid i Benedetti adael Wrwgwái, ac aeth yn alltud yn yr Ariannin. Yno cafodd ei fygwth gan un o grwpiau parafilwrol yr adain dde, ac aeth i Beriw am chwe mis nes iddo gael ei allgludo. O'r diwedd, ymsefydlodd yng Nghiwba, a gweithiodd i'r cwmni cyhoeddi Casa de las Américas. Ysgrifennodd am ei brofiadau'n alltud yn y gyfrol El desexilio y otras conjeturas (1984).

Dychwelodd i Montevideo yn 1983, a bu'n teithio i Fadrid a Mallorca am gyfnodau hirion.[1] Bu farw ym Montevideo yn 88 oed.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Nick Caistor, "Obituary: Mario Bendetti", The Guardian (20 Mai 2009). Adalwyd ar 26 Ebrill 2019.
  2. (Saesneg) Mario Benedetti. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Ebrill 2019.
  3. (Saesneg) "Mario Benedetti: Writer in the vanguard of South America's literary boom in the second half of the 20th century Archifwyd 2019-04-26 yn y Peiriant Wayback", The Independent (12 Mehefin 2009). Adalwyd ar 26 Ebrill 2019.