José López Portillo
Gwleidydd a chyfreithiwr Mecsicanaidd oedd José López Portillo y Pacheco (16 Mehefin 1920 – 17 Chwefror 2004) a oedd yn Arlywydd Mecsico o 1976 i 1982. Efe oedd yr unig ymgeisydd yn etholiad arlywyddol 1976, a hynny ar ran y Partido Revolucionario Institucional (PRI).
José López Portillo | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | José Guillermo Abel López Portillo y Pacheco ![]() 16 Mehefin 1920 ![]() Dinas Mecsico ![]() |
Bu farw | 17 Chwefror 2004 ![]() Dinas Mecsico ![]() |
Dinasyddiaeth | Mecsico ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, academydd ![]() |
Swydd | Arlywydd Mecsico, Secretary of Finance and Public Credit ![]() |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Plaid Chwyldroadol Genedlaethol ![]() |
Gwobr/au | Coler Urdd Isabella y Catholig, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Urdd José Martí, Urdd Brenhinol y Seraffim, Coler Urdd Siarl III, honorary doctor of the University of Miami, Gwobr 'Collar de la Orden Mexicana del Águila Azteca' ![]() |
Llofnod | |
![]() |
López Portillo oedd yr olaf o'r arlywyddion "Cenedlaetholgar" o ran polisi economaidd Mecsico.[1] Yn ystod ei arlywyddiaeth ffynodd yr economi ar sail y diwydiant olew, cyn i argyfwng dyled daro'r wlad yn drom. Noder ei lywodraeth hefyd gan lygredigaeth, lladrata, a ffafriaeth at berthnasau a chyfeillion.[2][3]
Wedi iddo adael ei swydd, yn ystod arlywyddiaeth ei olynydd Miguel de la Madrid, cafodd nifer o swyddogion llywodraethol eu cyhuddo o lygredigaeth a'u herlyn. Tybiai nifer i López Portillo ei hun fod yn euog o droseddau tebyg, ond na chafodd y gyfraith ei roi arno hyd ddiwedd ei oes.[4]
Bywyd cynnar ac addysgGolygu
Ganwyd José López Portillo yn Ninas Mecsico. Astudiodd yn Universidad Nacional Autónoma de México (UNAM) a Phrifysgol Tsile.
Arlywyddiaeth (1976–82)Golygu
Yr economiGolygu
Fideos allanol | |
---|---|
Yr Arlywydd López Portillo yn gwneud ei addewid drwg-enwog i amddiffyn y peso como perro. |
Dilynai polisïau ceidwadol gan López Portillo o gymharu â'i ragflaenydd, Echeverría, er iddo barhau â'r arfer o genedlaetholdeb economaidd. Rhoddwyd llai o bwyslais ar amaeth ac ailddosbarthu tir, a chanolbwyntiodd y llywodraeth ar ddatblygu'r diwydiannau olew a nwy naturiol ac atynnu buddsoddiad tramor. Yn ystod arlywyddiaeth López Portillo, darganfyddwyd cronfeydd petroliwm yn Veracruz a Tabasco gan ddarparu elw mawr i Pemex, y cwmni olew cenedlaethol, drwy allforion. Rhuthrodd y llywodraeth i wneud yn fawr o'r arian annisgwyl, trwy wariant cyhoeddus ar raddfa eang a benthyg rhagor o arian o dramor. Er i'r rhaglen hon sbarduno twf economaidd ym Mecsico, cafodd y cyfoeth ei wastraffu gan gwmnïau cyhoeddus a'i ladrata gan swyddogion y llywodraeth a'r undebau llafur. Pan gwympodd y pris petroliwm yn 1981, bu enciliad cyfalaf o'r wlad a methodd y llywodraeth i dalu'r ddyled dramor yn Awst 1982. Er i López Portillo addo y byddai'n amddiffyn y peso como perro (fel ci), cafodd y peso ei ddibrisio 40 y cant ganddo.[5]
Polisi tramorGolygu
Yn 1977 adferwyd cysylltiadau diplomyddol rhwng Mecsico a Sbaen yn sgil marwolaeth Francisco Franco.
Diwedd ei oesGolygu
Daeth yr argyfwng economaidd a llygredigaeth ei lywodraeth anghold i López Portillo, a chymaint oedd ei amhoblogrwydd bu'n rhaid iddo ffoi o Fecsico. Dychwelodd yn niwedd y 1980au, a chyhoeddodd ei hunangofiant Mis tiempos: Biografía y testimonio político (1988).
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Sheppard, Randal (2016). A Persistent Revolution. History, Nationalism and Politics in Mexico since 1968. University of New Mexico Press. t. 78.
- ↑ "Lopez Portillo Denies He Became Rich as President". LA Times. Cyrchwyd 8 March 2018.
- ↑ "José López Portillo, President When Mexico's Default Set Off Debt Crisis, Dies at 83". New York Times. Cyrchwyd 8 March 2018.
- ↑ "CORRUPTION, MEXICAN STYLE". New York Times. Cyrchwyd 8 March 2018.
- ↑ (Saesneg) Phil Gunson, "Obituary: José López Portillo", The Guardian (20 Chwefror 2004). Adalwyd ar 31 Mai 2018.