Miguel de la Madrid
Gwleidydd a chyfreithiwr o Fecsico oedd Miguel de la Madrid Hurtado (12 Rhagfyr 1934 – 1 Ebrill 2012) a oedd yn Arlywydd Mecsico o 1982 i 1988.
Miguel de la Madrid | |
---|---|
Ganwyd | Miguel de la Madrid Hurtado 12 Rhagfyr 1934 Colima |
Bu farw | 1 Ebrill 2012 Dinas Mecsico |
Dinasyddiaeth | Mecsico |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr |
Swydd | Arlywydd Mecsico, Fondo de Cultura Económica, Mexico presidential candidate for the Revolutionary Institutional Party, gweinidog |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Plaid Chwyldroadol Genedlaethol |
Priod | Paloma Cordero |
Plant | Enrique de la Madrid |
Gwobr/au | Coler Urdd Isabella y Catholig, Urdd José Martí, Order of Jamaica, Urdd Eryr Mecsico, Urdd Ffrangeg y Palfau Academic, Urdd yr Haul, Urdd Isabel la Católica, Urdd y Seren Iwgoslaf |
Bywyd cynnar a theulu
golyguGanwyd yn Colima, Colima, yng ngorllewin Mecsico i deulu dosbarth-canol. Cyfreithiwr oedd ei dad a oedd yn cynrychioli gwerinwyr mewn achosion yn erbyn tirfeddianwyr. Cafodd ei lofruddio pan oedd Miguel dim ond yn 2 oed, a symudodd y bachgen gyda'i fam a'i chwaer i Ddinas Mecsico. Pan oedd Miguel yn ei arddegau, gweithiodd fel clerc banc.[1]
Addysg a gyrfa broffesiynol
golyguDechreuodd astudio am radd yn y gyfraith yn Universidad Nacional Autónoma de México (UNAM) yn 1953, ac yno un o'i athrawon oedd José López Portillo, ei ragflaenydd yn yr arlywyddiaeth yn y cyfnod 1976–82. Enillodd ei radd yn 1957, ac aeth ati i weithio fel cyfreithiwr gyda Banc Cenedlaethol Masnach Dramor.
Ymunodd â Banc Mecsico, y banc canolog cenedlaethol, yn 1960. Yn ddiweddarach, cafodd ei anfon ar ysgoloriaeth i Brifysgol Harvard yn UDA. Cyflawnodd ei radd meistr mewn gweinyddiaeth gyhoeddus o Ysgol Kennedy, Harvard yn 1965. Un o'i athrawon yno oedd yr economegydd o fri John Kenneth Galbraith. Dychwelodd i Fecsico a gwasanaethodd am gyfnod byr yn y trysorlys yn 1965 cyn iddo addysgu'r gyfraith gyfansoddiadol yn UNAM hyd 1968.
Fe weithiodd gyda'r cwmni olew cenedlaethol Pemex o 1970 i 1972 cyn iddo benderfynu ymuno â gweinyddiaeth ariannol y llywodraeth.
Gyrfa wleidyddol gynnar
golyguYmunodd de la Madrid â'r Partido Revolucionario Institucional (PRI) yn 1963, a chafodd ei brofiad llywodraethol cyntaf yn y trysorlys yn 1965. Dychwelodd i'r trysorlys fel cyfarwyddwr credyd y sector gyhoeddus pan oedd López Portillo yn weinidog ariannol.[1]
Cafodd ei benodi'n weinidog cynllunio a chyllideb yng nghabinet yr Arlywydd López Portillo yn 1979, ac yn aelod felly o gylch agos yr arlywydd a chynghorwyr ariannol uchaf y llywodraeth. Yn y swydd hon fe oedd yn ddylanwadol wrth ddefnyddio cyfoeth olew y wlad i hyrwyddo twf economaidd. Enillodd enw am fod yn dechnocrat ceidwadol ac effeithiol.
Yn 1981 cafodd ei ddewis yn ymgeisydd y PRI ar gyfer yr etholiad arlywyddol i olynu López Portillo. Enillodd yr etholiad ar 4 Gorffennaf 1982.
Arlywyddiaeth (1982–88)
golyguPolisïau economaidd a masnach
golyguPan ddaeth de la Madrid i'r llyw, wynebodd Mecsico argyfwng economaidd dwys a chyfradd chwyddiant yn uwch na chant y cant.[2] Aeth i'r afael â'r problemau drwy werthu bron i ddau gwmni o bob tri oedd ym meddiant y wladwriaeth, trwy gyfyngu ar gymorthdaliadau a gwariant cyhoeddus, a thrwy gynyddu trethi a chyfraddau llog. Profai'r fath lymder yn amhoblogaidd, a pharhaodd draffethion economaidd trwy gydol ei arlywyddiaeth. Er gwaethaf hynny, llwyddodd de la Madrid i ddiwygio system economaidd Mecsico a rhyddfrydoli'r farchnad, ac anterth y broses hon oedd NAFTA, cytundeb masnach rydd gydag UDA a Chanada, yn 1994.[3]
Daeargryn 1985
golyguAr 19 Medi 1985 cafodd ardal y brifddinas ei tharo gan ddaeargryn o faint 8.1 ar y raddfa foment a achosodd marwolaethau a dinistr ar raddfa eang. Nid oedd y llywodraeth yn barod i ymdrin â thrychineb o'r fath, ac yn y dyddiau cynnar cafodd de la Madrid ei feirniadu am wrthod cymorth rhyngwladol ac am ymddangos yn ffroenuchel yn ei ymateb.[2] Yn seremoni agoriadol Cwpan y Byd Pêl-droed 1986, bu'r dorf yn gweiddi ar de la Madrid cymaint fel ni ellir clywed ei araith.[4]
Llygredigaeth a'r diwylliant gwleidyddol
golyguYn ystod ei ymgyrch arlywyddol, addawodd de la Madrid i ddod â therfyn i lygredigaeth wleidyddol yn y llywodraeth a sefydliadau'r wladwriaeth. Gwnaed rhywfaint o welliant yn y maes hwn, er enghraifft cafodd cyn-gyfarwyddwr Pemex ei gyhuddo o dwyll. Er ei ymdrech honedig i lanhau system wleidyddol ei wlad, roedd de la Madrid yn gyfrifol am dwyll etholiadol gan y PRI er mwyn sicrhau etholiad ei olynydd, Carlos Salinas de Gortari, yn arlywydd yn 1988.
Ar y pryd, meddai "fe gymerais wlad a chanddi broblemau mawr, a rydw i yn ei gadael gyda phroblemau". O ganlyniad i'r fath mewnsyllu ar ei arweinyddiaeth, enillodd de la Madrid y llysenw "Hamlet".[2]
Diwedd ei oes
golyguWedi iddo adael yr arlywyddiaeth, daeth yn bennaeth ar gwmni cyhoeddi'r wladwriaeth.
Cyhoeddodd ei hunangofiant yn 2004, ac ynddo fe wnaeth addef iddo ddatgan Salinas yn enillydd etholiad 1988 er nad oedd pob pleidlais wedi ei chyfri, gan iddo gredu byddai buddugoliaeth i'r gwrthwynebydd yn achosi anhrefn.[1] Mewn cyfweliad radio yn 2009, meddai de la Madrid ei fod yn edifarhau dewis Salinas fel ei olynydd.[3]
Cafodd ei gadw yn yr ysbyty ym misoedd olaf ei oes oherwydd emffysema, a bu farw yn Ninas Mecsico yn 77 oed.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "Obituary: Miguel de la Madrid", The Daily Telegraph (2 Ebrill 2012). Adalwyd ar 27 Mai 2018.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Emily Langer, "Former Mexican president Miguel de la Madrid, who played role in enactment of NAFTA, dies", The Washington Post (1 Ebrill 2012).Adalwyd ar 27 Mai 2018.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) Marc Lacey, "Miguel de la Madrid, President of Mexico in 1980s, Dies at 77", The New York Times (1 Ebrill 2012). Adalwyd ar 27 Mai 2018.
- ↑ (Saesneg) Grahame L. Jones, "World Cup Appears to Be More of a Flop Than Fiesta", The Los Angeles Times (7 Mehefin 1986). Adalwyd ar 27 Mai 2018.