Bardd, dramodydd a nofelydd Archentaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd José Mármol (2 Rhagfyr 18179 Awst 1871).[1] Cysylltir ef â'r mudiad Rhamantaidd. Mae'n nodedig am ysgrifennu'r nofel Archentaidd gyntaf, Amalia (1851–2).

José Mármol
Ganwyd2 Rhagfyr 1817 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Bu farw9 Awst 1871 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Colegio Nacional de Buenos Aires Edit this on Wikidata
Galwedigaethllyfrgellydd, ysgrifennwr, diplomydd, newyddiadurwr, bardd, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Siambr Dirprwyon yr Ariannin Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolUnitarian Party Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin, ac astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Buenos Aires. Cafodd ei garcharu yn 1839 am feddu ar bapurau newydd a gyhoeddwyd ym Montevideo, Wrwgwái, gan lenorion Archentaidd alltud. Tra'n bwrw ei ddedfryd yn y ddalfa, ysgrifennodd Mármol ei gerdd gyntaf ar fur ei gell, gwaith a oedd yn beirniadu Juan Manuel de Rosas, Llywodraethwr Talaith Buenos Aires. Aeth i Montevideo yn 1840 i ymuno â'r deallusion alltud a'r wasg ryddfrydol, a chyhoeddodd sawl gwaith yn lladd ar Rosas, gan gynnwys ei gerdd enwocaf, A Rosas, el 25 de Mayo de 1843. Ysgrifennodd ddramâu yn y cyfnod hwn hefyd.

Wrth i luoedd Rosas symud tuag at Montevideo, bu'n rhai i Mármol ac alltudion eraill ffoi i Rio de Janeiro, Brasil. Yn 1844, aeth Mármol o Rio ar fordaith ffaeledig i Valparaiso, Tsile, yng nghwmni Archentwyr eraill. Bu'n rhaid i'r llong droi'n ôl i Frasil oherwydd tymhestloedd yn ardal yr Horn. Dychwelodd Mármol i Montevideo yn 1846, ac ysbrydolwyd gan ei brofiad ar y môr i gyfansoddi'r cylch o gerddi El Peregrino (1847). Cyhoeddodd ei nofel hir Amalia mewn penodau yn 1851–2.

Yn 1852 cafodd Rosas ei ddymchwel, a dychwelodd Mármol i'w famwlad. Ni ysgrifennodd lawer yn ystod deunaw mlynedd olaf ei oes. Gwasanaethodd mewn swyddi gwleidyddol a diplomyddol, ac yn gyfarwyddwr Llyfrgell Gyhoeddus Buenos Aires. Bu farw yn Buenos Aires yn 53 oed.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "José Mármol", Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar 14 Ebrill 2019.

Darllen pellach golygu

  • Stuart Cuthbertson, The Poetry of José Mármol (1935).